RHAN 6BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Myfyrwyr sy'n preswylio gyda'u rhieni43

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw myfyriwr cymwys yn preswylio yng nghartref ei rieni a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni nad yw'n rhesymol disgwyl, o dan yr holl amgylchiadau, i rieni'r myfyriwr gynnal y myfyriwr oherwydd oedran, analluedd neu fel arall ac y byddai'n briodol i swm y benthyciad sy'n daladwy i fyfyriwr mewn categori heblaw categori 1 fod yn gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw, rhaid trin y myfyriwr fel pe na bai'n preswylio yng nghartref ei rieni.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2004.