- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
19.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo modd adnabod neu fodd adnabod hŷn gan anifail â ffurf adnabod sengl ar goll neu'n annarllenadwy.
(2) Yn yr erthygl hon ystyr “anifail â ffurf adnabod sengl” yw—
(a)anifail sy'n cael ei adnabod yn unol â pharagraffau (1) a (2) neu erthygl 6 o ddarpariaethau tebyg sy'n rhoi effaith i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon; neu
(b)anifail sy'n cael ei adnabod gydag un modd adnabod hyn yn unig a osodwyd o dan Orchmynion blaenorol.
(3) Os bydd ceidwad yn cyfnewid tag sydd ar goll neu'n annarllenadwy ar anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005 rhaid i fodd adnabod newydd neu fodd adnabod o'r newydd fod yn dag adnabod ac nid yn datŵ.
(4) Os yw'r anifail ar ei ddaliad geni rhaid i'r ceidwad—
(a)cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hŷn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â modd adnabod newydd; a
(b)cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid yng ngholofn 1 a 2 o adran 2 o'r gofrestr.
(5) Os yw nod gwreiddiol y ddiadell neu nod gwreiddiol yr eifre yn hysbys ac nad yw'r anifail ar ei ddaliad geni, rhaid i'r ceidwad naill ai—
(a)cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hŷn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â modd adnabod o'r newydd a—
(i)cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd adnabod o'r newydd yng ngholofn 1 a 2 o adran 2 o gofrestr y daliad; a
(ii)cofnodi llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod gwreiddiol neu'r modd adnabod hŷn, yng ngholofn 3 o'r gofrestr; neu
(b)cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hyn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â thag adnabod sy'n dwyn nod y ddiadell neu nod yr eifre o ddaliad geni'r anifail.
(6) Os nad yw nod gwreiddiol y ddiadell neu nod gwreiddiol yr eifre yn hysbys, rhaid i'r ceidwad—
(a)cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hŷn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â modd adnabod o'r newydd; a
(b)cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid yng ngholofn 1 a 2 o adran 2 o'r gofrestr.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: