xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3ATAL CERBYDAU RHAG SYMUD

Pŵer i atal cerbydau rhag symud

7.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 8, (terfynau ar y pŵer i atal cerbydau rhag symud) os bydd gan swyddog gorfodi sifil reswm i gredu y caniatawyd i gerbyd aros yn ei unfan yn unrhyw fan mewn ardal gorfodi sifil mewn amgylchiadau pan fo tâl cosb wedi dod yn daladwy, caiff y swyddog neu berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd osod dyfais sy'n atal y cerbyd rhag symud tra erys yn y man lle y daethpwyd o hyd iddo.

(2Ar unrhyw achlysur pan osodir dyfais ar gerbyd sy'n ei rwystro rhag symud yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i'r person sy'n gosod y ddyfais osod hefyd ar y cerbyd hysbysiad—

(a)sy'n dangos bod dyfais o'r fath wedi cael ei gosod ar y cerbyd ac yn rhybuddio na ddylid ceisio ei yrru neu fel arall beri iddo symud hyd nes y rhyddheir ef oddi wrth y ddyfais honno;

(b)sy'n pennu'r camau i'w cymryd er mwyn sicrhau ei ryddhad; ac

(c)sy'n rhybuddio bod symud dyfais sy'n rhwystro cerbyd rhag symud yn anghyfreithlon yn dramgwydd.

(3Rhaid peidio â thynnu neu ymyrryd â hysbysiad a osodwyd ar gerbyd yn unol â'r adran hon ac eithrio gan neu o dan awdurdod—

(a)y perchennog, neu'r person sydd â rheolaeth dros y cerbyd; neu

(b)yr awdurdod gorfodi.

(4Mae person sy'n mynd yn groes i baragraff (3) yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol.

(5Bydd unrhyw berson sydd, heb awdurdod i wneud hynny yn unol â'r Rheoliadau hyn, yn tynnu neu'n ceisio tynnu dyfais a osodwyd i rwystro cerbyd rhag symud yn unol â'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Terfynau ar y pŵer i atal cerbydau rhag symud

8.—(1Rhaid peidio â gosod dyfais sy'n atal cerbyd rhag symud ar gerbyd os arddangosir ar y cerbyd—

(a)bathodyn cyfredol person anabl; neu

(b)bathodyn cyfredol a gydnabyddir.

(2Mewn achos y byddai dyfais sy'n atal cerbyd rhag symud wedi cael ei gosod ar gerbyd oni bai am baragraff (1)(a), os nad oedd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio—

(a)yn unol â rheoliadau o dan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970(1)

(b)mewn amgylchiadau sy'n dod o fewn adran 117(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(2) (defnydd lle y byddai consesiwn person anabl ar gael),

bydd y person â rheolaeth dros y cerbyd yn euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(3Mewn achos y byddai dyfais sy'n atal cerbyd rhag symud wedi cael ei gosod ar gerbyd oni bai am baragraff (1)(b), os nad oedd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio—

(a)yn unol â rheoliadau o dan adran 21A o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970(3);

(b)mewn amgylchiadau sy'n dod o fewn adran 117(1A)(b) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(4)(defnydd lle y byddai consesiwn person anabl ar gael yn rhinwedd arddangos bathodyn nad yw'n fathodyn Prydain Fawr),

bydd y person â rheolaeth dros y cerbyd yn euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4Rhaid peidio â gosod dyfais atal cerbyd rhag symud ar gerbyd sydd mewn man parcio o ran tramgwydd sy'n golygu methiant, neu'n codi o fethiant—

(a)i dalu tâl parcio ynglŷn â'r cerbyd;

(b)i arddangos tocyn neu ddyfais parcio; neu

(c)i symud y cerbyd o'r man parcio erbyn diwedd y cyfnod y talwyd y tâl priodol amdano,

nes bod y cyfnod priodol wedi mynd heibio ers rhoi'r hysbysiad o dâl cosb o dan reoliad 5 o Reoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Hysbysiadau Tâl Cosbau, Gorfodi a Dyfarnu) (Cymru) 2008 ynglŷn â'r tramgwydd.

(5At ddibenion paragraff (4) y cyfnod priodol yw—

(a)yn achos cerbyd y mae 3 thâl cosb yn ddyledus yn ei gylch, 15 munud;

(b)mewn unrhyw achos arall, 30 munud.

Rhyddhau cerbydau a ataliwyd rhag symud

9.—(1Dim ond drwy neu o dan gyfarwyddyd person a awdurdodwyd gan awdurdod gorfodi i roi cyfarwyddyd o'r fath y caniateir rhyddhau cerbyd y gosodwyd dyfais atal rhag symud arno yn unol â rheoliad 7 oddi wrth y ddyfais honno.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (1), rhyddheir cerbyd o'r fath oddi wrth y ddyfais pan delir, drwy unrhyw un o'r dulliau a bennir yn yr hysbysiad a osodwyd ar y cerbyd o dan reoliad 7(2)—

(a)y tâl cosb sy'n daladwy ynglŷn â'r tramgwydd parcio ;

(b)y cyfryw dâl ynglŷn â'r rhyddhau a all fod yn ofynnol gan yr awdurdod gorfodi.

(1)

1970 p.44: o ran Cymru, diwygiwyd adran 21 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), Atodlen 30, gan Ddeddf Trafnidiaeth 1982 (p.49) adran 68, gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p.27), Atodlen 13, gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), Atodlen 5, paragraff 1, gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40), adran 35(2)-(5), Atodlen 8, gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, Atodlen 10, paragraff 8, Atodlen 18, gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 adran 94(1)-(4) a chan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 (p.13) Atodlen 1, paragraff 41.

(2)

1984 (p.27); o ran Cymru amnewidiwyd adran 117(1) gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 adran 35(6) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005, Atodlen 1, paragraff 44(1), (2) a chan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 94(5).

(3)

Mewnosodwyd adran 21A gan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005, adran 9.

(4)

Mewnosodwyd is-adran (1A) gan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005, Atodlen 1, paragraff 44.