Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

Cyfnod cymhwystra

81.—(1Mae myfyriwr yn cadw ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig hyd onid yw'r statws yn dod i ben yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliad 79.

(2Y cyfnod y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw ei statws yw'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

(3Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 79, mae'r cyfnod cymhwystra yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau ei gwrs rhan-amser dynodedig ynddi.

(4Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr rhan-amser cymwys —

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs rhan-amser dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu lle na fyddant yn trosglwyddo neu yn trosi ei statws o dan reoliad 87 neu 88; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs rhan-amser dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd berthnasol pan na all y myfyriwr rhan-amser cymwys gwblhau'r cwrs rhan-amser dynodedig o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 80(1)(c).

(6At ddibenion paragraff (5) ystyr “blwyddyn academaidd berthnasol” (“relevant academic year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae'n dod yn amhosibl i'r myfyriwr yn ystod y flwyddyn neu ar ei diwedd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 80(1)(c) hyd yn oed os bydd yn dwysáu ei astudiaethau.

(7Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(8Os Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr rhan-amser cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau —

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 91.

(9Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben—

(a)cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau'r cwrs rhan-amser dynodedig ynddi; a

(b)ac eithrio o dan baragraff (5),

caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu, neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.