Search Legislation

Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Rheoliadau 7 ac 8

ATODLEN 2Y TRAMGWYDD O BEIDIO Å CHADW CI AR DENNYN A FFURF Y GORCHYMYN

1—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Cŵn ar Dennyn” yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i beidio â chadw'r ci ar dennyn neu ar dennyn â'i hyd ar y mwyaf wedi'i ragnodi yn y gorchymyn, yn ystod amserau neu gyfnodau o'r fath ag a gaiff eu rhagnodi.

(2Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fethu â chadw'r ci ar dennyn, neu os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

2  Mewn unrhyw Orchymyn Cadw Cŵn ar Dennyn rhaid gosod y tramgwydd o beidio â chadw ci ar dennyn i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.

3  Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cadw Cŵn ar Dennyn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

  • Ffurf y Gorchymyn

  • Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005

  • Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)

  • Gorchymyn Cŵn ar Dennyn ([X](1)) [X](2)

  • Mae [X] (3), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

1  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](4).

2  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](5).

Y Tramgwydd

3—(1Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg][yn ystod yr [amserau] [cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](6), ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, os na fydd y person hwnnw yn cadw'r ci ar dennyn [heb fod yn hwy na [X o centimetrau / o fetrau](7),oni bai—

(a)bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu

(b)bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

(2At ddibenion yr erthygl hon cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;

Y Gosb

4

4  Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol

  • [Dyddiad]

  • [Cymal ardystio]

  • [ATODLEN] [ATODLEN 1](8)

  • [Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](9)

  • [ATODLEN 2

  • [Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](10)

(1)

Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(2)

Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.

(3)

Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilyddol sy'n gwneud y Gorchymyn.

(4)

Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.

(5)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(6)

Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.

(7)

Os yw hyn i gael ei bennu, mewnosoder uchafswm hyd y tennyn.

(8)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(9)

Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(10)

Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources