- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
68.—(1) At ddibenion rheoliad 67—
(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—
(i)priod myfyriwr dysgu o bell cymwys;
(ii)partner sifil myfyriwr dysgu o bell cymwys;
(iii)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel petai yn briod ag ef pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn 25 oed neu fwy ar y diwrnod cyntaf o'r flwyddyn academaidd y caiff ei asesu ar gyfer cymorth a phan ddechreuodd y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;
(iv)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel petai yn briod ag ef neu'n bartner sifil pan ddechreuodd myfyriwr dysgu o bell cymwys cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(b)nid yw person fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (a) i'w drin fel partner os—
(i)ym marn Gweinidogion Cymru fod y person hwnnw a'r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi gwahanu; neu
(ii)bod y person fel rheol yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nas cynhelir gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys;
(c)ystyr “incwm perthnasol” (“relevant income”) yw'r hyn a welir ym mharagraff (2).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae incwm perthnasol myfyriwr dysgu o bell cymwys yn hafal i'w ffynonellau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai—
(i)£2,000 yn achos ei bartner;
(ii)£2,000 yn achos yr unig blentyn neu'r plentyn hynaf sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner; a
(iii)£1,000 yn achos pob plentyn arall sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn fodlon bod ffynonellau ariannol y myfyriwr dysgu o bell cymwys am y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na'i ffynonellau ariannol am y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau gyfanswm yn £1,000 neu ragor, gallant asesu ffynonellau ariannol y myfyriwr hwnnw trwy gyfeirio at y ffynonellau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
(4) Yn y rheoliad hwn golyga ffynonellau ariannol myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn blwyddyn ariannol gyfanswm ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â chyfanswm incwm y flwyddyn honno unrhyw berson sy'n bartner i'r myfyriwr ar ddyddiad gwneud y cais.
(5) Yn y rheoliad hwn—
(a)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;
(b)ystyr “blwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi;
(c)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;
(ch)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cael ei gyfrifo mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;
(d)ystyr “incwm” (“income” ) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw geisiadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;
(dd)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;
(e)ystyr “cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir” (“specified designated distance learning course”) yw'r cwrs y mae'r person yn gwneud cais am gymorth tuag ato, neu pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs dysgu o bell dynodedig presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad neu fwy o'r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru o gwrs dysgu o bell (y “cwrs cychwynnol”) (“initial course”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf , y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir yw'r cwrs cychwynnol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: