Search Legislation

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008, mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 22 Ionawr 2008.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “anifail” (“animal”) yw unrhyw anifail o rywogaeth y ddafad neu'r afr;

ystyr “allforio” (“export”) yw anfon i Aelod-wladwriaeth arall neu i drydedd wlad;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd at ddibenion y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod lleol;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) o ran ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “canolfan ymgynnull” (“assembly centre”) yw unrhyw ddaliad, canolfan gasglu neu farchnad lle y mae defaid neu eifr sy'n tarddu o wahanol ddaliadau wedi'u grwpio ynghyd i ffurfio llwythi o anifeiliaid a fwriedir ar gyfer eu hallforio neu a ddefnyddir yn ystod allforio;

mae i “ceidwad” yr ystyr a roddir i “keeper” yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor;

ystyr “cod adnabod” (“identification code”) yw'r cod a osodir ar fodd adnabod fel sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn;

ystyr “cofrestr” (“register”) yw'r gofrestr sy'n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor ac sydd yn y ffurf a osodir y Atodlen 1;

ystyr “colofn 1 o adran 2 o'r gofrestr” (“column 1 of section 2 of the register”) yw'r golofn sy'n dwyn y pennawd “Dyddiad gosod y tag cyfnewid” yn y Cofnod Tag Cyfnewid (tag R yn unig) yn Atodlen 2;

ystyr “colofn 2 o adran 2 o'r gofrestr” (“column 2 of section 2 of the register”) yw'r golofn sy'n dwyn y pennawd “Rhif Tag Cyfnewid (R)” yn y Cofnod Tag Cyfnewid (tag R yn unig) yn Atodlen 2;

ystyr “colofn 3 o adran 2 o'r gofrestr” (“column 3 of section 2 of the register”) yw'r golofn sy'n dwyn y pennawd “Llythrennau a Rhif Blaenorol Diadell neu Eifre (os yw'n hysbys)” yn y Cofnod Tag Cyfnewid (tag R yn unig) yn Atodlen 2;

ystyr “CPH” (“CPH”) yn y ffurfiau yn Atodlenni 1 a 2, yw Rhif y daliad ym mhlwyf y sir, a neilltuir i unrhyw fangre neu ran o fangre gan Weinidogion Cymru;

ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC” (“Council Directive 92/102/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ynglŷn ag adnabod a chofrestru anifeiliaid(1);

mae i “daliad” yr ystyr a roddir i “holding” yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor;

ystyr “y daliad tarddu” (“holding of origin”) yw'r daliad lle yr oedd yr anifail yn bresennol arno yn union cyn symud i ganolfan ymgynnull neu, os traddodir anifail ar gyfer ei allforio heblaw drwy ganolfan ymgynnull, y daliad lle y mae anifail yn bresennol arno yn union cyn ei allforio;

ystyr “dogfen symud” (“movement document”) yw'r ddogfen symud sy'n ofynnol gan Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor;

ystyr “dull adnabod” (“method of identification”) yw tag clust neu datŵa osodir mewn Aelod-wladwriaeth arall neu drydedd gwlad;

ystyr “y Gorchmynion blaenorol” (“the previous Orders”) yw —

(a)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2005(2);

(b)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) (Rhif 2) (Diwygio) 2002(3);

(c)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) 2002(4);

(ch)

Gorchymyn Adnabod Defaid a Geifr (Lloegr) 2000(5);

(d)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006(6);

(dd)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(7);

(e)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(8);

(h)

Rheoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(9);

(ff)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Gogledd Iwerddon) 2005(10);

(g)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 2004(11));

(ng)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 1997(12));

(h)

Rheoliadau Defaid a Geifr (Adnabod a Gallu Olrhain) (Yr Alban) 2006(13));

(m)

Gorchymyn Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Yr Alban) 2002(14)); neu

(n)

Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Yr Alban) 2000(15);

ystyr “gweithredydd lladd-dy” (“slaughterhouse operator”) yw person sy'n rhedeg busnes lladd-dy neu gynrychiolydd i berson o'r fath a awdurdodwyd yn briodol;

ystyr “gweithredydd marchnad” (“market operator”) yw person sy'n gyfrifol am reoli derbyn neu werthu anifeiliaid mewn marchnad neu gynrychiolydd i berson o'r fath a awdurdodwyd yn briodol;

ystyr “marc adnabod” (“identification mark”) yw dull adnabod a osodir mewn Aelod-wladwriaeth arall, modd adnabod neu fodd hŷn o adnabod;

ystyr “modd adnabod” (“means of identification”) yw tag adnabod neu datŵadnabod;

ystyr “modd adnabod o'r newydd” (“replacement means of identification”) yw tag cyfnewid neu datŵcyfnewid;

ystyr “modd hŷn o adnabod” (“older means of identification”) yw tag clust neu datŵa osodwyd o dan y Gorchmynion blaenorol;

ystyr “nod y ddiadell” (“flockmark”) yw'r Rhif a ddyrannwyd gan Weinidogion Cymru o ran diadell o ddefaid ar ddaliad;

ystyr “nod yr eifre” (“herdmark”) yw'r Rhif a ddyrannwyd gan Weinidogion Cymru o ran geifre ar ddaliad;

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru defaid a geifr ac sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003 a Chyfarwyddebau 92/102/EEC a 64/432/EEC(16);

ystyr “Rhif unigryw” (“unique number”) yw Rhif sy'n unigryw i anifail mewn diadell neu eifre ac nad yw'n cynnwys mwy na 6 digid;

ystyr “tag adnabod” (“identification tag”) yw tag clust a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 11 sy'n dwyn yr wybodaeth a roddir yn is-baragraffau (a) i (c) yn erthygl 5(5);

ystyr “tag cyfnewid” (“replacement tag”) yw tag clust coch a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 11 gyda chod yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol, wedi ei hargraffu yn y drefn sy'n dilyn—

(a)

y llythrennau “UK”;

(b)

nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y mae'r anifail pan osodir y tag adnabod;

(c)

Rhif unigryw; ac

(ch)

y llythyren “R”;

ystyr “tatŵcyfnewid” (“replacement tattoo”) yw tatŵsy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol, wedi ei hargraffu yn y drefn sy'n dilyn—

(a)

y llythrennau “UK”;

(b)

nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y mae'r anifail pan osodir y tatŵ;

(c)

Rhif unigryw; ac

(ch)

y llythyren “R”.

(2Mae gan yr ymadroddion nas diffinnir ym mharagraff (1) ac mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt hefyd yn cael eu defnyddio yn Rheoliad y Cyngor, yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad hwnnw.

Yr awdurdod cymwys

3.  Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor.

Awdurdodiadau

4.  Rhaid i unrhyw awdurdodi neu gymeradwyo a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn neu o dan Reoliad y Cyngor fod mewn ysgrifen. Gall fod yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu trwy hysbysiad ar unrhyw adeg.

(1)

OJ Rhif L 355, 5.12.92, t.32.

(2)

O.S. 2005/3100, a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/2987.

(4)

O.S. 2002/240, a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/764 ac O.S. 2002/1349.

(5)

O.S. 2000/2027, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/281.

(10)

Rh.St. 2005/535 (GI) a ddiwygiwyd gan Rh.St. (GI) 2006/508.

(11)

Rh.St. (GI) 2004 Rhif 491.

(12)

Rh.St. (GI) 1997 Rhif 173, a ddiwygiwyd gan Rh.St. (GI) 1998 Rhif 393.

(13)

O.S.A. 2006/73 a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2006/594.

(14)

O.S.A 2002/38, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/221.

(15)

O.S.A. 2000/418, a ddiwygiwyd gan O.S.A 2002/531 ac O.S.A. 2002/39.

(16)

OJ Rhif L 5, 9.1.04, t. 8 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources