- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
31. Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson sydd wedi ei gyhuddo o fynd yn groes i, neu beidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn sy'n ymwneud â symud anifail o ddaliad heb roi neu osod arno y modd adnabod sy'n ofynnol i brofi bod yr anifail wedi cael ei symud o'r daliad er mwyn cael triniaeth frys gan filfeddyg.
32.—(1) Caiff arolygydd, at unrhyw ddiben sy'n ymwneud â gorfodi'r Gorchymyn hwn—
(a)casglu, corlannu a marcio unrhyw anifail a'i gwneud yn ofynnol i geidwad drefnu casglu, corlannu, marcio a diogelu unrhyw anifail;
(b)ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad ddangos neu gopïo unrhyw ddogfen neu gofnod;
(c)symud neu gadw unrhyw ddogfen neu gofnod;
(ch)cael mynediad at, a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â chofnodion;
(d)os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol bod y cofnod yn cael ei ddangos ar ffurf y gellir ei dwyn ymaith;
(dd)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dagiau adnabod nas defnyddiwyd, a chofnod o'u Rhif au gael eu dangos;
(e)mynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef sy'n gweithredu at ddibenion Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor, neu fynd ag unrhyw bobl neu bethau gydag ef y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol.
(2) Os yw'n ofynnol i berson wneud unrhyw beth i arolygydd sy'n gweithredu o dan baragraff (1) rhaid iddo, oni fydd ganddo achos rhesymol, wneud hynny'n ddi—oed.
33.—(1) Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud diadell o ddefaid i'r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os yw wedi'i fodloni bod y gwaharddiad yn angenrheidiol ar gyfer gorfodi'n briodol y Gorchymyn hwn o ran y ddiadell honno.
(2) Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud geifre i'r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os yw wedi'i fodloni bod y gwaharddiad yn angenrheidiol ar gyfer gorfodi'n briodol y Gorchymyn hwn o ran yr eifre honno.
(3) Caniateir diwygio neu ddirymu hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon drwy hysbysiad ychwanegol ar unrhyw adeg.
34. Rhaid i berson beidio â rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol i berson sy'n gweithredu o dan y Gorchymyn hwn.
35.—(1) Os dangosir bod tramgwydd wedi'i gyflawni yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 gan gorff corfforaethol—
(a)gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu
(b)os priodolir ef i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y swyddog yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o dramgwydd ac yn atebol i gael achos yn eu herbyn a'u cosbi yn unol â hynny.
(2) Os bydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys o ran gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n gyfarwyddwr y corff corfforaethol.
(3) ystyr “swyddog”, o ran corff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu berson sy'n cymryd arno ei fod yn gweithredu yn y cyfryw swydd.
36.—(1) Bydd y Gorchymyn hwn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod gorfodi dyletswydd a osodir ar awdurdod lleol o dan y Gorchymyn hwn i'w gyflawni gan Weinidogion Cymru ac nid gan yr awdurdod lleol.
37. Dirymir y canlynol—
(1) Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006(1); a
(2) Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygio) (Cymru) 2006(2).
O.S. 2005/1036 a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/2926.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: