- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
5.—(1) Rhaid i'r Rheoliadau hyn gael eu gorfodi—
(a)gan y Cynulliad Cenedlaethol yn y safle arolygu ar y ffin sydd wedi'i ddynodi a'i gymeradwyo'n unswydd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion y cyfeirir atynt yn Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002;
(b)gan yr Asiantaeth —
(i)mewn unrhyw safle torri, sefydliad trin anifeiliaid hela neu ladd-dy; a
(ii)mewn mangreoedd lle mae'r Asiantaeth yn gorfodi Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(1) yn rhinwedd rheoliad 5(2)(b) o'r Rheoliadau hynny;
(c)yn ddarostyngedig i baragraff (2), gan bob awdurdod lleol o fewn ei ardal, gan gynnwys wrth unrhyw safle arolygu ar y ffin yn yr ardal honno, ac eithrio wrth safle arolygu ar y ffin y cyfeirir ati yn is-baragraff (a) ac mewn mangreoedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b).
(2) Mewn mannau mynediad, rhaid i reoliad 16 gael ei orfodi gan y Comisiynwyr ac nid gan yr awdurdod lleol.
(3) Mewn achosion lle y mae swyddog awdurdod lleol, wrth arfer unrhyw swyddogaeth statudol, yn darganfod, wrth bwynt mynediad, lwyth neu gynnyrch y mae'r swyddog yn credu y gallai fod yn un y daethpwyd ag ef i mewn yn groes i reoliad 16, rhaid iddo hysbysu un o swyddogion Cyllid a Thollau a dal ei afael ar y llwyth neu'r cynnyrch hyd nes y bydd y swyddog hwnnw yn ei gymryd o dan ei ofal.
(4) Mewn achosion lle y mae swyddog i awdurdod lleol nad yw'n swyddog awdurdodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, wrth iddo arfer unrhyw swyddogaeth statudol, yn darganfod yn unrhyw le ac eithrio pwynt mynediad neu safle arolygu ar y ffin, lwyth neu gynnyrch —
(a)y mae'n credu na chydymffurfiwyd â'r Rheoliadau hyn mewn perthynas ag ef; neu
(b)y mae'n credu ei fod yn dod o drydedd wlad ac y gallai beri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd,
rhaid iddo hysbysu swyddog awdurdodedig a dal ei afael ar y llwyth neu'r cynnyrch hyd nes y bydd swyddog awdurdodedig yn ei gymryd o dan ei ofal.
(5) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod awdurdod lleol yn methu neu wedi methu â gorfodi y Rheoliadau hyn yn gyffredinol, neu mewn unrhyw ddosbarth ar achosion, neu mewn achos unigol, caiff rhoi pŵer i swyddog awdurdodedig neu'r Asiantaeth eu gorfodi yn lle'r awdurdod lleol hwnnw.
(6) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth adennill o'r awdurdod lleol o dan sylw unrhyw dreuliau yr oedd yn rhesymol iddo neu iddi eu tynnu o dan baragraff (5).
(7) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr, unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth gyfnewid gwybodaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn, a chânt ddatgelu gwybodaeth i'r awdurdodau gorfodi yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon at ddibenion y Rheoliadau hyn neu'r Rheoliadau cyfatebol yn yr awdurdodaethau hynny.
(8) Nid yw paragraff (7) yn lleihau effaith unrhyw bŵer arall sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr, unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth i ddatgelu gwybodaeth.
(9) Ni chaiff neb, gan gynnwys gwas i'r Goron, ddatgelu unrhyw wybodaeth a geir oddi wrth y Comisiynwyr o dan baragraff (7)—
(a)os yw'r wybodaeth yn ymwneud â pherson y mae pwy ydyw—
(i)wedi'i bennu yn y datgeliad; neu
(ii)yn rhywbeth y gellir ei gasglu o'r datgeliad;
(b)os yw'r datgeliad at ddiben heblaw'r dibenion a bennwyd ym mharagraff (7); ac
(c)os nad yw'r Comisiynwyr wedi cydsynio ymlaen llaw â'r datgeliad.
(10) Ym mharagraff (1), mae i'r termau “safle torri”, “sefydliad trin anifeiliaid hela” a “lladd-dy” yr ystyr a roddir yn y drefn honno i “cutting plant”, “game-handling establishment” a “slaughterhouse” yn rheoliad 5(6) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.
(11) Yn y rheoliad hwn, ystyr “pwynt mynediad” (“point of entry”) yw unrhyw fan lle y mae nwyddau yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth y dollfa o dan Erthyglau 37 a 38 o'r Cod Tollau, ac eithrio safle arolygu ar y ffin.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules only you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: