RHAN 7LL+CCynhyrchion a Fwriedir ar gyfer Warysau neu Storfeydd Llongau neu Gyfryngau Cludo Mordwyol Trawsffiniol

Tystysgrif ychwanegol i fynd gyda chynhyrchion sydd ar gyfrwng cludo mordwyolLL+C

49.—(1Rhaid i berson sy'n gyfrifol dros gynnyrch neu lwyth o gynhyrchion y mae ei sefydliad cyrchfan yn gyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol, ac unrhyw gludydd sydd â gofal dros gynnyrch neu lwyth o'r fath am y tro, sicrhau bod y dystysgrif y cyfeirir ati yn Erthygl 13(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, sy'n gorfod bod yn seiliedig ar y patrwm yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2000/571/EC(1), yn mynd gyda'r cynnyrch neu'r llwyth o'r safle arolygu ar y ffin yr anfonir ef ohono nes bod y cynnyrch yn cael ei draddodi ar fwrdd y cyfrwng cludo mordwyol.

(2Pan gaiff y cynnyrch neu'r llwyth ei draddodi ar fwrdd y cyfrwng cludo mordwyol, rhaid i feistr y cyfrwng cludo mordwyol hwnnw, neu gynrychiolydd swyddogol y meistr, gadarnhau bod y cynnyrch neu'r llwyth wedi ei draddodi drwy adlofnodi'r dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (1) a'i dychwelyd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i'r milfeddyg swyddogol yn y safle arolygu ar y ffin y cafodd y cynnyrch neu'r llwyth ei anfon ohono (fel y dangosir ar y dystysgrif).

(3Mae gofynion y rheoliad hwn yn gymwys yn ychwanegol at ofynion rheoliad 20 (sy'n ymwneud â'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 49 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

(1)

OJ Rhif . gorchymyn datblygu cyffredinol L240, 23.9.2000, t. 14.