Search Legislation

Gorchymyn Cyfeiriadau at Awdurdodau Iechyd 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 961 (Cy.85)

Y GWASANAETH IECHYD, CYMRU

Gorchymyn Cyfeiriadau at Awdurdodau Iechyd 2007

Wedi'u gwneud

20 Mawrth 2007

Yn dod I rym

1 Ebrill 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 75 o Ddeddf Iechyd 2006(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, Cychwyn a Dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyfeiriadau at Awdurdodau Iechyd 2007 a daw'r Gorchymyn i rym ar 1 Ebrill 2007.

(2Yn y Gorchymyn hwn mae i'r term “is-deddfwriaeth” yr un ystyr a roddir i'r term “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978(2).

Rhychwant

2.  Mae gan addasiad o ddeddfiad gan y Gorchymyn hwn yr un rhychwant â'r deddfiad a addaswyd.

Addasiadau o Ddeddfau Seneddol

3.  Mae'r deddfiadau a nodwyd yn yr Atodlen yn cael eu diwygio fel y nodir yno.

Addasiadau o gyfeiriadau at Awdurdodau Iechyd mewn is-ddeddfwriaeth

4.  Bydd pob cyfeiriad mewn is-ddeddfwriaeth at Awdurdod Iechyd neu Awdurdodau Iechyd yn cael eu trin fel cyfeiriadau at Fwrdd Iechyd Lleol neu Fyrddau Iechyd Lleol fel y bo'n briodol, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Mawrth 2007

Erthygl 3

YR ATODLENAddasiadau i Ddeddfau Seneddol sy'n gysylltiedig â diddymu Awdurdodau Iechyd Cymru a chreu Byrddau Iechyd Lleol

Deddfau Seneddol

Deddf Cymorth Gwladol 1948 (p.24)

1.  Yn adran 26 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (darparu llety mewn eiddo a gynhelir gan sefydliadau gwirfoddol), yn is-adran (1C) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

Deddf Lluoedd Arfog wrth Gefn ac Atodol (Amddiffyn Buddiannau Sifil) 1951 (p.65)

2.  Yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Lluoedd Arfog Wrth Gefn ac Atodol (Amddiffyn Buddiannau Sifil) 1951 (galluoedd mewn perthynas â pha daliadau y gellir eu gwneud o dan Ran 5 ac awdurdodau sy'n talu), ym mharagraff 15 yn lle “Health Authority ”, ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”.

Deddf Landlord a Thenant 1954 (p.56)

3.  Yn adran 57 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 (addasiad ar sail hawliau budd cyhoeddus o dan Ran 2), yn is-adran (6) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (p.67)

4.  Yn yr Atodlen i Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (cyrff y mae'r ddeddf hon yn gymwys iddynt), hepgorer paragraff (1)(f).

Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p.88)

5.  Yn adran 28 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (cadw neu ailddechrau defnyddio tir sydd ei angen at ddibenion cyhoeddus), yn is-adrannau (5)(d) a (6)(c) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 (p.46)

6.—(1Diwygir Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 fel a ganlyn.

(2Yn adran 63 (darparu cyfarwyddyd i swyddogion awdurdodau ysbytai a phersonau eraill a gyflogir, neu sy'n ystyried cyflogaeth, mewn rhai gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag iechyd neu lles) —

(a)yn isadran (1)(a) hepgorer y geiriau “Health Authority”;

(b)yn is-adran (2)(b) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”;

(c)yn is-adran (5A) hepgorer y geiriau “Health Authority” yn y ddau fan lle y digwydd; ac

(ch)yn is-adran (5B) hepgorer paragraff (a).

(3Yn adran 64 (cymorth ariannol gan y Gweinidog Iechyd a'r Ysgrifennydd Gwladol i rai sefydliadau gwirfoddol), yn is-adran (3)(b) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (p.42)

7.  Yn Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol), yn y cofnod ar gyfer Deddf Plant 1989 yn lle “health authorities” rhodder “Local Health Boards”.

Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70)

8.—(1Diwygir Deddf Llywodreath Leol 1972 fel a ganlyn.

(2Yn adran 113 (rhoi staff awdurdodau lleol at wasanaeth awdurdodau lleol eraill)—

(a)yn is-adrannau (1A), (1A)(a) a (1A)(b) yn lle “Health Authority” ym mob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”; a

(b)yn is-adran (4) ar ôl y geiriau “In subsection (1A) above” mewnosoder ““Local Health Board” means a Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006”.

Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 (p.37)

9.  Yn adran 60 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 (atodol), yn is-adran 1 yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

Deddf Datgymhwysiad Ty'r Cyffredin 1975 (p.24)

10.—(1Diwygir Deddf Datgymhwysiad Ty'r Cyffredin 1975 fel a ganlyn.

(2Yn atodlen 1 (swyddi sy'n anghymwyso ar gyfer aelodaeth), yn Rhan 3 (swyddi eraill sy'n anghymwyso) —

(a)yn y cofnod sy'n dechrau “Chairman or any member, not being also an employee of any Strategic Health Authority, Health Authority or Special Health Authority” hepgorer y geiriau “Health Authority”; a

(b)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder —

  • Chairman or any member, not being also an employee, of a Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006..

Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (p.70)

11.  Yn adran 21C o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (pwerau i gynghori ynglyn â materion tir), yn is-adran (2)(f) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (p.74)

12.—(1Diwygir Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1A (cyrff a phersonau eraill sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd statudol gyffredinol), yn Rhan 1 (categorïau gwreiddiol cyrff a phersonau eraill) —

(a)ym mharagraff 5 hepgorer y geiriau “or a Health Authority”; a

(b)ar ôl paragraff 5 mewnosoder —

5A.  A Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006..

Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20)

13.—(1Diwygir Deddf Iechyd Meddwl 1983 fel a ganlyn.

(2Yn adran 23 (rhyddhau cleifion) —

(a)yn is-adran (3) yn lle “Health Authority”, yn y ddau fan lle y digwydd, rhodder “Local Health Board”;

(b)yn is-adran (4) ar ôl “trust”, ym mhob man y digwydd, rhodder “, board”;

(c)yn adran (5) yn y geiriau cyn paragraff (a) ar ol “trust”, yn y ddau fan lle y digwydd, mewnosoder “, board”; a

(ch)yn is-adran (5)(a) —

(i)yn lle “Health Authority”, yn y ddau fan lle y digwydd, rhodder “Local Health Board”;

(ii)yn lle “or trust” yn y ddau fan lle y digwydd, rhodder, “, trust or board”; a

(iii)yn lle “such members (of the authority, trust, committee or sub-committee” rhodder “such members (of the authority, trust, board, committee or sub-committee”.

(3Yn adran 24 (ymweld ac archwilio cleifion), yn is-adran (3) yn lle “Health Authority”, yn y ddau fan lle y digwydd, rhodder “Local Health Board”.

(4Yn adran 25A (cais am oruchwyliaeth), yn is-adrannau (6), (7) a (8) yn lle “Health Authority”, ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”.

(5Yn adran 25C (ceisiadau am oruchwyliaeth: atodol), yn is-adran (6) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

(6Yn adran 25F (ailddosbarthu claf yn ddarostyngedig i ôl-ofal o dan oruchwyliaeth), yn is-adran (1) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

(7Yn adran 32 (rheoliadau at ddibenion Rhan 2), yn is-adran (3) —

(a)yn lle “Health Authorities” rhodder “Local Health Boards”; a

(b)ar ôl “managers” mewnosoder “, boards,”.

(8Yn adran 39 (gwybodaeth am ysbytai) —

(a)yn is-adran (1) yn lle “Health Authority” ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”;

(b)yn is-adran 1(b) yn lle “any other” rhodder “the National Assembly for Wales or any other”;

(c)yn is-adran (1) cyn y geiriau “have or can reasonably” mewnosoder “or National Assembly for Wales”; a

(ch)yn is-adran (1) cyn y geiriau “shall comply with any such request” mewnosoder “or National Assembly for Wales”.

(9Yn adran 117 (ôl-ofal) yn is-adrannau (2), (2A) a (3) yn lle “Health Authority”, ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”.

(10Yn adran 134 (gohebiaeth cleifion), yn is-adran 3(e) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

(11Yn adran 139 (diogelu camau gweithredu a wneir yn unol â'r ddeddf hon), yn is-adran (4) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

(12Yn adran 140 (hysbysu ysbytai sydd â threfniadau ar gyfer derbyn achosion brys), yn lle “Health Authority”, ym mhob man y digwydd, rhodder, “Local Health Board”.

(13Yn adran 145 (dehongli), yn is-adran (1) —

(i)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder —

“Local Health Board” means a Local Health Board established under section 11 of the National Health Services (Wales) Act 2006;; a

(ii)yn y diffiniad o “the managers” yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p.22)

14.—(1Diwygir Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 fel a ganlyn.

(2Yn adran 1 (awdurdodau sy'n gweinyddu'r ddeddf), yn is-adran (4)(b) yn lle “Health Authorities” rhodder “Local Health Boards”.

(3Yn adran 11 (achosion o glefydau hysbysadwy a gwenwyn bwyd i gael eu cofnodi), yn is-adrannau (3)(a) a (3)(b)(ii) yn lle “Health Authority”, ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”.

(4Yn adran 12 (ffioedd ar gyfer tystysgrifau o dan s11), yn is-adran (1) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

(5Yn adran 13 (rheoliadau ar gyfer rheoli clefydau arbennig), yn is-adran (4)(a) yn lle “Health Authorities” rhodder “Local Health Boards”.

(6Yn adran 37 (symud person sydd â chlefyd hysbysadwy i'r ysbyty) —

(a)yn is-adrannau (1)(c) a (1A) yn lle “Health Authority”, ym mhob man y digwydd, rhodder “Local Health Board”; a

(b)yn is-adran (1)(c) cyn y geiriau “or other person” mewnosoder “, Local Health Board”.

(7Yn adran 39 (ceidwad llety cyffredin i hysbysu achos o glefyd heintus), yn is-adran (3) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

(8Yn adran 41 (symud trigiannydd llety cyffredin gyda chlefyd hysbysadwy i'r ysbyty) —

(a)yn is-adran (1) yn lle “Health Authority”, yn y ddau fan lle y digwydd, rhodder “Local Health Board”; a

(b)yn is-adran 1(c) cyn y geiriau “or any other person” mewnosoder “, Local Health Board”.

Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) Act 1986 (p.33)

15.—(1Diwygir Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 fel a ganlyn.

(2Yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board” yn yr adrannau canlynol —

(a)adran 2 (hawliau cynrychiolydd awdurdodedig personau anabl), yn is-adran (9) yn is-baragraff (aa); a

(b)adran 7 (personau sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty), yn is-adran (9) yn is – baragraff (aa) yn y diffiniad o “health authority”.

(3Yn adran 16 (dehongli), mewnosoder yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor ““Local Health Board” means a Local Health Board established under section 11 of the National Health Services (Wales) Act 2006;”.

Deddf Aids (Rheoli) 1987 (p.33)

16.—(1Diwygir Deddf Aids (Rheoli) 1987 fel a ganlyn.

(2Yn adran 1 (adroddiadau cyfnodol ar faterion sy'n ymwneud ag AIDS a HIV) —

(a)yn is-adrannau (1)(b)(i) a (2)(b) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”; a

(b)yn is-adran (9) yn lle ““Health Authority” means a Health Authority established under section 8 of that Act” rhodder ““Local Health Board” means a Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006”.

Deddf Cynghorau Iechyd Cymuned (Mynediad at Wybodaeth) 1988 (p.24)

17.  Yn adran 1 o Ddeddf Cynghorau Iechyd Cymuned (Mynediad at Wybodaeth) 1988 (mynediad i gyfarfodydd ac at ddogfennau cynghorau iechyd cymuned), yn is-adran (6)(a) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

Deddf Croesfan Dartford-Thurrock 1988 (p.20)

18.  Yn adran 19 o Ddeddf Croesfan Dartford-Thurrock 1988 (esemptiad o dollau), yn is-adran (b) ar ôl y geiriau “under section 18 of the National Health Service Act 2006,” mewnosoder “a Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006”.

Deddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 (p.1)

19.  Yn adran 519A o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 (cyrff gwasanaeth iechyd) yn is-adran (2)(a) hepgorer y geiriau “or a Health Authority”.

Deddf Plant 1989 (p.44)

20.—(1Diwygir Deddf Plant 1989 fel a ganlyn.

(2Yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board” yn yr adrannau canlynol —

(a)adran 21 (darparu llety ar gyfer plant dan ofal yr heddlu neu mewn canolfan gadw neu ar remand, etc), yn is-adran (3);

(b)adran 24 (personau sy'n gymwys i gael cyngor neu gymorth) yn is-adran (2)(d)(i);

(c)adran 24C (gwybodaeth) yn is-adran (2)(b);

(ch)adran 27 (cydweithredu rhwng awdurdodau), yn is-adran (3)(d);

(d)adran 29 (adennill costau a chostau darparu gwasanaethau etc), yn is-adran (8)(c);

(e)adran 47 (dyletswydd awdurdod lleol i ymchwilio), yn is-adran (11)(d);

(f)adran 80 (archwilio cartrefi plant etc gan bersonau sydd wedi eu hawdurdodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol) yn is-adrannau (1)(d) a (5)(e); a

(g)adran 85 (plant sy'n cael llety gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol), yn is-adran (1).

(3Yn adran 105 (dehongli), mewnosoder, yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor ““Local Health Board” means a Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006;”.

Deddf Mynediad at Gofnodion Iechyd 1990 (p.23)

21.—(1Diwygir Deddf Mynediad at Gofnodion Iechyd 1990 fel a ganlyn.

(2Yn adran 11 (dehongli) —

(a)ym mharagraff (a) o'r diffiniad o “health service body” ar ôl y geiriau “Special Health Authority” mewnosoder “, Local Health Board”; a

(b)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder ““Local Health Board” means a Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006;”.

Deddf Undebau Llafur a Chydberthynas Lafur (Atgyfnerthu) Act 1992 (p.52)

22.  Yn adran 279 o Ddeddf Undebau Llafur a Chydberthynas Lafur (Atgyfnerthu) 1992 (ymarferwyr gwasanaeth iechyd) yn is-adran (1)(a) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

Deddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (p.53)

23.  Yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (tribiwnlysoedd o dan oruchwyliaeth uniongyrchol y cyngor) —

(a)ym mharagraff 33(a), yn lle “Health Authorities” rhodder “Local Health Boards established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006”;

(b)ym mharagraff 33(c) yn lle “Health Authorities” rhodder “Local Health Boards”.

Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p.38)

24.  Yn adran 6 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (ystyr “public body”) yn is-adran (1)(f) hepgorer y geiriau “a Health Authority or”.

Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17)

25.  Yn Atodlen 2 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (darpariaethau ac arbedion trawsnewidiol) ym mharagraffau 2(1), 2(2), 2(6) a 2(7) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

Deddf Addysg 1996 (p.56)

26.—(1Diwygir Deddf Addysg 1996 fel a ganlyn.

(2Yn adran 322 (dyletswydd awdurdodau iechyd neu awdurdodau lleol i helpu awdurdodau addysg lleol) —

(a)yn is-adran (1) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board” ac ar ôl y geiriau “help of the” mewnosoder “board,”;

(b)yn is-adran (2) ar ôl y geiriau “An authority” mewnosoder “, a board”;

(c)yn is-adran (3)(a) yn lle “Health Authority rhodder “Local Health Board” ac yn lle “authority” rhodder “board”; a

(ch)yn is-adran (4) ar ôl y geiriau “an authority” mewnosoder “, a board”.

(3Yn adran 332 (dyletswydd awdurdod iechyd, ymddiriedolaeth gofal sylfaenol, neu ymddiriedolaeth gwasanaeth iechyd gwladol i hysbysu rhiant etc) —

(a)yn y pennawd ac yn is-adran (1) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”; a

(b)yn is-adrannau (2) a (3) yn lle “Authority” ym mhob man y digwydd rhodder “Board”.

Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p.18)

27.—(1Diwygir Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996 fel a ganlyn.

(2Yn adran 43K (ymestyn ystyr “worker” etc ar gyfer Rhan 4A), yn is-adran (1)(c)(i) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

(3Yn adran 50 (hawl i gael amser i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus) ym mharagraff (b) o is-adran (8) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006”.

(4Yn adran 218 (newid cyflogwr) yn is-adran (10)(a) hepgorer y geiriau “and Health Authorities” ac ar ôl is-adran 10(ca) mewnosoder —

(cb)Local Health Boards established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006,.

Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p.53)

28.  Yn adran 3 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (ymgeiswyr anghymwys), yn is-adran (2)(f) yn lle “health authority” rhodder “Local Health Board”.

Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998 (p.37)

29.—(1Diwygir Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998 fel a ganlyn.

(2Yn lle “health authority” rhodder “Local Health Board” yn yr adrannau canlynol —

(a)adran 5 (awdurdodau sy'n gyfrifol am strategaethau), yn is-adran (1)(f);

(b)adran 38 (darpariaeth leol o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid) yn is-adran (2)(b);

(c)adran 39 (timau troseddau ieuenctid) yn is-adrannau (3)(b) a (5)(d);

(ch)adran 41 (y bwrdd cyfiawnder ieuenctid), yn is-adran (10);

(d)adran 42 (darpariaethau atodol), yn is-adran (3); a

(e)adran 115 (datgelu gwybodaeth) yn is-adran (2)(f).

Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14)

30.—(1Diwygir Deddf Safonau Gofal 2000 fel a ganlyn.

(2Yn adran 20 (y weithdrefn brys ar gyfer diddymu etc), yn is-adran (6)(b) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

(3Yn adran 42 (pwer i ymestyn cymhwyso Rhan 2), yn is-adran (2)(b)(ii) yn lle “Health Authorities” rhodder “Local Health Boards”.

(4Yn adran 89 (effaith cynnwys ar y rhestr), hepgorer (4C)(d).

(5Yn Atodlen Schedule 2A (personau sy'n ddarostyngedig i adolygiad gan y comisiynydd o dan adran 72B), ar ôl paragraff 2 mewnosoder fel paragraff 2A, “2A Any Local Health Board for an area in, or consisting of, Wales”.

(6Yn Atodlen 2B (personau sydd â'u trefniadau yn ddarostyngedig i adolygiad gan y comisiynydd o dan adran 73), ar ôl paragraff 3 mewnosoder fel paragraff 3A, “3A Any Local Health Board for an area in, or consisting of Wales”.

Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21)

31.—(1Diwygir Deddf Dysgu a Medrau 2000 fel a ganlyn.

(2Yn adran 125 (ymgynghori a chydgysylltu), yn is-adran (1)(a) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

(3Yn adran 129 (atodol), yn is-adran (1) mewnosoder yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, ““Local Health Board” has the meaning given by section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006,”.

(4Yn adran 138 (Wales : darparu gwybodaeth gan gyrff cyhoeddus), hepgorer is-adran (3)(b).

Deddf Datblygu Rhyngwladol 2002 (p.1)

32.—(1Diwygir Deddf Datblygu Rhyngwladol 2002 fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1 (cyrff statudol y mae adran 9 yn gymwys iddynt) —

(a)hepgorer y geiriau “A Health Authority”; a

(b)mewnosoder y geiriau “A Local Health Board” yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor.

Deddf Troseddau Rhywiol 2003 (p.42)

33.  Yn adran 42 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (gweithwyr gofal: dehongli) yn is-adran (5) yn y diffiniad o “National Health Service body”, yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau sy'n gysylltiedig â sefydlu Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru o 1 Ebrill 2003 a diddymu Awdurdodau Iechyd ar yr un dyddiad. Mae'r Gorchymyn yn diwygio deddfiadau yn briodol er mwyn adlewyrchu'r ffaith y trosglwyddwyd swyddogaethau'r hen Awdurdodau Iechyd i'r Cynulliad o dan y Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu (Cymru) 2003 (O.S. 2003/813) a gwnaed swyddogaethau o'r fath wedyn yn arferadwy gan Fyrddau Iechyd Lleol o dan y Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150). Mae'r Gorchymyn yn gwneud diwygiadau pellach i ddeddfiadau o ganlyniad i, neu mewn cysylltiad â, diddymu Awdurdodau Iechyd Cymru.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth bod pob cyfeiriad at Awdurdod Iechyd neu Awdurdodau Iechyd yn cael eu trin fel cyfeiriadau at Fwrdd Iechyd Lleol neu Fyrddau Iechyd Lleol oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources