ATODLEN 1Myfyrwyr Cymwys

RHAN 1

Dehongli1

1

At ddibenion yr Atodlen hon —

  • ystyr “aelod o deulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) yw —

    1. a

      o ran gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol o'r AEE, person hunangyflogedig ffin yr AEE neu berson hunangyflogedig o'r AEE

      1. i

        ei briod neu ei bartner sifil;

      2. ii

        ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu

      3. iii

        perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

    2. b

      o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig Swisaidd—

      1. i

        ei briod neu ei bartner sifil; neu

      2. ii

        ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;

    3. c

      o ran gwladolyn o'r Gymuned Ewropeaidd sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 —

      1. i

        ei briod neu ei bartner sifil; neu

      2. ii

        ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd —

        1. aa

          o dan 21 oed; neu

        2. bb

          yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;

    4. ch

      o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 —

      1. i

        ei briod neu ei bartner sifil; neu

      2. ii

        ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd —

        1. aa

          o dan 21 oed; neu

        2. bb

          yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;

      3. iii

        perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

    5. d

      o ran gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9 —

      1. i

        ei briod neu ei bartner sifil; neu

      2. ii

        ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd —

        1. aa

          o dan 21 oed; neu

        2. bb

          yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;

  • ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r ardal sydd yn y Gwladwriaethau AEE;

  • ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o'r rhan arall, ar Symud Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 199976 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

  • ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl fel y digwydd;

  • ystyr “gweithiwr mudol o'r AEE ” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr, heblaw gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE

    1. a

      sy'n weithiwr yng Nghymru; a

    2. b

      sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “gwladolyn AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth yn yr AEE heblaw'r Deyrnas Unedig;

  • ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;

  • ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

  • ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson cyflogedig, heblaw person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd —

    1. a

      yn berson cyflogedig yng Nghymru; a

    2. b

      yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw —

    1. a

      o ran gwladolyn o'r AEE, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl fel y digwydd; neu

    2. b

      o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

  • ystyr “person hunangyflogedig o'r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunangyflogedig, heblaw person hunangyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sydd —

    1. a

      yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

    2. b

      yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunangyflogedig, heblaw person hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person hunangyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd —

    1. a

      yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

    2. b

      yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth EEA heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth EEA honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 197177.

2

At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â gofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i'w ddehongli yn unol â hynny.

3

At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o'r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd ag—

a

y cwrs presennol; neu

b

a diystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn syth cyn ymgymryd â'r cwrs presennol,

i'w ystyried yn berson sy'n preswylio'n arferol yn y lle y mae wedi symud ohono.

4

At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i gael ei drin fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a Thwrci pe bai wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod —

a

y person hwnnw;

b

ei briod neu ei bartner sifil;

c

ei riant; neu

ch

yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn ef neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn ôl fel y digwydd, y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir.

5

At ddibenion is-baragraff (3), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a Thwrci yn cynnwys —

a

yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu'r llu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r cyfryw luoedd; a

b

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir fel aelodau o'r cyfryw luoedd; ac

c

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o'r cyfryw luoedd.

6

At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal —

a

nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

b

sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall, neu o'r ddwy, o'r ardaloedd hyn,

i'w hystyried fel pe bai wastad wedi bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.