xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 844 (Cy.76)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

13 Mawrth 2007

Yn dod i rym

31 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2007. Deuant i rym ar 31 Mawrth 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005

2.—(1Diwygir Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005(3) wedi'u diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)ar ddiwedd y diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn” ychwaneger “, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1468/2006 (OJ Rhif L274, 5.10.2006, t. 6)”;

(b)hepgorer y diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn 1756/93”;

(c)yn y diffiniad o “deddfwriaeth y Gymuned”, yn lle “, Rheoliad y Comisiwn, a Rheoliad y Comisiwn 1756/93” rhodder “ a Rheoliad y Comisiwn”;

(ch)ar ddiwedd y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” ychwaneger “, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1406/2006 (OJ Rhif L265, 26.9.2006, t. 8)”.

(3Yn rheoliad 7(a), yn lle is-baragraffau (i) i (iii) rhodder—

(i)sy'n ddeiliad y cwota a nodir yn y cofnod hwnnw, neu

(ii)sy'n rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad yn ysgrifenedig fod ganddo fuddiant yn naliad deiliad y cwota a nodir yn y cofnod hwnnw; neu.

(4Yn rheoliad 9(3), yn lle'r geiriau ar ôl “Cynulliad Cenedlaethol” hyd at ddiwedd y paragraff rhodder yn eu lle “heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota pryd y trosglwyddir.”.

(5Yn rheoliad 31(5), yn lle “1 Medi” rhodder “30 Medi”.

(6Yn rheoliad 36 —

(a)ym mharagraff (1), yn lle “(2) a (3)” rhodder “(2A) a (3)”;

(b)hepgorer paragraff (2);

(c)ym mharagraff (5) yn lle “paragraffau (2) i (4)” rhodder “paragraffau (2A), (3), (4) a (6A)”;

(ch)yn lle paragraff (6) rhodder—

(6) Yn ddarostyngedig i Erthygl 8(5) o Reoliad y Comisiwn, os bydd prynwr yn methu â chyflwyno crynodeb y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn, cyn diwedd y cyfnod a bennwyd yn Erthygl 8(4), mae o dan rwymedigaeth i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol gosb sy'n cyfateb i'r ardoll ddamcaniaethol a fyddai'n ddyledus ar 0.01% o'r llaeth yn ôl cyfaint a gwmpesir gan y datganiad hwnnw ar gyfer pob diwrnod o oedi cyn i'r cyflwyniad gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol.;

(d)ar ôl paragraff 6 mewnosoder—

(6A) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (7), pan fo prynwr yn methu â darparu neu gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)cais neu ddatganiad ynghylch addasu cwota prynwr yn unol â rheoliad 23(2) i (4);

(b)gwybodaeth yn unol â rheoliad 33(2) i (4); neu

(c)cadarnhad neu ddiwygiadau sy'n ymwneud â fersiwn ddiwygiedig o grynodeb yn unol â rheoliad 35(2),

mae o dan rwymedigaeth i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol gosb sy'n cyfateb i'r ardoll ddamcaniaethol a fyddai'n ddyledus ar 0.01% o'r llaeth yn ôl cyfaint a gwmpesir gan y cais hwnnw, y datganiad hwnnw neu fersiwn ddiwygiedig ohono, neu'r wybodaeth honno, ar gyfer pob diwrnod o oedi cyn i'r cyflwyniad gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol..

(7Ym mharagraff 7, yn lle “(6)” rhodder “(6A)”.

(8Yn rheoliad 38, hepgorer paragraff (2).

(9Yn rheoliad 39(2)(a)(ii), yn lle “yn rhinwedd rheoliad 38(2)” rhodder “o dan erthygl 11(4) o Reoliad y Comisiwn”.

(10Ym mharagraff 2(1) o Atodlen 2, ar ddechrau is-baragraff (f) ac (ff) mewnosoder “os yw'n dal 4,855 neu ragor o litrau o gwota gwerthiannau uniongyrchol,”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, a ddaw i rym ar 31 Mawrth 2007, yn diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005 (O.S 2005/537) (Cy.47) (“Rheoliadau 2005”).

Mae Rheoliadau 2005 yn rhoi Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 ar waith sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L270, 21.10.2003, t. 123) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1406/2006 (OJ Rhif L265, 26.9.2006, t.8), a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 595/2004 sy'n gosod rheolau manwl ar gymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L94, 31.3.2004, t.22) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1468/2006 (OJ Rhif L274, 5.10.2006, t.6) (“Rheoliad y Comisiwn”).

Mae rheoliad 2—

(i)yn diweddaru cyfeiriadau ar ddeddfwriaeth y Gymuned.

(ii)yn dileu'r cyfeiriad at asiant deiliad cwota o ran arolygu cofrestrau.

(iii)yn diwygio'r gofyniad i gyflwyno hysbysiad i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar drosglwyddo cwota ynghyd â throsglwyddo tir, drwy les ac fel arall, ar ddau ddyddiad gwahanol fel ei bod yn ofynnol i gyflwyno hysbysiad erbyn un dyddiad yn unig, sef 31 Mawrth yn y ddau achos.

(iv)yn diwygio'r dyddiad ar ei ôl y caniateir adennill ardoll heb dalu.

(v)yn diwygio'r weithdrefn cosb weinyddol pan fo crynodebau o ddanfoniadau yn cael eu cyflwyno yn hwyr gan brynwyr llaeth yn unol â newidiadau yn Rheoliad y Comisiwn fel y'i diwygiwyd.

(vi)yn diwygio'r weithdrefn cosb weinyddol pan fo datganiadau o werthiannau uniongyrchol yn cael eu cyflwyno'n hwyr er mwyn dileu'r ddarpariaeth ar atafaelu'r cwota gan fod hyn wedi'i osod allan yn llawn yn Rheoliad y Comisiwn.

(vii)yn diwygio'r gofynion cadw cofnodion ar gyfer gwerthwyr uniongyrchol llaeth a chynhyrchion llaeth.

Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael wedi'i baratoi ac mae copïau ar gael o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.