Search Legislation

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

RHAN 2Adnabod anifeiliaid

Adnabod anifeiliaid na chafodd eu hadnabod cyn 22 Ionawr 2008

5.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i—

(a)anifeiliaid a anwyd cyn 22 Ionawr 2008 na chafodd eu hadnabod cyn y dyddiad hwnnw ac sydd ar eu daliad geni; a

(b)anifeiliaid a anwyd ar neu ar ôl 22 Ionawr 2008.

(2Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf) ac Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon onis awdurdodir y dull adnabod amgen a osodir yn erthygl 6.

(3At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad y Cyngor, y terfynau amser ar gyfer adnabod anifail yw—

(a)9 mis o'r dyddiad geni, yn achos anifail a gedwir o dan amodau ffermio llai dwys neu ar faes; neu

(b)6 mis o'r dyddiad geni, yn achos unrhyw anifail arall.

(4Caniateir i dag clust a osodir fel y modd adnabod cyntaf neu'r ail fodd adnabod fod mewn unrhyw liw heblaw coch.

(5Rhaid i'r cod adnabod ar fodd adnabod at ddibenion Adran A.2 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod fel a ganlyn—

(a)y llythrennau “UK”;

(b)nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y cafodd yr anifail ei eni; ac

(c)Rhif unigryw;

a rhaid iddynt fod yn union yr un fath ar y modd adnabod cyntaf ac ar yr ail fodd adnabod.

Adnabod anifeiliaid a fwriadwyd ar gyfer eu cigydda

6.—(1Ar gyfer anifeiliaid a fwriadwyd ar gyfer eu cigydda cyn 12 mis oed ac nas bwriadwyd ar gyfer eu hallforio, awdurdodir y dull adnabod yn Adran A.7 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fel dull amgen i'r modd adnabod y cyfeirir ato yn erthygl 4(2) o'r Rheoliad hwnnw.

(2Rhaid i'r cod adnabod at ddibenion Adran A.7 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod yn union yr un fath â'r hyn a osodir yn is-baragraffau (a) i (c) o erthygl 5(5).

(3Rhaid i unrhyw anifail sy'n cael ei adnabod drwy'r modd adnabod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) (“y tag adnabod cyntaf”), gael ei adnabod drwy ail fodd adnabod yn unol â pharagraffau (4) i (6)—

(a)os na chafodd ei gigydda cyn ei fod yn 12 mis oed; neu

(b)os traddodwyd ef ar gyfer ei allforio.

(4Rhaid i'r ail fodd adnabod fod naill ai—

(a)yn dag adnabod ychwanegol neu, onid yw'n fwriad allforio'r anifail, yn datŵ, gyda'r un cod adnabod ag sydd ar y tag adnabod cyntaf; neu

(b)yn ddau dag adnabod ychwanegol neu, onid yw'n fwriad allforio'r anifail, yn dag adnabod a thatŵsy'n dwyn—

(i)y llythrennau “UK”;

(ii)nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y mae'r anifail pan osodir y modd adnabod ychwanegol; a

(iii)Rhif unigryw.

(5Os gosodir dau fodd adnabod ychwanegol rhaid i'r ceidwad—

(a)beidio â thynnu na difwyno'r tag adnabod cyntaf;

(b)cofnodi gwybodaeth am ychwanegu'r modd adnabod newydd gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd adnabod ychwanegol a llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod gwreiddiol yng ngholofnau 1, 2 a 3 o'r gofrestr.

(6Yn achos anifeiliaid a draddodir ar gyfer eu hallforio rhaid i'r ceidwad osod yr ail fodd adnabod cyn i'r anifail adael y daliad tarddu.

Adnabod anifeiliaid a gafodd eu hadnabod cyn 22 Ionawr 2008

7.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i anifeiliaid sy'n cael eu hadnabod cyn 22 Ionawr 2008.

(2Dim ond y modd adnabod cyntaf, fel a osodir yn erthygl 4(2)(a) o Reoliad y Cyngor, sy'n ofynnol ar gyfer anifeiliaid a gafodd eu hadnabod â Rhif unigryw cyn 22 Ionawr 2008.

(3Yn achos anifeiliaid a gafodd eu hadnabod cyn 22 Ionawr 2008, ond pan nad yw'r marc adnabod presennol yn cynnwys Rhif unigryw, rhaid i geidwad ailadnabod yr anifeiliaid hynny cyn eu symud o ddaliad fel eu bod yn dwyn dau fodd adnabod—

(a)yn achos anifail sydd ar ei ddaliad geni, rhaid iddynt fod yn unol â'r darpariaethau yn Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor; neu

(b)yn achos anifail nad yw ar ei ddaliad geni, rhaid iddynt fod yn ddau dag cyfnewid, ac yn yr achos hwnnw rhaid i'r ceidwad gofnodi gwybodaeth am ychwanegu'r modd adnabod newydd gan gynnwys y cod adnabod yn llawn ar y tagiau cyfnewid a llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod blaenorol yng ngholofnau 1, 2 a 3 o'r gofrestr.

Adnabod anifeiliaid na chafodd eu hadnabod cyn 22 Ionawr 2008 nad ydynt ar eu daliad geni

8.  Rhaid i'r ceidwad adnabod anifeiliaid na chawsant eu hadnabod cyn 22 Ionawr 2008 nad ydynt mwyach ar eu daliad geni gyda dau dag cyfnewid cyn i'r anifeiliaid adael daliad.

Adnabod anifeiliaid ar gyfer eu hallforio

9.—(1Rhaid i geidwad adnabod pob anifail ar gyfer ei allforio drwy'r modd adnabod cyntaf a'r ail fodd adnabod fel a osodir yn Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor neu erthygl 6(4)(b), ac eithrio bod yn rhaid i'r ail fodd adnabod fod yn dag adnabod ac nid yn datw.

(2Ni chaiff neb draddodi anifail af gyfer ei allforio-

(a)os cafodd ei dagio yn unol ag erthygl 8;

(b)os cafodd ei aildagio yn unol ag erthygl 7(3)(b), 18(3)(a), 18(4)(a) 19(5)(a) neu 19(6)(a); neu

(c)os cafodd ei aildagio yn unol ag erthygl 17(4) ac o ganlyniad caiff ei adnabod drwy ddau fodd adnabod o'r newydd.

Adnabod anifeiliaid a fewnforir o drydydd gwledydd

10.—(1Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon.

(2At ddibenion Erthygl 4(4) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod ar gyfer adnabod anifail yw 14 o ddiwrnodau.

(3Rhaid i fodd adnabod ar gyfer anifeiliaid a fewnforir o drydydd gwledydd fod yr un fath â'r hyn a osodir yn Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor a'r cod adnabod at ddibenion Adran A.2 o'r Atodiad yw—

(a)y llythrennau “UK”;

(b)nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y cafodd yr anifail ei fewnforio iddi;

(c)Rhif unigryw.

(4Os cafodd anifail ei fewnforio o drydedd gwlad a chael ei ailadnabod yn unol â'r erthygl hon, rhaid i'r ceidwad gofnodi ychwanegu modd adnabod newydd gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd adnabod newydd a'r cod adnabod llawn ar y dull adnabod a osodir yn y drydedd gwlad yng ngholofnau 1, 2 a 3 o'r gofrestr.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources