RHAN 9Anifeiliaid a ddygwyd i mewn i Gymru

Derbyn anifeiliaid o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

30.  Ni chaiff neb dderbyn anifail o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon oni bai bod yr anifail wedi ei adnabod a'i dagio a bod dogfen symud gydag ef yn unol â—

(a) yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005, Rheoliad y Cyngor, gan gynnwys unrhyw randdirymiad a arferwyd o dan Reoliad y Cyngor; neu

(b)yn achos anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005, unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol ac unrhyw ofynion ychwanegol sydd wedi eu gosod mewn deddfwriaeth sy'n gorfodi Rheoliad y Cyngor o ran y cyfryw anifail.