Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Gwynedd) 2007

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Gwynedd) 2007 a daw i rym ar 1 Ebrill 2007.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn:

ystyr “yr ardal barcio” (“the parking area”) yw'r ardal a ddynodir yn ardal barcio a ganiateir ac yn ardal barcio arbennig gan erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn;

ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1);ac

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Traffig Ffyrdd 1991.

Cymhwyso

3.  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Sir Gwynedd yn gyfan ac eithrio'r A55 ar ei hyd, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno a'i ffyrdd ymadael, o fewn y sir.

Dynodi ardal barcio a ganiateir ac ardal barcio arbennig

4.  Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn dynodi'r ardal y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddi—

(a)yn ardal barcio a ganiateir; a

(b)yn ardal barcio arbennig.

Addasu a chymhwyso Rhan II o Ddeddf 1991

5.  Mae adrannau 66, 69 i 74, 78, 79 ac 82 o Ddeddf 1991 ac Atodlen 6 iddi yn gymwys mewn perthynas â'r ardal barcio ac yn ôl y cymhwysiad hwnnw maent yn effeithiol yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.

Addasu Deddf 1984

6.  Caiff Deddf 1984 ei haddasu mewn perthynas â'r ardal barcio fel a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2007