xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
29.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliadau 26 i 28 yw'r swm hwnnw o'r elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben, swm sy'n hafal i (A − B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol —
(a)i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 26;
(b)i ostwng swm sylfaenol y grant gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 27; ac
(c)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 28.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (13), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w chael yn daladwy.
(3) Os yw (A − B) yn hafal i neu'n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.
(4) Gostyngir swm grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) o ran dibynnydd mewn oed gan hanner y swm—
(a)os yw partner y myfyriwr cymwys—
(i)yn fyfyriwr cymwys; neu
(ii)yn dal dyfarniad statudol; a
(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner yn ymgymhwyso ar ei gyfer neu'r taliad y mae ganddo hawl iddo o dan y dyfarniad statudol.
(5) Gostyngir swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan baragraff (1) gan hanner y swm—
(a)os yw partner y myfyriwr cymwys—
(i)yn fyfyriwr cymwys; neu
(ii)yn dal dyfarniad statudol; a
(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner yn ymgymhwyso ar ei gyfer neu'r taliad y mae ganddo hawl iddo o dan y dyfarniad statudol.
(6) Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.
(7) Yn y rheoliad hwn —
A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a
B yw—
£1,130 os nad oes gan y myfyriwr cymwys blentyn dibynnol;
£3,385 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£4,515—
os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; neu
os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn;
£5,650 os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
(8) Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd —
(a)bod nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;
(b)bod person yn dod yn ddibynnydd i'r myfyriwr cymwys neu'n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;
(c)bod y myfyriwr cymwys yn dod yn rhiant unigol neu'n peidio â bod yn rhiant unigol;
(ch)bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 23(11).
(9) Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhieni yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol —
(a)faint o ddibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;
(b)pwy yw'r dibynyddion hynny;
(c)a yw'r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.
(10) Swm y grantiau ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni wedi'u cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.
(11) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu'r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y'u pennir o dan baragraff (9) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.
(12) Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw —
(a)yn achos person y cyfeirir ato ym mharagraff (8)(ch), chwarter sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ddigwydd heblaw chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru;
(b)fel arall, chwarter heblaw'r chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru.
(13) Caniateir gwneud didyniad yn unol â Rhan 9 o'r swm sy'n daladwy o ran elfen benodol o'r grantiau ar gyfer dibynyddion a gyfrifir o dan y Rhan hon.