RHAN 7Cynhyrchion a Fwriedir ar gyfer Warysau neu Storfeydd Llongau neu Gyfryngau Cludo Mordwyol Trawsffiniol

Tystysgrif ychwanegol i fynd gyda chynhyrchion sydd ar gyfrwng cludo mordwyol49

1

Rhaid i berson sy'n gyfrifol dros gynnyrch neu lwyth o gynhyrchion y mae ei sefydliad cyrchfan yn gyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol, ac unrhyw gludydd sydd â gofal dros gynnyrch neu lwyth o'r fath am y tro, sicrhau bod y dystysgrif y cyfeirir ati yn Erthygl 13(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, sy'n gorfod bod yn seiliedig ar y patrwm yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2000/571/EC25, yn mynd gyda'r cynnyrch neu'r llwyth o'r safle arolygu ar y ffin yr anfonir ef ohono nes bod y cynnyrch yn cael ei draddodi ar fwrdd y cyfrwng cludo mordwyol.

2

Pan gaiff y cynnyrch neu'r llwyth ei draddodi ar fwrdd y cyfrwng cludo mordwyol, rhaid i feistr y cyfrwng cludo mordwyol hwnnw, neu gynrychiolydd swyddogol y meistr, gadarnhau bod y cynnyrch neu'r llwyth wedi ei draddodi drwy adlofnodi'r dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (1) a'i dychwelyd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i'r milfeddyg swyddogol yn y safle arolygu ar y ffin y cafodd y cynnyrch neu'r llwyth ei anfon ohono (fel y dangosir ar y dystysgrif).

3

Mae gofynion y rheoliad hwn yn gymwys yn ychwanegol at ofynion rheoliad 20 (sy'n ymwneud â'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin).