RHAN 11CYMORTH I GYRSIAU DYSGU O BELL AMSER-LLAWN

Gordaliadau78

1

Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd oddi ar yr awdurdod academaidd.

2

Os bydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru, bydd yn rhaid i fyfyriwr dysgu o bell cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawl iddo o dan y Rhan hon.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai eu bod yn ystyried ei bod yn amhriodol i wneud hynny.

4

Y dulliau o adennill yw—

a

tynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf ;

b

cymryd unrhyw gamau eraill sydd ar gael i Weinidogion Cymru er mwyn adennill gordaliad.

5

Mae taliad o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu'n wahanol.

6

Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw dyddiad dechrau gwirioneddol tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw.

7

Dan yr amgylchiadau a roddir ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu'n wahanol.

8

Yr amgylchiadau yw—

a

bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar gyfer prynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

b

bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

c

nad yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn terfyn cyfnod cymhwystra'r myfyriwr.

9

Yr amgylchiadau yw—

a

bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; a

b

bod taliad grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn cael ei wneud ar gyfer offer arbenigol i'r myfyriwr ar derfyn y cyfnod cymhwystra.

10

Pan fo gordaliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn dychweliad offer arbenigol a brynwyd â'r grant fel modd i adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol i wneud hynny.