xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7Cynhyrchion a Fwriedir ar gyfer Warysau neu Storfeydd Llongau neu Gyfryngau Cludo Mordwyol Trawsffiniol

Cymhwyso Rhan 7

44.  Mae'r Rhan hon yn gymwys i gynhyrchion y mae eu sefydliad cyrchfan—

(a)yn warws mewn parth rhydd, warws rydd neu warws dollau, sydd wedi'i lleoli yn nhiriogaeth dollau'r Gymuned;

(b)yn storfa long sy'n cydymffurfio ag Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 97/78/EC sydd wedi'i lleoli y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

(c)yn gyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol.

Gwybodaeth ychwanegol sydd i'w rhoi ymlaen llaw

45.—(1Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch y mae'r Rhan hon yn gymwys iddo i Gymru, na rhoi cynnyrch o'r fath gerbron mewn safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, oni bai bod y milfeddyg swyddogol y rhoddwyd hysbysiad iddo, yn unol â rheoliad 17, o gyflwyno neu o roi'r cynnyrch gerbron, wedi'i hysbysu—

(a)a oes bwriad i fewnforio'r cynnyrch yn y pen draw;

(b)onid oes, a yw'n gynnyrch tramwy, neu'n gynnyrch y mae ei sefydliad cyrchfan yn gyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol; ac

(c)sut bynnag, a yw'r cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio.

(2Rhaid i'r wybodaeth ym mharagraff (1) gael ei rhoi yn ysgrifenedig a chaniateir ei chynnwys yn yr hysbysiad o gyflwyno'r cynnyrch neu o'i roi gerbron a roddwyd yn unol â rheoliad 17.

Gwiriad ffisegol o gynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio

46.  Pan fo'r dogfennau gofynnol yn dangos bod cynnyrch y mae'r Rhan hon yn gymwys iddo yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio, dim ond os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn ei fod yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd y mae angen i unrhyw berson, y mae'n ofynnol iddo o dan reoliad 18 ei roi i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin, neu sicrhau ei fod yn cael ei roi iddo, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c) gyflawni gwiriad corfforol ar y cynnyrch.

Gwahardd cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio o warysau

47.  Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch nad yw'n cydymffurfio i warws mewn parth rhydd, warws rydd na warws dollau yng Nghymru.

Symud yn uniongyrchol i gyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol

48.  Ni chaiff neb symud cynnyrch y mae ei sefydliad cyrchfan yn gyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol o'r safle arolygu ar y ffin lle cafodd ei gyflwyno ac eithrio yn uniongyrchol ac yn ddiymdroi i'r cyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol hwnnw.

Tystysgrif ychwanegol i fynd gyda chynhyrchion sydd ar gyfrwng cludo mordwyol

49.—(1Rhaid i berson sy'n gyfrifol dros gynnyrch neu lwyth o gynhyrchion y mae ei sefydliad cyrchfan yn gyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol, ac unrhyw gludydd sydd â gofal dros gynnyrch neu lwyth o'r fath am y tro, sicrhau bod y dystysgrif y cyfeirir ati yn Erthygl 13(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, sy'n gorfod bod yn seiliedig ar y patrwm yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2000/571/EC(1), yn mynd gyda'r cynnyrch neu'r llwyth o'r safle arolygu ar y ffin yr anfonir ef ohono nes bod y cynnyrch yn cael ei draddodi ar fwrdd y cyfrwng cludo mordwyol.

(2Pan gaiff y cynnyrch neu'r llwyth ei draddodi ar fwrdd y cyfrwng cludo mordwyol, rhaid i feistr y cyfrwng cludo mordwyol hwnnw, neu gynrychiolydd swyddogol y meistr, gadarnhau bod y cynnyrch neu'r llwyth wedi ei draddodi drwy adlofnodi'r dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (1) a'i dychwelyd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i'r milfeddyg swyddogol yn y safle arolygu ar y ffin y cafodd y cynnyrch neu'r llwyth ei anfon ohono (fel y dangosir ar y dystysgrif).

(3Mae gofynion y rheoliad hwn yn gymwys yn ychwanegol at ofynion rheoliad 20 (sy'n ymwneud â'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin).

(1)

OJ Rhif . gorchymyn datblygu cyffredinol L240, 23.9.2000, t. 14.