Search Legislation

Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Rheoliad 6

ATODLEN 3Pasbortau gwartheg

RHAN 1Pasbortau

Dyroddi pasbort

1.—(1Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn cais wedi ei gwblhau'n llawn ac yn gywir i gofrestru anifail o fewn y terfynau amser penodedig, rhaid iddo ddyroddi pasbort gwartheg ar gyfer yr anifail hwnnw.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi un os yw'n derbyn cais y tu allan i'r amser penodedig, ond dim ond os yw wedi'i fodloni am fanylion adnabod yr anifail a bod yr holl wybodaeth sydd yn y cais yn gywir.

(3Erys y pasbort yn eiddo i'r Cynulliad Cenedlaethol bob amser.

Cadw pasbortau gwartheg

2.—(1Rhaid i geidwad gadw'r pasbort gwartheg ar gyfer pob anifail (oni chafodd ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol) a'i ddangos i arolygydd pan gaiff ei hawlio.

(2Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Pasbortau gwartheg a gollwyd a phasbortau yn eu lle

3.—(1Os bydd pasbort gwartheg yn cael ei golli, ei ddwyn neu ei ddifa, rhaid i geidwad yr anifail y mae'n ymwneud ag ef hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl dod yn ymwybodol o'r ffaith a gwneud cais am basport o'r newydd yn ei le.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi pasbort gwartheg o'r newydd dim ond os yw wedi'i fodloni ei fod yn gallu olrhain symudiadau'r anifail ers ei eni neu ers ei fewnforio.

(3Os nad yw Cynulliad Cenedlaethol yn darparu pasbort o'r newydd yn lle'r hen un, rhaid peidio â symud yr anifail y mae'n ymwneud ag ef oddi ar y daliad ac eithrio (o dan awdurdod trwydded a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol) i ganolfan gasglu a awdurdodwyd felly o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006(1).

(4Os bydd person sydd wedi cael pasbort gwartheg o'r newydd yn lle'r hen un wedyn yn dod o hyd i'r pasbort gwartheg gwreiddiol, rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 7 niwrnod gan amgáu'r pasbort gwartheg gwreiddiol gyda'r hysbysiad.

(5Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn euog o dramgwydd.

Ffioedd

4.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol osod ffi am roi pasbort gwartheg o'r newydd yn lle hen un.

(2Y ffi yw'r swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried sy'n rhesymol i'w alluogi i dalu ei gostau wrth roi pasbort o'r newydd yn lle'r hen un.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cyhoeddusrwydd i'r ffi ar ei wefan.

(4Mae'r ffi'n daladwy gyda'r cais a nis ad-delir hi os bydd y ceisydd yn tynnu ei gais yn ôl neu os na fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu cael digon o wybodaeth i ddyroddi pasbort yn lle'r hen un.

Atafaelu pasbortau gwartheg

5.—(1Caiff swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol neu o awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad i geidwad yn ei gwneud yn ofynnol iddo ildio pasbort —

(a)os nad oes anifail ar y daliad ar gyfer y pasbort hwnnw;

(b)os nad yw'r pasbort yn disgrifio'n gywir yr anifail yr honnir ei fod yn gysylltiedig ag ef, neu os dyroddwyd y pasbort ar gyfer anifail gwahanol;

(c)os yw Rhif y tag clust yn y pasbort yn wahanol i rif y tag clust ar yr anifail;

(ch)os nad yr un yw manylion y symudiadau ar y pasbort a manylion y symudiadau yn y gronfa ddata a gedwir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r Rheoliadau hyn neu yn y cofnodion a gedwir gan y ceidwad yn unol â'r Rheoliadau hyn;

a bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad o'r fath yn euog o dramgwydd.

(2Ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ddychwelyd pasbort hyd nes y mae wedi'i fodloni bod y pasbort yn disgrifio'n gywir anifail ym meddiant y ceidwad a bod cofnodion o'r symudiadau yn y pasbort yn gywir.

Anifeiliaid a gafodd eu dwyn

6.  Os collir anifail â phasbort gwartheg neu os caiff ei ddwyn, rhaid i'r ceidwad anfon y pasbort gwartheg at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 7 niwrnod ar ôl dod yn ymwybodol o'r ffaith, ynghyd â manylion ysgrifenedig o'r hyn a ddigwyddodd, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.

Addasiadau

7.  Mae'n dramgwydd i addasu neu ddifwyno unrhyw wybodaeth mewn pasbort gwartheg.

Camddefnyddio pasbort

8.  Mae'n dramgwydd i ddefnyddio pasbort gwartheg mewn cysylltiad ag anifail heblaw'r anifail y rhoddwyd ef ar ei gyfer.

RHAN 2Symudiadau gan ddefnyddio pasbortau

Symud oddi ar ddaliad

9.—(1Pan symudir gwartheg oddi ar ddaliad, rhaid i'r ceidwad sicrhau bod y pasbort gwartheg wedi'i farcio â dyddiad y symud a rhaid iddo'i lofnodi yn y lle priodol.

(2Rhaid iddo roi'r pasbort gwartheg wedi'i gwblhau'n briodol i'r cludwr cyn i'r gwartheg gael eu symud oddi ar y daliad.

(3Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Cludo gwartheg

10.—(1Rhaid i unrhyw un sy'n cludo gwartheg sicrhau bod pasbort gwartheg dilys gyda phob anifail drwy gydol y daith.

(2Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

(3Ond, os nad y cludwr yw perchennog yr anifeiliaid, mae'n amddiffyniad iddo i brofi nad oedd unrhyw reswm ganddo i gredu nad oedd pasbort gwartheg dilys gydag anifail.

Symud i ddaliad

11.—(1Pan symudir gwartheg i ddaliad, rhaid i'r cludwr roi pob pasbort gwartheg ar gyfer pob anifail i'r ceidwad newydd (neu, os yw'r symud yn digwydd drwy farchnad, rhaid iddo ei roi i weithredydd y farchnad, a rhaid iddo yntau wedyn ei roi i'r ceidwad newydd).

(2Rhaid i'r ceidwad newydd neu weithredydd y farchnad sicrhau bod y pasbort gwartheg wedi'i farcio â'r canlynol—

(a)dyddiad y symud i'r daliad,

(b)enw a chyfeiriad y ceidwad (neu, yn achos marchnad, gweithredydd y farchnad) a Rhif y daliad, gan ddefnyddio os yw hynny'n ymarferol y cod bar a ddarperir gan y Cynulliad Cenedlaethol,

a rhaid iddo'i lofnodi.

(3Rhaid iddo wneud hyn o fewn 36 o oriau ar ôl i'r anifail gyrraedd.

(4Ni chaiff neb symud yr anifail oddi ar y daliad nes bod y pasbort wedi'i gwblhau yn unol â'r paragraff hwn.

(5Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Mewnforio gwartheg

12.—(1Yn achos gwartheg a ddygir i Gymru o'r tu allan i Brydain Fawr, caniateir symud yr anifail o'r fan y daeth i mewn i Gymru i'r daliad lle y mae'n rhaid ei gofrestru yn unol â pharagraff 4 neu 5 o Atodlen 2 gan ddefnyddio'i basbort (os oes un ganddo) neu ei ddogfen symud.

(2Os oes ganddo basbort, rhaid i'w geidwad ei gwblhau yn unol â'r Atodlen hon, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.

Allforion

13.—(1Pan fydd gwartheg yn cael eu hallforio i drydydd gwledydd rhaid i'r ceidwad anfon y pasbortau gwartheg at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn saith niwrnod, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.

(2Pan fydd gwartheg yn cael eu cludo'r tu allan i Brydain Fawr i gyrchfan yn yr Undeb Ewropeaidd, rhaid i'r cludwr sicrhau bod ei basport gyda phob anifail, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.

Marchnadoedd a chrynoadau anifeiliaid

14.—(1Mae gweithredydd marchnad neu grynhoad anifeiliaid arall yn cyflawni tramgwydd os derbynnir unrhyw wartheg heb basbort gwartheg dilys (neu, yn achos gwartheg a fewnforir, dogfennau'n caniatáu iddynt gael eu symud).

(2Yn y paragraff hwn a'r paragraff canlynol ystyr “crynhoad anifeiliaid” yw achlysur pan fydd anifeiliaid yn cael eu casglu at ei gilydd at un neu fwy o'r dibenion canlynol—

(a)gwerthiant, sioe neu arddangosfa;

(b)llwyth ar ei daith ymlaen; neu

(c)archwiliad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol.

Trwyddedau

15.  Caiff swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol (neu, yn achos anifail mewn marchnad, crynhoad anifeiliaid neu ladd-dy, caiff arolygydd) ddyroddi trwydded ar unrhyw adeg i symud gwartheg heb basbort gwartheg os yw wedi'i fodloni bod angen gwneud hynny ac nad yw'n ymarferol i gael gafael ar un.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources