Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 15 Mawrth 2007.
3
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Awdurdod” (“Authority”) yw naill ai prif awdurdod (“primary authority”) neu awdurdod eilaidd (“secondary authority”) fel y'i diffinnir yn adran 58 (“primary and secondary authorities”) o'r Ddeddf;
mae i “awdurdod mynediad” a “tir mynediad” yr ystyr a roddir i “access authority” ac “access land” yn Rhan 1 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 20002;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005;
ystyr “fforwm mynediad lleol” (“local access forum”) yw fforwm mynediad lleol a sefydlwyd o dan adran 94 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;
ystyr “tir yr effeithir arno” (“affected land”) yw tir sy'n ddarostyngedig i orchymyn rheoli cŵn neu i fwriad i wneud gorchymyn rheoli cŵn.
Ymgynghori cyn gwneud gorchymyn rheoli cŵn.
3
Cyn gwneud gorchymyn rheoli cŵn o dan adran 55 o'r Ddeddf, rhaid i Awdurdod—
a
ymgynghori ar ei fwriad i wneud gorchymyn drwy beri cyhoeddi ar ei wefan hysbysiad—
i
sy'n dynodi'r tir yr effeithir arno—
aa
drwy ei ddisgrifio, a
bb
pan fo cyfeiriad yn y gorchymyn y bwriedir ei wneud at fap, drwy gyhoeddi'r map hwnnw;
ii
sy'n dynodi unrhyw dir mynediad a gynhwysir o fewn y tir yr effeithir arno;
iii
sy'n gosod i lawr effaith cyffredinol gwneud y gorchymyn y bwriedir ei wneud;
iv
sy'n datgan y cyfnod a roddir i wneud sylwadau yn ysgrifenedig neu drwy e-bost (sy'n gyfnod nad yw'n llai na 28 o ddiwrnodau o'r dyddiad pan gaiff yr hysbysiad ei gyhoeddi gyntaf yn unol â'r paragraff hwn);
v
sy'n datgan y cyfeiriad a'r cyfeiriad e-bost lle dylid anfon y sylwadau;
b
pan fo hynny'n ymarferol, peri i hysbysiadau o fath y mae'n eu hystyried yn ddigonol gael eu harddangos mewn mannau amlwg ar y tir yr effeithir arno neu gerllaw iddo i dynnu sylw aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r tir hwnnw at effaith gwneud y gorchymyn y bwriedir ei wneud.
4
Rhaid i'r Awdurdod roi copïau o'r hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(a)—
a
i unrhyw Awdurdod arall sydd â phwer o dan adran 55 o'r Ddeddf i wneud gorchymyn rheoli cŵn mewn perthynas ag unrhyw ran o'r tir yr effeithir arno;
b
pan fo unrhyw ran o'r tir yr effeithir arno yn dir mynediad,—
i
i'r awdurdod mynediad ar gyfer y tir mynediad hwnnw;
ii
i'r fforwm mynediad lleol ar gyfer y tir mynediad hwnnw; a
iii
i Gyngor Cefn Gwlad Cymru, mewn perthynas ag unrhyw ran o'r tir mynediad hwnnw nad yw o fewn Parc Cenedlaethol.
Gweithdrefnau ar ôl gwneud gorchymyn rheoli cŵn5
Ar ôl gwneud gorchymyn rheoli cŵn, rhaid i Awdurdod, ymhen dim llai na saith niwrnod cyn y diwrnod y bydd y gorchymyn yn dod i rym arno—
a
peri i hysbysiadau o fath y mae'n eu hystyried yn ddigonol gael eu harddangos mewn mannau amlwg ar y tir yr effeithir arno neu gerllaw iddo i dynnu sylw aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r tir hwnnw at y ffaith fod gorchymyn wedi'i wneud ac at effaith gwneud y gorchymyn hwnnw;
b
cyhoeddi ar ei wefan—
i
hysbysiad sy'n datgan—
aa
fod y gorchymyn wedi'i wneud,
bb
yn lle y gellir cael copïau ohono;
ii
copi o'r gorchymyn,
iii
copi o unrhyw fap y cyfeirir ato yn y gorchymyn;
c
anfon yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (i) o is-baragraff (b) at y personau a bennir yn rheoliad 4.
Diwygio a dirymu gorchmynion rheoli cŵn: gofynion gweithdrefnol6
Mae Rheoliadau 3, 4 a 5 yn gymwys i ddiwygio ac i ddirymu gorchymyn rheoli cŵn megis petai'r cyfeiriadau yn y rheoliadau hynny at orchymyn (neu orchymyn y bwriedir ei wneud) yn gyfeiriadau at ddiwygio neu at ddirymu gorchymyn (neu at ddiwygio neu ddirymu gorchymyn y bwriedir ei wneud, yn ôl y digwydd).
Tramgwyddau a chosbau a ragnodir7
1
At ddibenion adran 55(4) o'r Ddeddf, y tramgwyddau a ragnodir yw'r rhai hynny a osodir ym mharagraff 1 o bob un o Atodlenni 1 i 5.
2
Y gosb sydd i'w gosod mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd mewn gorchymyn rheoli cŵn, ar gollfarn ddiannod, yw dirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
3
Caiff gorchymyn rheoli cŵn bennu'r amserau neu'r cyfnodau y gellir cyflawni tramgwydd o'u mewn.
Geiriad penodedig i'w ddefnyddio mewn gorchymyn rheoli cŵn, a ffurf y gorchymyn8
Rhaid i Awdurdod sy'n gwneud gorchymyn rheoli cŵn—
a
wrth ddarparu ar gyfer unrhyw dramgwydd, defnyddio'r geiriad a bennir yn yr Atodlen sy'n gymwys i'r tramgwydd hwnnw (dan y pennawd “tramgwydd”); a
b
ym mhob peth arall, wneud y gorchymyn yn y ffurf a osodir yn yr Atodlen, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf gorchymyn sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn9
Rhaid i Awdurdod sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn wneud hynny'n unol ag Atodlen 6.
Dyfodiad gorchymyn rheoli cŵn i rym10
Rhaid i ddyddiad dyfodiad gorchymyn rheoli cŵn (gan gynnwys gorchymyn diwygio gorchymyn rheoli cŵn) i rym fod dim llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad gwneud y gorchymyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983