Search Legislation

Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Darpariaethau cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Ebrill 2008.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “anifail ymlid” (“teaser animal”) yw anifail buchol a ddefnyddir fel cyfrwng cymorth i gasglu semen;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 10(4) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984;

mae “buchol” (“bovine”) yn cynnwys y rhywogaeth Bubalus bubalis a Bison bison;

mae i'r term “canolfan gasglu CE” (“EC collection centre”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(b)(i);

mae i'r term “canolfan gasglu ddomestig” (“domestic collection centre”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(b)(ii);

mae i'r term “canolfan gwarantîn CE” (“EC quarantine centre”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(a);

ystyr “canolfan semen buchol” (“bovine semen centre”) yw mangre sydd wedi ei thrwyddedu o dan reoliad 4;

mae i'r term “canolfan storio CE” (“EC storage centre”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(c)(i);

mae i'r term “canolfan storio ddomestig” (“domestic storage centre”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(c)(ii);

ystyr “corsen” (“straw”) yw cynhwysydd a ddefnyddir i gynnwys un dogn o semen;

ystyr “Cyfarwyddeb 64/432/EEC” (“Directive 64/432/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid sy'n effeithio ar y fasnach ryng-Gymunedol mewn anifeiliaid buchol ac anifeiliaid o deulu'r mochyn(1), fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno o dro i dro;

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 88/407/EEC sy'n gosod y gofynion ynghylch iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i'r fasnach ryng-Gymunedol mewn semen anifeiliaid domestig o'r rhywogaeth fuchol ac mewnforion ohono(2), fel y'i diwygiwyd o dro i dro;

ystyr “mangre sydd heb ei thrwyddedu” (“unlicensed premises”) yw mangre nad oes ganddi drwydded o dan reoliad 4;

ystyr “mam” (“dam”), yn achos anifeiliaid buchol sy'n deillio o drosglwyddo embryonau, yw derbynnydd yr embryo;

ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw milfeddyg neu ymarferydd milfeddygol sydd wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Milfeddygon 1966(3);

mae i “milfeddyg y ganolfan” (“the centre veterinarian”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 5(b);

ystyr “prosesu” (“processing”) yw un neu ragor o'r canlynol–

(a)

gwanhau (ac eithrio wrth gasglu semen neu'n union ar ôl gwneud hynny),

(b)

ychwanegu unrhyw sylwedd gyda'r bwriad o estyn bywyd naturiol y semen (ac eithrio wrth gasglu semen neu'n union ar ôl gwneud hynny),

(c)

ychwanegu unrhyw wrthfiotig,

(ch)

pacio i mewn i gorsennau neu gynwysyddion priodol eraill, a

(d)

rhewi;

ystyr “rheoliadau adnabod gwartheg” (“cattle identification regulations”) yw—

(e)

Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007(4); neu

(f)

Rheoliad y Cyngor 1760/2000, fel y'i diwygiwyd o dro i dro (yn achos anifeiliaid buchol a anwyd y tu allan i Gymru);

ystyr “Rheoliad y Cyngor 1760/2000” (“Council Regulation 1760/2000”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ynghylch labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion(5) ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(6), fel y'i diwygiwyd o dro i dro;

ystyr “semen ffres” (“fresh semen”) yw semen nad yw wedi'i rewi.

(2Mae i ymadroddion nad ydynt wedi'u diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny at ddibenion y Gyfarwyddeb.

Eithriadau

3.—(1Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys—

(a)pan fo semen yn cael ei gasglu er mwyn ffrwythloni anifail buchol yn artiffisial â semen ffres;

(b)o ran yr anifail buchol y mae'r semen yn cael ei gasglu oddi wrtho—

(i)pan na fo Gorchymyn a wnaed o dan adrannau 6(c), 8, 17, 23, 25, 26 neu 29 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(7) yn effeithio arno adeg casglu'r semen; neu,

(ii)pan fo Gorchymyn o'r fath yn effeithio arno, ond bod defnyddio ei semen wedi'i awdurdodi gan Weinidogion Cymru; ac

(c)adeg ffrwythloni'r anifail buchol—

(i)pan fo'n perthyn i'r un perchennog ac yn yr un fuches â'r anifail buchol y casglwyd y semen oddi wrtho; a

(ii)pan fo'n cael ei gadw ar yr un fangre â'r anifail buchol hwnnw.

(2Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo semen yn cael ei gasglu er mwyn—

(a)asesu pa mor addas yw anifail buchol i'w ddefnyddio at ddibenion bridio;

(b)diagnosio heintiad neu glefyd mewn anifail buchol; neu

(c)addysg neu ymchwil,

ar yr amod na chaiff y semen a gesglir ei ddefnyddio ar gyfer ffrwythloni artiffisial ac nad yw'n destun masnach ryng-Gymunedol.

(3Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ymchwil a awdurdodir o dan Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986(8).

(4Nid yw'r Rheoliadau hyn, i'r graddau y maent yn gymwys i semen a fwriedir ar gyfer masnach ryng-Gymunedol, yn gymwys i semen a gasglwyd ar neu cyn 31 Rhagfyr 1989.

(1)

OJ Rhif P 121, 29.7.1964, t. 1977. Ar ddyddiad y Rheoliadau hyn, cafodd y Gyfarwyddeb hon ei diwygio ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 599/2004 (OJ Rhif L 94, 31.3.2004, t. 44.)

(2)

OJ Rhif L 194, 22.7.1988, t. 10. Ar ddyddiad y Rheoliadau hyn, cafodd y Gyfarwyddeb hon ei diwygio ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/16/Ec (OJ Rhif L 11, 17.1.2006, t. 21).

(5)

OJ Rhif 204, 11.8.2000, t. 1.

(6)

OJ Rhif L 117, 7.51997, t. 1.

(7)

1981 p.22. Diddymwyd adran 17(4) gan Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984, adran 16(2) ac Atodlen 2.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources