- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ail-lunio i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru ddarpariaethau —
(a)Gorchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995(1);
(b)Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998(2);
(c)Rheoliadau Cronfa Ddata Gwartheg 1998(3);
(ch)Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) 2000(4).
ynghyd â'r diwygiadau i'r offerynnau hynny.
Mae'r prif newidiadau fel a ganlyn:
Mae'r Rheoliadau yn awr yn caniatáu bod bison yn cael ei dagio hyd at 9 mis ar ôl ei eni (paragraff 1(3) o Atodlen 1).
Maent yn creu tramgwydd o drosglwyddo tagiau clust rhwng anifeiliaid (paragraff 4(5) o Atodlen 1).
Nid ydynt mwyach yn caniatáu'r defnydd o basbortau lloi dros dro.
Maent yn caniatáu cofrestru gwartheg yn electronig (paragraff 2(3) o Atodlen 2).
Maent yn newid y ffi o £50 am basbort o'r newydd yn lle hen un i ffi sy'n adlewyrchu gwir gost dyroddi (paragraff 4 o Atodlen 3).
Maent yn symleiddio'r darpariaethau ar gofnodion (Atodlen 5).
Mae'r Rheoliadau gorfodi—
Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor (sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ynghylch labelu cynhyrchion cig eidion a diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(5));
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cynllun Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 o ran cymhwyso nifer lleiaf posibl o sancsiynau yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol(6);
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004 (sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran tagiau clust, pasbortau a chofrestrau daliadau(7));a
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 644/2005 (sy'n awdurdodi system adnabod arbennig ar gyfer anifeiliaid buchol a gedwir at ddibenion diwylliannol a hanesyddol mewn mangreoedd a gymeradwywyd fel a ddarperir yn Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor(8)).
Maent yn darparu ar gyfer hysbysiad o ddaliad i'r Cynulliad Cenedlaethol os cedwir gwartheg yno (rheoliad 3).
Maent yn darparu ar gyfer tagiau clust (rheoliad 4 ac Atodlen 1), cofrestru gwartheg (rheoliad 5 ac Atodlen 2), pasbortau (rheoliad 6 ac Atodlen 3) a hysbysiad o symud a marwolaeth (rheoliad 7 ac Atodlen 4).
Maent yn darparu i gofnodion gael eu cadw yn y ffurf a bennir yn Atodlen 5.
Maent yn darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau (Rhan 4). Gorfodir hwy gan yr awdurdod lleol (rheoliad 16).
Mae torri'r Rheoliadau'n dramgwydd, drwy gosb—
(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau;
(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau.
Mae Arfarniad Rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes ac ar y sector gwirfoddol ar gael o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
OJ Rhif L204, 11.8.2000, t. 1.
OJ Rhif L60, 28.2.1998, t. 78.
OJ Rhif L 163, 30.4.2004, t. 63.
OJ Rhif L 107, 28.4.2005, t. 18.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: