xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Llygryddion Grŵp A a Grŵp B ac osôn

PENNOD 1Safonau ansawdd aer

Rhagarweiniad a chymhwysiad

4.—(1Mae'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â'r llygryddion canlynol—

(a)Llygryddion Grŵp A;

(b)Llygryddion Grŵp B; ac

(c)osôn.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr holl fesurau a gymerir o dan Pennod 2 neu 3 o'r Rhan hon—

(a)yn rhoi ystyriaeth i ddull integredig o weithredu mewn perthynas â diogelu aer, dŵr a phridd; a

(b)ddim yn cael unrhyw effaith negyddol ar—

(i)unrhyw Aelod-wladwriaeth arall, neu

(ii)unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.

Parthau a chrynoadau

5.—(1Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, at ddibenion y Rhan hon, rannu tiriogaeth Cymru yn barthau.

(2Bydd parth yn cael ei ddosbarthu fel crynhoad at ddibenion y Rhan hon lle—

(a)mae'n cynnwys poblogaeth o dros 250,000 o breswylwyr; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, mae ganddo ddwysedd poblogaeth y km2 y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn y gellir cyfiawnhau dosbarthiad o'r fath.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol sefydlu gwahanol barthau ar gyfer gwahanol lygryddion lle y mae'n barnu bod hynny'n briodol.

Safonau ansawdd aer

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae'n ofynnol i'r safonau ansawdd aer canlynol a nodwyd yn Atodlen 1 gael eu cyrraedd ym mhob parth—

(a)ar gyfer llygryddion Grŵp A, y gwerthoedd terfyn sydd wedi eu nodi yn Rhan 1 o'r Atodlen honno;

(b)ar gyfer llygryddion Grŵp B, y gwerthoedd targed sydd wedi eu nodi yn Rhan 3 o'r Atodlen honno; ac

(c)ar gyfer osôn, y gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor sydd wedi eu nodi yn Rhan 4 o'r Atodlen honno.

(2Y dyddiad cyrhaeddiad ar gyfer gwerth terfyn neu darged yw—

(a)dyddiad cyrhaeddiad a nodwyd ar gyfer y llygrydd perthnasol yn Atodlen 1; neu

(b)lle nad oes dyddiad cyrhaeddiad wedi ei nodi, y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.

(3Mae'r amcanion hirdymor i'w cyflawni yn yr hirdymor, i'r graddau y gellir cyflawni'r amcanion hyn trwy'r mesurau sy'n ofynnol gan reoliad 7(3)(b).

(4Yn achos bensen a nitrogen deuocsid, mae'r ffiniau goddefaint a nodwyd yn Rhan 2 o Atodlen 1 yn gymwys yn y cyfnodau a bennir.

PENNOD 2Cyrraedd safonau ansawdd aer

Mesurau cyrraedd cyffredinol

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y mesurau angenrheidiol i sicrhau bod crynoadau pob llygrydd, ym mhob parth, yn cyrraedd y safonau ansawdd aer sy'n ofynnol gan reoliad 6.

(2Y mesurau angenrheidiol mewn perthynas â llygryddion Grŵp B yw—

(a)Mesurau nad ydynt yn golygu costau anghyfartal; a

(b)i'r graddau bod crynoadau o'r llygryddion perthnasol yn codi o ganlyniad i ollyngiadau o weithfeydd y mae Cyfarwyddeb y Cyngor 96/61/EC ynglyn ag atal a rheoli llygredd integredig(1) yn gymwys, defnyddio'r dulliau gorau sydd ar gael i atal llygredd o'r gweithfeydd hynny yn unol ag erthygl 3(a) o'r Gyfarwyddeb honno(2).

(3Y mesurau angenrheidiol mewn perthynas ag osôn yw'r mesurau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu eu bod —

(a)yn gymesur, yn achos y gwerthoedd targed yn ogystal â'r amcanion hirdymor; a

(b)yn gost effeithiol, yn achos amcanion hirdymor.

Cynlluniau gwella

8.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob parth lle—

(a)cyn y dyddiad cyrhaeddiad, mae crynoadau o bensen neu nitrogen deuocsid yn uwch na'r gwerth terfyn a'r ffin goddefaint sy'n gymwys; neu

(b)mae crynoadau osôn yn uwch na'r gwerth targed.

(2Pan fo paragraff (1)(a) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu cynllun gwella mewn perthynas â'r llygrydd dan sylw neu, os cyflawnir yr amod a bennir o ran y ddau llygrydd, mewn perthynas â'r ddau lygrydd hynny.

(3Pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu cynllun gwella mewn perthynas ag osôn oni bai ei fod yn barnu na ellid cyrraedd y gwerth targed trwy fesurau cymesur.

(4Rhaid i gynllun gwella gynnwys yr wybodaeth a nodwyd yn Atodlen 2.

(5Pan y bo'n ofynnol paratoi a gweithredu cynllun gwella o dan baragraffau (2) a (3), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, lle y mae'n barnu bod hynny'n briodol, baratoi a gweithredu cynllun gwella integredig sy'n cwmpasu pob un o'r llygryddion perthnasol.

(6At ddibenion y rheoliad hwn, caiff cynllun gwella gynnwys naill ai cynllun neu raglen y mae'n rhaid iddynt, ym mhob achos, anelu at gyrraedd y gwerth terfyn neu darged yn y parth perthnasol erbyn y dyddiad cyrhaeddiad ar gyfer y llygrydd dan sylw.

Mesurau gwella eraill

9.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob parth lle y mae crynodiadau o—

(a)un neu fwy o lygryddion Grŵp B yn uwch na'r gwerth targed perthnasol; neu

(b)osôn yn gyfartal neu'n is na'r gwerthoedd targed, ond yn uwch na'r amcan hirdymor.

(2Pan fo paragraff (1)(a) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)adnabod achos y llygredd a phrif ffynonellau yr allyriannau; ac

(b)mewn perthynas â'r llygryddion dan sylw, sicrhau bod y mesurau sy'n ofynnol gan reoliad 7(2) yn cael eu cyfeirio yn benodol at ffynonellau'r allyriannau a ddynodwyd.

(3Pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu mesurau y mae'n ystyried eu bod yn rhai cost effeithiol gyda'r bwriad o gyrraedd yr amcan hirdymor.

(4Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y mesurau sy'n ofynnol ym mharagraff (3) yn gyson ag unrhyw gynllun gwella a baratowyd ar gyfer osôn o dan reoliad 8(3).

PENNOD 3Cynnal safonau ansawdd aer a chynlluniau gweithredu

Cynnal safonau ansawdd aer

10.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob parth lle y mae crynodiadau o—

(a)un neu fwy o lygryddion Grŵp A yn is na'r gwerthoedd terfyn perthnasol;

(b)un neu fwy o lygryddion Grŵp B yn is na'r gwerthoedd targed perthnasol; neu

(c)osôn yn cyrraedd yr amcanion hirdymor.

(2Pan fo is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas â phob llygrydd sy'n bodloni'r amodau a nodwyd yn yr is-baragraffau hynny, sicrhau cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn neu darged perthnasol ac ymdrechu i gadw'r crynodiad isaf y mae'n barnu sy'n gydnaws â datblygu cynaliadwy.

(3Pan fo paragraff (1)(c) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)sicrhau, i'r graddau y mae ffactorau sy'n cynnwys natur drawsffiniol llygredd osôn ac amodau meteorolegol yn caniatáu hynny, bod crynodiadau yn cael eu cadw yn is na'r amcanion hirdymor; a

(b)cadw, drwy fesurau cymesur, y crynodiadau isaf o osôn y mae'n barnu eu bod yn gydnaws â datblygu cynaliadwy a lefel uchel o ddiogelwch ar gyfer yr amgylchedd ac iechyd pobl.

Cynlluniau gweithredu

11.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â,—

(a)paragraffau (2) i (4), baratoi cynlluniau gweithredu; a

(b)paragraff (5), rhoi cynlluniau gweithredu ar waith.

(2Rhaid i'r cynlluniau gweithredu ddangos y mesurau sydd i'w cymryd mewn unrhyw barth yn y tymor byr i gyflawni'r amcanion a nodwyd ym mharagraff (3) os bydd amgylchiadau lle y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu y bydd risg of fynd yn uwch nag unrhyw un o'r canlynol—

(a)gwerth terfyn;

(b)y trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid neu sylffwr deuocsid; neu

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (4), y trothwy rhybuddio ar gyfer osôn.

(3Amcanion pob cynllun gweithredu yw—

(a)Lleinhau'r risg yr aed yn uwch na'r gwerth terfyn perthnasol neu drothwy rhybuddio; neu

(b)pan nad yw'n bosibl ei atal, cyfyngu ar ei hyd neu ei ddifrifoldeb.

(4Mewn perthynas ag osôn, mae'r ymrwymiad a osodir gan baragraff (1)(a) dim ond yn gymwys, i'r graddau y rhoddir ystyriaeth i amodau daearyddol, meteorolegol ac economaidd, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu bod posibilrwydd sylweddol i'r amodau a nodwyd ym mharagraff (3) gael eu cyflawni.

(5Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, pan fo'n ystyried bod y risgiau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) yn codi o fewn unrhyw barth, weithredu'r mesurau a nodwyd yn y cynlluniau gweithredu perthnasol o fewn y parth dan sylw i'r graddau y mae'n eu barnu yn angenrheidiol o fewn amgylchiadau'r achos pendodol.

(6Mae Atodlen 3 yn effeithiol wrth ragnodi—

(a)trothwyon rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid, yn Rhan 1 o'r Atodlen honno; a

(b)y trothwy rhybuddio a'r trothwy wybodaeth ar gyfer osôn, yn Rhan 2 o'r Atodlen honno.

PENNOD 4Asesu

Dyletswydd i asesu ansawdd aer

12.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol asesu crynodiad pob llygrydd ym mhob parth yn unol â rheoliadau 13 i 16.

Dulliau asesu

13.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol asesu crynodiadau llygryddion yn unol â'r dulliau sy'n ofynnol neu, yn achos llygryddion Grŵp A a llygryddion Grŵp B, y dulliau sydd wedi eu caniatáu gan y rheoliad hwn.

(2Mewn perthynas â llygryddion Grŵp A a llygryddion Grŵp B mewn achosion lle—

(a)mae'r asesiad yn ymwneud â llygrydd Grŵp A o fewn crynhoad; neu

(b)mae crynodiadau llygrydd uwchlaw'r trothwy asesu uchaf,

mae'n rhaid asesu trwy fesuriadau sefydlog.

(3Mewn achosion lle nad yw paragraff (2) yn gymwys ac, yn achos nitrogen deuocsid, yn ddarostyngedig i reoliad 15(7), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio'r dulliau asesu canlynol mewn perthynas â llygryddion Grŵp A a llygryddion Grwp B—

(a)cyfuniad o—

(i)mesuriadau sefydlog, a

(ii)dulliau modelu,

ar yr amod bod crynodiadau o'r llygrydd perthnasol, dros gyfnod cynrychioladol, wedi bod yn is na'r trothwy asesu uchaf; neu

(b)defnyddio dulliau modelu neu amcangyfrif gwrthrychol yn unig, ar yr amod—

(i)nad yw paragraff (4) yn gymwys, a

(ii)bod crynodiadau o'r llygrydd perthnasol, dros gyfnod cynrychioladol, wedi bod yn is na'r trothwy asesu isaf.

(4Ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio'r dulliau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)(b) i asesu nitrogen deuocsid na sylffwr deuocsid o fewn crynhoad.

(5At ddibenion paragraffau (2) a (3)—

(a)mae'r trothwyon asesu uchaf ac isaf wedi eu pennu ar gyfer llygryddion Grŵp A yn Rhan 1 o Atodlen 4 ac ar gyfer llygryddion Grŵp B yn Rhan 2 o'r Atodlen honno; a

(b)mae'r cyfnod cynrychioladol i gael ei ddehongli yn unol â Rhan 3 o'r Atodlen honno.

(6Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu'r dull y caiff llygryddion Grŵp A a llygryddion Grŵp B eu hasesu ym mhob parth—

(a)os bydd newidiadau sylweddol mewn gweithgareddau sy'n effeithio ar grynodiadau llygrydd yn y parth hwnnw; a

(b)mewn unrhyw achos, o leiaf unwaith bob pum mlynedd.

(7Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol asesu crynodiadau osôn trwy fesuriadau parhaus sefydlog os yw'r crynodiadau, yn y parth perthnasol, wedi bod yn uwch na'r amcan hirdymor yn ystod unrhyw un o fesuriadau y pum mlynedd blaenorol.

(8Mewn achosion lle bo llai na phum mlynedd o ddata ar gael, caiff y Cynulliad Cenedlaethol asesu crynodiadau osôn trwy gyfuno'r canlynol —

(a)ymgyrchoedd mesuriadau a gynhelir am gyfnodau byr ar adegau ac mewn lleoliadau y mae'n barnu sy'n debygol o fod yn nodweddiadol o'r lefelau llygredd uchaf; a

(b)canlyniadau rhestri o ollyngiadau a modelu.

Mesuriadau sefydlog

14.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn achosion lle, mewn perthynas ag un neu fwy o lygryddion, caiff parth ei asesu yn unol â'r dulliau y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(2), (3)(a) neu (7).

(2Pan gaiff parth ei asesu yn unol â rheoliad 13(2) neu (3)(a), rhaid i fesuriadau o'r llygrydd perthnasol, sydd yn ddarostyngedig yn achos nitrogen deuocsid i'r gofynion a osodir gan reoliad 15(7) mewn perthynas â'r asesiadau sy'n ofynnol gan y rheoliad hwnnw, gael eu cymryd mewn safleoedd sefydlog naill ai'n barhaus neu drwy samplu ar hap ac mae'n rhaid i nifer y mesuriadau fod yn ddigon mawr i alluogi pennu crynodiadau o'r llygrydd yn briodol.

(3Pan fo parth yn cael ei asesu yn unol â rheoliad 13(2), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ychwanegu gwybodaeth o bwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gyda gwybodaeth o ddulliau modelu lle y mae'n barnu y bydd hyn yn darparu lefel ddigonol o wybodaeth ynglyn ag ansawdd aer amgylchynol.

(4Pan fo parth yn cael ei asesu yn unol â rheoliad 13(7), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ychwanegu gwybodaeth o bwyntiau samplu gyda gwybodaeth o fesuriadau dangosol neu fodelu ar yr amod y cydymffurfir â'r amodau a nodwyd yn rheoliad 15(6).

Pwyntiau samplu

15.—(1Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn asesu crynodiadau llygrydd o fewn parth yn unol â'r dulliau y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(2), (3)(a) neu (7) mae'n rhaid iddo sicrhau, mewn perthynas â phob llygrydd —

(a)bod isafswm nifer y pwyntiau samplu yn cael eu sefydlu ym mhob parth, yn unol â pharagraffau (2) i (6); a

(b)bod pob pwynt samplu wedi ei leoli yn unol â Rhannau perthnasol Atodlen 5.

(2Mewn achosion lle caiff parth ei asesu yn unol â—

(a)rheoliad 13(2), ac nid yw paragraff (3)(a) o'r rheoliad hwn yn gymwys; neu

(b)rheoliad 13(7), ac nid yw paragraff (4) o'r rheoliad hwn yn gymwys,

pennir isafswm nifer y pwyntiau samplu yn y Rhannau perthnasol o Atodlen 6.

(3Pan gaiff parth ei asesu yn unol â—

(a)rheoliad 13(2) ac, yn y parth hwnnw, mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ategu mesuriadau sefydlog gyda dulliau modelu yn unol â rheoliad 14(3); neu

(b)rheoliad 13(3)(a),

rhaid i isafswm nifer y pwyntiau samplu sy'n ofynnol ar gyfer pob llygrydd fod yn nifer y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu ei fod yn ddigonol, a'i ystyried ynghyd â dosbarthiad y technegau eraill o ran eu lleoliad, ar gyfer darganfod crynodiadau y llygrydd perthnasol.

(4Pan fo parth yn cael ei asesu yn unol â rheoliad 13(7), caiff y Cynulliad Cenedlaethol leihau nifer y pwyntiau samplu sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(b) ar yr amod bod yr amodau a osodir ym mharagraffau (5) neu (6) yn cael eu bodloni.

(5Mewn achos parthau lle—

(a)cynhaliwyd mesuriadau am bum mlynedd; a

(b)yn ystod pob un o'r blynyddoedd hynny, mae crynodiadau osôn wedi bod yn is na'r amcanion hirdymor,

caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar nifer y pwyntiau samplu yn unol â Rhan 5 o Atodlen 6.

(6Yn achos parthau lle y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ychwanegu at yr wybodaeth a geir o bwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog trwy ddefnyddio gwybodaeth o fesuriadau dangosol neu fodelu yn unol â rheoliad 14(4), caiff leihau nifer y pwyntiau samplu ar yr amod—

(a)bod y dulliau modelu a fabwysiadwyd yn darparu lefel ddigonol o wybodaeth ar gyfer asesu ansawdd aer mewn perthynas â'r—

(i)gwerthoedd targed,

(ii)trothwy gwybodaeth, a

(iii)trothwy rhybuddio;

(b)bod nifer y pwyntiau samplu sydd i'w gosod a dosbarthiad y technegau eraill o ran eu lleoliad yn ddigon i ddarganfod y crynodiad osôn ac er mwyn crynhoi canlyniadau'r asesu fel a nodir yn Rhan 3 o Atodlen 7;

(c)bod cyfanswm nifer y pwyntiau samplu ym mhob parth yn—

(i)un pwynt samplu o leiaf fesul dwy filiwn o drigolion, neu

(ii)un pwynt samplu fesul 50,000 km2,

p'un bynnag sy'n cynhyrchu'r nifer mwyaf o bwyntiau samplu;

(ch)bod pob parth yn cynnwys o leiaf un pwynt samplu; a

(d)bod crynodiadau o nitrogen deuocsid yn cael eu hasesu ym mhob un o'r pwyntiau samplu sy'n weddill ac eithrio mewn gorsafoedd cefndir gwledig, yn unol â pharagraff (7).

(7Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau—

(a)bod crynodiadau nitrogen deuocsid yn cael eu hasesu—

(i)o leiaf 50 y cant o'r pwyntiau samplu a sefydlwyd ar gyfer osôn yn unol â Rhan 4 o Atodlen 6, neu

(ii)lle bo paragraff (6) yn gymwys, yn unol ag is-baragraff (d) o'r paragraff hwnnw;

a

(b)bod y mesuriad o nitrogen deuocsid sy'n cael ei gymryd yn y pwyntiau samplu hyn yn barhaus, ac eithrio mewn gorsafoedd cefndir gwledig lle gellir defnyddio dulliau mesur eraill.

Gofynion asesu eraill

16.—(1Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn ymgymryd ag asesiadau mewn perthynas â —

(a)llygryddion Grŵp A neu lygryddion Grŵp B, trwy ddulliau ac eithrio mesuriadau sefydlog a ganiateir gan reoliad 13(3) neu 14(3); neu

(b)osôn, trwy ddulliau ac eithrio mesuriadau parhaus sefydlog a ganiateir gan reoliadau 13(7) a 14(4),

rhaid iddo gydymffurfio â gofynion y Rhan berthnasol o Atodlen 7 wrth ddefnyddio'r dulliau eraill hynny.

(2Wrth wneud unrhyw asesiad o dan y Pennod hwn, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i'r amcanion ansawdd data perthnasol sydd wedi eu nodi yn Atodlen 8.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal asesiadau yn unol â —

(a)dulliau cyfeirio perthnasol sy'n ofynnol gan Atodlen 9; neu

(b)unrhyw ddulliau cyfeirio eraill, lle y mae'n barnu bod y dull dan sylw yn rhoi canlyniadau cywerth â'r dull perthnasol sy'n ofynnol gan Atodlen 9.

(4O ran bensen, carbon monocsid, nitrogen deuocsid, ocsidau nitrogen, osôn a sylffwr deuocsid, rhaid i fesuriadau cyfaint gael eu safon ar dymheredd o 293K a phwysedd o 101.3 kPa.

(1)

OJ Rhif L 257, 10.10.96, t.26.

(2)

Gweithredir y Gyfarwyddeb gan Reoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/503, 2002/275, 2002/1702, 2003/1699, 2003/3296, 2004/3276, 2005/1448 a 2006/2802 (Cy.241)).