- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Rheoliad 13
1. Rhaid i gig dan gyfyngiadau o anifeiliaid gael ei farcio â marc adnabod—
(a)sy'n groes groeslin, a osodwyd ar ben y marc iechyd neu'r marc adnabod a osodir o dan erthygl 5 o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodedig ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(1) neu erthygl 4 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 a (EC) Rhif 854/2004(2), sy'n ddwy linell syth sy'n croesdorri ar ganol y stamp ac sy'n caniatáu i'r wybodaeth a geir ar y marc sydd yno barhau'n ddarllenadwy, neu
(b)stamp hirgrwn unigol, ei led yn 6.5 cm a'i uchder yn 4.5 cm, y mae'r wybodaeth ganlynol yn ddarllenadwy arno:
(i)ar y rhan uchaf, y llythrennau UK;
(ii)yn y canol, rhif cymeradwyo'r sefydliad;
(iii)ar y rhan isaf, y llythrennau EC;
(iv)dwy linell syth sy'n croesi ar ganol y stamp yn y fath fodd nad yw'r wybodaeth yn cael ei chuddio;
(v)gwybodaeth sy'n dynodi pwy oedd yr arolygydd milfeddygol a arolygodd y cig.
2. Os defnyddir y stamp hirgrwn unigol y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b)—
(a)rhaid i'r llythrennau fod yn o leiaf 0.8 cm eu huchder;
(b)rhaid i'r ffigurau fod yn o leiaf 1 cm eu huchder; ac
(c)rhaid i'r defnydd o'r marc gael ei oruchwylio gan swyddog o'r Gwasanaeth Hylendid Cig.
3. Rhaid i gig dan gyfyngiadau o ddofednod gael ei farcio â marc adnabod—
(a)sy'n farc gwladol y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Reoliad y Comisiwn 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer cyflawni Rheoliad (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(3); neu
(b)y marc a ddisgrifir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2007/118/EC sy'n gosod rheolau manwl o ran marc adnabod amgen yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC(4).
4. Ceir gosod y marc adnabod yn unol â'r dulliau ym mharagraff 9, 10, 11 a 13 o adran 1(C) o Atodiad II i Reoliad EC Rhif 853/2004 sy'n gosod rheolau hylendid penodedig ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(5).
5. Y “Gwasanaeth Hylendid Cig” (“Meat Hygiene Service”) yw'r corff sy'n dwyn yr enw hwnnw ac sy'n asiantaeth weithredol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
OJ Rhif L 226, 25.6.2004, t. 22.
OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t. 83.
OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t. 83.
OJ Rhif L 51, 20.02.2007, t. 19.
OJ Rhif L 226, 25.06.2004, t. 22.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: