- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
13 Chwefror 2007
Yn dod i rym
1 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 39 a 58 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(1), ac ar ôl ymghynghori yn unol ag adran 39(2) o'r Ddeddf honno ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, y cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol y mae'n ymddangos iddo eu bod yn ymwneud â hyn a'r cyrff o gyfrifwyr y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn —
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2007, a deuant i rym ar 1 Mawrth 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn lle paragraff (1) o Reoliad 7 (Datganiad o gyfrifon) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005(2) rhodder—
“(1) Rhaid i gorff y mae paragraffau (3) a (4) yn gymwys iddo baratoi yn unol ag arferion priodol o ran cyfrifon ddatganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn, gyda rhagair esboniadol, y mae'n rhaid iddo gynnwys y datganiadau cyfrifyddu canlynol hynny sy'n berthnasol i swyddogaethau'r corff—
(a)cyfrif refeniw tai;
(b)cronfa bensiwn diffoddwyr tân, os oes un;
(c)unrhyw ddatganiadau eraill sy'n ymwneud â phob cronfa y mae'n ofynnol i'r corff o dan unrhyw ddarpariaeth statudol gadw cyfrif ar wahân ynglyn â hi.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Chwefror 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cyrff penodol y mae Rheoliadau 2005 yn gymwys iddynt ac ynghylch arferion priodol o ran cyfrifon gan gyfeirio at adran 21(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.
Mae rheoliad 2 yn dileu rhai o'r darpariaethau a restrir yn rheoliad 7(1) o Reoliadau 2005 ac mae'n ychwanegu cyfeiriad at gronfa bensiwn y diffoddwyr tân.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: