- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 16
1. Yn ddarostyngedig i baragraff 2, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau—
(a)mai dim ond semen a gaiff ei storio yn y ganolfan;
(b)bod semen ond yn cael ei storio yn y ganolfan os nad yw wedi dod i gyffyrddiad ag unrhyw semen arall ac—
(i)ei fod wedi'i gasglu a'i brosesu mewn canolfannau casglu CE, neu mewn canolfannau a gymeradwywyd fel arall i gasglu semen o dan y Gyfarwyddeb; neu
(ii)ei fod, ar ôl cael ei gasglu a'i brosesu mewn canolfannau casglu CE neu mewn canolfannau a gymeradwywyd fel arall i gasglu semen o dan y Gyfarwyddeb, wedi'i storio mewn canolfannau storio CE neu mewn canolfannau a gymeradwywyd fel arall i storio semen o dan y Gyfarwyddeb;
(c)na fydd yr asiant cryogenig a ddefnyddir wedi'i ddefnyddio o'r blaen ar gyfer cynhyrchion eraill sy'n dod o anifeiliaid; ac
(ch)bod pob dogn semen unigol yn cael ei selio, ei rifo a'i farcio'n glir fel bod modd cadarnhau'r wybodaeth ganlynol yn rhwydd—
(i)y dyddiad y casglwyd y semen;
(ii)p'un oedd yr anifail buchol a roes y semen o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(iii)brid yr anifail buchol a roes y semen; a
(iv)rhif trwydded y ganolfan lle cafodd y semen ei gasglu (os yw'n gymwys).
2. Er gwaethaf paragraff 1(a), caiff milfeddyg y ganolfan storio embryonau dwys-rewedig yn y ganolfan os yw—
(a)y storio hwnnw wedi'i awdurdodi gan Weinidogion Cymru;
(b)yr embryonau yn bodloni gofynion Cyfarwyddeb y Cyngor 89/556/EEC ar yr amodau iechyd anifeiliaid sy'n rheoli'r fasnach ryng-Gymunedol mewn embryonau anifeiliaid domestig o'r rhywogaeth fuchol a mewnforio embryonau o'r fath o drydydd gwledydd(1);
(c)y ganolfan yn cydymffurfio â rheoliadau 13, 14 a 15 o Reoliadau Embryonau Buchol (Eu Casglu, Eu Cynhyrchu a'u Trosglwyddo) 1995(2); ac
(ch)yr embryonau yn cael eu storio mewn cynwysyddion storio ar wahân i'r rhai sy'n cynnwys semen.
O.J. Rhif L 302, 19.10.1989, t.1.
O.S. 1995/2478, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3124.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: