Search Legislation

Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

Ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(1);

ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2);

ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd(3), fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(4), fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(5), fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau(6), fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 yn gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden(7);

ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd(8);

ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 yn gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(9);

ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar Trichinella mewn cig(10); ac

ystyr “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol i weithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(11).

(1)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(3)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).

(4)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 ddiwethaf adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 sy'n addasu Rheoliadau a Phenderfyniadau penodol ym meysydd symud rhydd ar nwyddau, rhyddid i bobl symud, cyfraith cwmnïau, polisi cystadlu, amaethyddiaeth (gan gynnwys deddfwriaeth filfeddygol a ffytoiechydol), polisi trafnidiaeth, treth, ystadegau, ynni, yr amgylchedd, cydwiethredu ym meysydd cyfiawnder a materion cartref, undeb tollau, cysylltiadau allanol, polisïau tramor a diogelwch cyffredin a sefydliadau, oherwydd ymaelodaeth Bwlgaria a Romania (OJ Rhif L363, 20.12.2006, p.1.).

(5)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 ddiwethaf adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006

(6)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 ddiwethaf adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006.

(7)

OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17.

(8)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1.

(9)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1664/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran gweithredu mesurau ar gyfer cynhyrchion penoldol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl a diddymu mesurau gweithredu penodol (OJ Rhif L320, 18.11.2006, p.13).

(10)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1665/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodedig ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig (OJ Rhif L320, 18.11.2006, p.46).

(11)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83. Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 ddiwethaf adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1666/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2006 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources