- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
8.—(1) Caiff milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig—
(a)mynd ar unrhyw safle arolygu ar y ffin, neu unrhyw dir neu fangre arall, a'i arolygu neu ei harolygu ac arolygu unrhyw beth sydd yn y man hwnnw neu arno, ond rhaid peidio â mynnu cael mynediad i unrhyw fangre a ddefnyddir fel tŷ annedd yn unig fel mater o hawl onid oes 24 awr o hysbysiad ysgrifenedig o'r bwriad i fynd i mewn iddo wedi'i roi i'r meddiannydd;
(b)agor unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o fagiau personol, neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson, sy'n meddu ar unrhyw un ohonynt neu sy'n mynd gydag ef, ei agor;
(c)arolygu cynnwys unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o fagiau personol a agorwyd o dan is-baragraff (b);
(ch)arolygu unrhyw gynnyrch, gan gynnwys ei ddeunydd pacio, ei seliau, ei farciau, ei labeli a'i gyflwyniad, ac unrhyw beiriant neu gyfarpar sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw gynnyrch neu mewn cysylltiad ag ef;
(d)cymryd samplau o unrhyw gynnyrch ar gyfer profion labordy, er mwyn eu gwirio yn erbyn unrhyw ddogfen berthnasol sy'n ymwneud â'r cynnyrch neu mewn modd arall i wirio a yw'r cynnyrch hwnnw'n cydymffurfio â'r amodau mewnforio.
(2) Pan fo milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig—
(a)wedi cyflawni unrhyw un o'r gweithgareddau a restrir ym mharagraff (1); a
(b)wedi'i fodloni bod angen gwneud gwiriadau pellach,
caiff gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth, yn ei gwneud yn ofynnol i'r llwyth neu'r rhanlwyth gael ei storio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol, yr arolygydd pysgod swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig, yn ôl y digwydd, yn unrhyw le ac o dan unrhyw amodau y bydd yn rhoi cyfarwyddyd amdanynt yn yr hysbysiad, hyd nes y bydd yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig pellach yn caniatáu i'r llwyth neu'r rhanlwyth gael ei symud oddi yno.
(3) Rhaid i gostau'r storio y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2) gael eu talu gan y person sy'n gyfrifol am y llwyth.
(4) Caiff milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig sy'n mynd ar unrhyw dir neu i mewn unrhyw fangre o dan baragraff 1(a) gymryd gydag ef bersonau eraill sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau ac, onid yw'n mynd i mewn i fangre a ddefnyddir fel tŷ annedd yn unig—
(a)cynrychiolydd i'r Comisiwn Ewropeaidd; a
(b)cynrychiolydd awdurdodau trydedd wlad, a benodir ac a weithredir yn unol â darpariaethau un o'r penderfyniadau cyfwerthedd a restrir yn Atodlen 2.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules only you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: