- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
7.—(1) Caiff person wneud cais i Weinidogion Cymru am drwydded sy'n caniatáu i'r ceisydd losgi llystyfiant penodedig y tu allan i'r tymor llosgi neu mewn modd sydd wedi'i wahardd fel arall gan reoliad 6(1).
(2) Rhaid i unrhyw gais gael ei wneud mewn modd a bennir gan Weinidogion Cymru a rhaid iddo gael ei wneud heb fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad (neu'r dyddiad cyntaf os oes mwy nag un) y mae'r ceisydd yn bwriadu llosgi arno, ac—
(a)yn achos llosgiad (neu losgiadau) y bwriedir iddo (neu iddynt) ddigwydd yn ystod tymor llosgi, nid cyn diwedd y tymor llosgi blaenorol; neu
(b)yn achos llosgiad (neu losgiadau) y bwriedir iddo (neu iddynt) ddigwydd yn ystod tymor llosgi, nid mwy na 56 o ddiwrnodau cyn y dyddiad (neu'r dyddiad olaf os oes mwy nag un) y mae'r ceisydd yn bwriadu llosgi arno.
(3) Ni chaiff Gweinidogion Cymru roi trwydded ond os ydynt wedi'u bodloni bod y llosgi arfaethedig i'w wneud yn unol â darpariaethau cynllun llosgi a luniwyd gan y ceisydd a'i fod—
(a)yn achos tir rheilffordd, yn angenrheidiol neu'n hwylus i gynnal a chadw'r tir yn dda neu at ddibenion rheoli plâu; neu
(b)yn achos pob tir arall, yn angenrheidiol neu'n hwylus—
(i)i warchod, gwella neu reoli'r amgylchedd naturiol er lles y cenedlaethau presennol a rhai'r dyfodol; neu
(ii)er diogelwch unrhyw berson.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu—
(a)peidio â dyroddi trwydded o dan baragraff (3);
(b)dyroddi trwydded mewn cysylltiad â rhan yn unig o'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef; neu
(c)dyroddi trwydded yn ddarostyngedig i unrhyw amodau,
rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd mewn ysgrifen o'u penderfyniad ac o'r rhesymau drosto.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: