- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
37.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cymorth arbennig mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu cost llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael eu hysgwyddo er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
(2) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw'n syrthio o fewn categori rhagnodedig o berson at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1), neu os ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n atebol i wneud taliadau mewn perthynas ag annedd a ragnodwyd gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o'r Ddeddf honno(2).
(3) Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—
(a)yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,415;
(b)yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,835; ac
(c)yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,835.
(4) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £1,415;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,850, mae'n cael swm sy'n hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,415 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,850, mae'n cael £625.
(5) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno —
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £2,835;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,850, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £2,835 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,850, neu os yw'r myfyriwr wrth wneud cais am y grant yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae'n cael £1,255.
(6) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £2,835;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,850, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £2,835 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,850 ond heb fod yn fwy na £39,300, mae'n cael swm sy'n hafal i RM−A, pan fo RM yn £1,255 ac A yn £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,850;
(ch)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,300, nid oes grant cymorth arbennig yn daladwy.
1992 p. 4. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967). Mewnosodwyd rheoliad 4ZA gan O.S. 1996/206, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1981 ac O.S. 2006/2144; mae yna offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.
Mae diwygiadau i adran 130 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 56 o Reoliadau Cymhorthdal Tai 2006 (O.S. 2006/213 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/718).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: