- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
75.—(1) Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—
(a)pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny; a
(b)pan nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.
(2) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl i'r myfyriwr mewn rhandaliadau rheolaidd ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys;
(b)bydd unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hawl iddo o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y trosglwydda'r myfyriwr ynddi yn cael ei anwybyddu wrth benderfynu swm y cymorth y gall bod ganddo hawl iddo am y flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;
(c)mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Ran 5 neu 6 y byddai'r myfyriwr, ar wahân i'r rheoliad hwn, â hawl iddo mewn cysylltiad â chwrs dynodedig o fewn y flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean pan ddaeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno, ac o ddau draean os daeth yn gyfryw fyfyriwr mewn chwarter diweddarach o'r flwyddyn honno;
(ch)pan fo swm grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i'r myfyriwr mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy'n daladwy iddo o dan Ran 5 i'r diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a dalwyd iddo i'r diben hwnnw, a phan fo'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol bydd y swm hwnnw yn ddim.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: