Search Legislation

Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 833 (Cy.71)

GALLUEDD MEDDYLIOL, CYMRU

Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

13 Mawrth 2007

Yn dod i rym

At y diben a grybwyllir yn

Rheoliad 1(1)(a)

1 Gorffennaf 2007

At bob diben arall

1 Hydref 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 30(4), 30(6) a 65(1) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007 a deuant i rym—

(a)ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth o ran ymchwil i gael eu gwneud i gorff priodol ac i gael eu penderfynu ganddo,

(b)ar 1 Hydref 2007 at bob diben arall.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Cyrff Priodol

2.  At ddibenion adrannau 30, 31 a 32 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, y corff priodol o ran prosiect ymchwil yw pwyllgor—

(a)a sefydlwyd i gynghori ar foeseg ymchwil ymwthiol neu ar faterion sy'n cynnwys moeseg ymchwil ymwthiol mewn perthynas â phobl nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio iddo; a

(b)a gydnabyddir at y dibenion hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan adrannau 30 a 65 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (“y Ddeddf”)(p.9) ac maent yn diffinio 'corff priodol' at ddibenion adrannau 30 i 32 o'r Ddeddf honno. Mae adran 30(1) o'r Ddeddf honno'n darparu bod ymchwil penodol a gaiff ei wneud i berson neu mewn perthynas â pherson sydd heb alluedd yn anghyfreithlon oni chaiff ei wneud yn rhan o brosiect a gymeradwywyd gan gorff priodol a'i fod yn bodloni gofynion pellach a bennir yn y Ddeddf.

Mae rheoliad 1 yn darparu byd y Rheoliadau hyn yn gymwys o ran gwneud ymchwil yng Nghymru. Mae'n ychwanegol yn darparu i'r Rheoliadau ddod i rym ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau am gymeradwyaeth i ymchwil gael ei wneud a phenderfynu arno o dan y Ddeddf ac i ddod i rym ar 1 Hydref 2007 at bob diben arall.

Mae rheoliad 2 yn diffinio corff priodol fel pwyllgor a sefydlwyd i gynghori ar foeseg ymchwil ymwthiol, neu ar faterion sy'n cynnwys moeseg ymchwil ymwthiol, mewn perthynas â phobl nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio iddo ac a gydnabyddir i'r diben hwnnw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a gosodwyd copi ohono yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources