Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym (Cymru) 2007

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1) o'r Ddeddf, ac eithrio nad yw'n cynnwys y Trysorydd priodol y cyfeirir ato yn adran 5(1)(c) o'r Ddeddf (sy'n ymdrin â'r Deml Fewnol a'r Deml Ganol);

  • ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r awdurdod sy'n gyfrifol, yn rhinwedd rheoliad 9(5), dros weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn;

  • mae i “bwyd” yr ystyr a roddir i “food” yn Rheoliad 178/2002;

  • ystyr “cabinet arddangos manwerthol” (“retail display cabinet”) yw unrhyw gabinet y mae deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym yn cael ei roi ar y farchnad ynddo at ddibenion manwerthu neu wrth gynnal busnes talu a chario;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 89/108” (“Directive 89/108”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/108/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ar gyfer eu bwyta gan bobl(1);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 92/2” (“Directive 92/2”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 92/2/EEC sy'n gosod y weithdrefn samplu a dull y Gymuned o ddadansoddi er mwyn rheoli'n swyddogol dymereddau bwydydd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(2);

  • ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 37/2005 sydd wedi'i phennu yng ngholofn 1 o Atodlen 1 ac y mae pwnc y ddarpariaeth honno wedi'i ddisgrifio yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;

  • mae i “defnyddiwr olaf” yr ystyr a roddir i “ultimate consumer” yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996;

  • ystyr “deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym” (“quick-frozen foodstuff”) yw cynnyrch—

    (a)

    sydd wedi'i ffurfio o fwyd sydd wedi bod drwy broses rewi a elwir “rhewi'n gyflym” sy'n golygu bod parth yr uchafbwynt crisialu yn cael ei groesi mor gyflym â phosibl, yn dibynnu ar y math o gynnyrch; a

    (b)

    sydd wedi'i labelu at ddibenion ei roi ar y farchnad i ddangos ei fod wedi mynd drwy'r broses honno,

    ond nad yw'n cynnwys hufen iâ nac unrhyw iâ bwytadwy arall;

  • ystyr “dosbarthiad lleol” a “dosbarthu'n lleol” (“local distribution”), mewn perthynas ag unrhyw gynnyrch, yw'r rhan honno o'r gadwyn ddosbarthu pan fo'r cynnyrch yn cael ei ddanfon i'r man lle mae'n cael ei roi ar y farchnad at ddibenion manwerthu (a bod ei roi felly ar y farchnad i gynnwys rhoi ar y fachnad i sefydliad arlwyo);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990(3);

  • dehonglir “rhagbecyn” (“prepackaging”) yn unol â'r diffiniad o “prepacked” yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 ond gan roi'r geiriau “placed on the market” yn lle'r geiriau “offered for sale”;

  • ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

  • ystyr “Rheoliad 37/2005” (“Regulation 37/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 37/2005 ar fonitro tymereddau yn y cyfrwng ar gyfer cludo, cadw mewn warws a storio deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(4);

  • mae i'r ymadrodd “rhoi ar y farchnad” yr ystyr a roddir i “placing on the market” a “place on the market” yn Rheoliad 178/2002 a rhaid dehongli “wedi'i roi ar y farchnad” (“placed on the market”) yn unol â hynny;

  • mae i “sefydliad arlwyo” yr ystyr a roddir i “catering establishment” yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(5); ac

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (p'un a yw'n swyddog i'r awdurdod ai peidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yng Nghyfarwyddeb 89/108, Cyfarwyddeb 92/2 neu Reoliad 37/2005 yr ystyr y mae'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn ei ddwyn yng Nghyfarwyddeb 89/108, Cyfarwyddeb 92/2 neu Reoliad 37/2005, yn ôl y digwydd.

(3Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu neilltuo—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(6), i awdurdod iechyd porthladd;

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(7), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig; neu

(c)drwy orchymyn o dan baragraff 15(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985(8), i awdurdod sengl ar gyfer sir fetropolitanaidd,

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u neilltuo felly iddo.

(1)

OJ Rhif L40, 11.2.89, t.34, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf ar adeg gwneud yr offeryn hwn gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/107/EC sy'n addasu Cyfarwyddeb 89/108/EEC sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac sydd i'w bwyta gan bobl a Chyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu deunyddiau bwyd, a hynny oherwydd bod Bwlgaria a Romania wedi ymaelodi (OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.411).

(2)

OJ Rhif L034, 11.2.92, t.30.

(4)

OJ Rhif L10, 13.1.05, t.18.

(5)

O.S. 1996/1499, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(6)

1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16).

(7)

1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(8)

1985 p.51; diwygiwyd paragraff 15(6) gan baragraff 31(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources