- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Chwefror 2007
Yn dod i rym
10 Ebrill 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo ef(2).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau canlynol yn cael eu llunio.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2007, sy'n gymwys o ran Cymru ac sy'n dod i rym ar 10 Ebrill 2007.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(4) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru yn unol â pharagraff (2).
(1) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “Directive 95/45/EC” rhodder y diffiniad canlynol—
““Directive 95/45/EC” means Commission Directive 95/45/EC laying down specific criteria of purity concerning colours for use in foodstuffs(5) as amended by Directive 1999/75/EC(6), Directive 2001/50/EC(7), Directive 2004/47/EC(8) and Directive 2006/33/EC(9);”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/33/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/45/EC ynglŷn â'r lliwiau melyn y machlud FCF (E110) a thitaniwm deuocsid (E171) (OJ Rhif L82, 21.3.2006, t.10).
2. Maent yn gwneud hyn drwy ddiweddaru'r diffiniad o “Directive 95/45/EC” (Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/45/EC sy'n gosod meini prawf purdeb penodol sy'n ymwneud â lliwiau sydd i'w defnyddio mewn bwydydd, OJ Rhif L226, 29.9.1995, t.1) sy'n ymddangos yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3124, fel y'i diwygiwyd eisoes) i adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed i'r Gyfarwyddeb honno gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/33/EC (rheoliad 2).
3. Mae Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/33/EC yn diwygio Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/45/EC drwy roi meini prawf purdeb diwygiedig ar gyfer lliwiau melyn y machlud FCF (E110) a thitaniwm deuocsid (E171).
4. Ni luniwyd Arfarniad Rheoliadol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sectorau preifat na gwirfoddol.
5. Mae Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau'r ddeddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod yn cael eu trosi yn y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau o'r ddogfen hon oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF11 1EW.
Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Secretary of State”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf wrth i'r offeryn hwn gael ei wneud gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran nifer ac enwau Paneli Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).
O.S. 1995/3124, fel y'i diwygiwyd.
OJ Rhif L226, 29.9.1995, t.1.
OJ Rhif L206, 5.8.1999, t.19.
OJ Rhif L190, 12.7.2001, t.14.
OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.24.
OJ Rhif L82, 21.3.2006, t.10.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: