xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Gorfodi

Awdurdodau gorfodi a chyfnewid gwybodaeth

5.—(1Rhaid i'r Rheoliadau hyn gael eu gorfodi—

(a)gan y Cynulliad Cenedlaethol yn y safle arolygu ar y ffin sydd wedi'i ddynodi a'i gymeradwyo'n unswydd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion y cyfeirir atynt yn Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002;

(b)gan yr Asiantaeth —

(i)mewn unrhyw safle torri, sefydliad trin anifeiliaid hela neu ladd-dy; a

(ii)mewn mangreoedd lle mae'r Asiantaeth yn gorfodi Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(1) yn rhinwedd rheoliad 5(2)(b) o'r Rheoliadau hynny;

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (2), gan bob awdurdod lleol o fewn ei ardal, gan gynnwys wrth unrhyw safle arolygu ar y ffin yn yr ardal honno, ac eithrio wrth safle arolygu ar y ffin y cyfeirir ati yn is-baragraff (a) ac mewn mangreoedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b).

(2Mewn mannau mynediad, rhaid i reoliad 16 gael ei orfodi gan y Comisiynwyr ac nid gan yr awdurdod lleol.

(3Mewn achosion lle y mae swyddog awdurdod lleol, wrth arfer unrhyw swyddogaeth statudol, yn darganfod, wrth bwynt mynediad, lwyth neu gynnyrch y mae'r swyddog yn credu y gallai fod yn un y daethpwyd ag ef i mewn yn groes i reoliad 16, rhaid iddo hysbysu un o swyddogion Cyllid a Thollau a dal ei afael ar y llwyth neu'r cynnyrch hyd nes y bydd y swyddog hwnnw yn ei gymryd o dan ei ofal.

(4Mewn achosion lle y mae swyddog i awdurdod lleol nad yw'n swyddog awdurdodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, wrth iddo arfer unrhyw swyddogaeth statudol, yn darganfod yn unrhyw le ac eithrio pwynt mynediad neu safle arolygu ar y ffin, lwyth neu gynnyrch —

(a)y mae'n credu na chydymffurfiwyd â'r Rheoliadau hyn mewn perthynas ag ef; neu

(b)y mae'n credu ei fod yn dod o drydedd wlad ac y gallai beri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd,

rhaid iddo hysbysu swyddog awdurdodedig a dal ei afael ar y llwyth neu'r cynnyrch hyd nes y bydd swyddog awdurdodedig yn ei gymryd o dan ei ofal.

(5Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod awdurdod lleol yn methu neu wedi methu â gorfodi y Rheoliadau hyn yn gyffredinol, neu mewn unrhyw ddosbarth ar achosion, neu mewn achos unigol, caiff rhoi pŵer i swyddog awdurdodedig neu'r Asiantaeth eu gorfodi yn lle'r awdurdod lleol hwnnw.

(6Caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth adennill o'r awdurdod lleol o dan sylw unrhyw dreuliau yr oedd yn rhesymol iddo neu iddi eu tynnu o dan baragraff (5).

(7Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr, unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth gyfnewid gwybodaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn, a chânt ddatgelu gwybodaeth i'r awdurdodau gorfodi yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon at ddibenion y Rheoliadau hyn neu'r Rheoliadau cyfatebol yn yr awdurdodaethau hynny.

(8Nid yw paragraff (7) yn lleihau effaith unrhyw bŵer arall sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr, unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth i ddatgelu gwybodaeth.

(9Ni chaiff neb, gan gynnwys gwas i'r Goron, ddatgelu unrhyw wybodaeth a geir oddi wrth y Comisiynwyr o dan baragraff (7)—

(a)os yw'r wybodaeth yn ymwneud â pherson y mae pwy ydyw—

(i)wedi'i bennu yn y datgeliad; neu

(ii)yn rhywbeth y gellir ei gasglu o'r datgeliad;

(b)os yw'r datgeliad at ddiben heblaw'r dibenion a bennwyd ym mharagraff (7); ac

(c)os nad yw'r Comisiynwyr wedi cydsynio ymlaen llaw â'r datgeliad.

(10Ym mharagraff (1), mae i'r termau “safle torri”, “sefydliad trin anifeiliaid hela” a “lladd-dy” yr ystyr a roddir yn y drefn honno i “cutting plant”, “game-handling establishment” a “slaughterhouse” yn rheoliad 5(6) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.

(11Yn y rheoliad hwn, ystyr “pwynt mynediad” (“point of entry”) yw unrhyw fan lle y mae nwyddau yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth y dollfa o dan Erthyglau 37 a 38 o'r Cod Tollau, ac eithrio safle arolygu ar y ffin.

Penodi milfeddygon swyddogol ac arolygwyr pysgod swyddogol

6.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi—

(a)unrhyw filfeddygon sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi arbennig y cyfeirir ati yn Erthygl 27 o Gyfarwyddeb 97/78/EC i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol wrth unrhyw safle arolygu ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd yn unswydd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion y cyfeirir atynt yn Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002; a

(b)unrhyw gynorthwywyr a hyfforddwyd yn briodol ar gyfer pob milfeddyg a benodir o dan is-baragraff (a),

sy'n angenrheidiol i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol yn briodol.

(2Rhaid i awdurdod lleol benodi—

(a)unrhyw filfeddygon sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi arbennig y cyfeirir ati yn Erthygl 27 o Gyfarwyddeb 97/78/EC i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol wrth bob safle arolygu ar y ffin yn ei ardal, ac eithrio safle arolygu ar y ffin y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(a);

(b)unrhyw swyddogion iechyd amgylcheddol i fod yn arolygwyr pysgod swyddogol i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol mewn perthynas â chynhyrchion pysgodfeydd wrth bob safle arolygu ar y ffin yn ei ardal, ac eithrio safle arolygu ar y ffin y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(a); ac

(c)unrhyw gynorthwywyr a hyfforddwyd yn briodol ar gyfer pob milfeddyg swyddogol a benodwyd o dan baragraff (2)(a), ac ar gyfer pob arolygydd pysgod swyddogol a benodwyd o dan baragraff (2)(b),

sy'n angenrheidiol i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol yn briodol.

Arfer pwerau gorfodi

7.—(1Caiff milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig, ar bob adeg resymol, ac ar ôl dangos, os gofynnir iddo wneud hynny, unrhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, arfer y pwerau a roddir gan reoliadau 8 a 9 er mwyn—

(a)gorfodi'r Rheoliadau hyn;

(b)gorfodi unrhyw ddatganiad a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth o dan reoliad 61;

(c)canfod a gydymffurfir neu a gydymffurfiwyd â'r Rheoliadau hyn; neu

(ch)gwirio beth yw unrhyw gynnyrch, beth yw ei darddiad neu ei gyrchfan.

(2Yn achos milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig a benodwyd neu a awdurdodwyd gan awdurdod lleol, rhaid i'r pwerau a roddir gan reoliadau 8 a 9 gael eu harfer—

(a)o fewn ardal yr awdurdod lleol hwnnw, a

(b)y tu allan i ardal yr awdurdod lleol hwnnw er mwyn canfod a gydymffurfir neu a gydymffurfiwyd â'r Rheoliadau hyn o fewn yr ardal honno.

Pwerau mynediad a phwerau arolygu

8.—(1Caiff milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig—

(a)mynd ar unrhyw safle arolygu ar y ffin, neu unrhyw dir neu fangre arall, a'i arolygu neu ei harolygu ac arolygu unrhyw beth sydd yn y man hwnnw neu arno, ond rhaid peidio â mynnu cael mynediad i unrhyw fangre a ddefnyddir fel tŷ annedd yn unig fel mater o hawl onid oes 24 awr o hysbysiad ysgrifenedig o'r bwriad i fynd i mewn iddo wedi'i roi i'r meddiannydd;

(b)agor unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o fagiau personol, neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson, sy'n meddu ar unrhyw un ohonynt neu sy'n mynd gydag ef, ei agor;

(c)arolygu cynnwys unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o fagiau personol a agorwyd o dan is-baragraff (b);

(ch)arolygu unrhyw gynnyrch, gan gynnwys ei ddeunydd pacio, ei seliau, ei farciau, ei labeli a'i gyflwyniad, ac unrhyw beiriant neu gyfarpar sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw gynnyrch neu mewn cysylltiad ag ef;

(d)cymryd samplau o unrhyw gynnyrch ar gyfer profion labordy, er mwyn eu gwirio yn erbyn unrhyw ddogfen berthnasol sy'n ymwneud â'r cynnyrch neu mewn modd arall i wirio a yw'r cynnyrch hwnnw'n cydymffurfio â'r amodau mewnforio.

(2Pan fo milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig—

(a)wedi cyflawni unrhyw un o'r gweithgareddau a restrir ym mharagraff (1); a

(b)wedi'i fodloni bod angen gwneud gwiriadau pellach,

caiff gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth, yn ei gwneud yn ofynnol i'r llwyth neu'r rhanlwyth gael ei storio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol, yr arolygydd pysgod swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig, yn ôl y digwydd, yn unrhyw le ac o dan unrhyw amodau y bydd yn rhoi cyfarwyddyd amdanynt yn yr hysbysiad, hyd nes y bydd yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig pellach yn caniatáu i'r llwyth neu'r rhanlwyth gael ei symud oddi yno.

(3Rhaid i gostau'r storio y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2) gael eu talu gan y person sy'n gyfrifol am y llwyth.

(4Caiff milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig sy'n mynd ar unrhyw dir neu i mewn unrhyw fangre o dan baragraff 1(a) gymryd gydag ef bersonau eraill sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau ac, onid yw'n mynd i mewn i fangre a ddefnyddir fel tŷ annedd yn unig—

(a)cynrychiolydd i'r Comisiwn Ewropeaidd; a

(b)cynrychiolydd awdurdodau trydedd wlad, a benodir ac a weithredir yn unol â darpariaethau un o'r penderfyniadau cyfwerthedd a restrir yn Atodlen 2.

Pwerau ynglŷn â dogfennau

9.—(1Caiff milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig-—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros gynnyrch, unrhyw berson sy'n gyfrifol am gynnyrch ac unrhyw swyddog corfforaethol, cyflogai, gwas neu asiant unrhyw bersonau o'r fath, ddangos unrhyw ddogfen berthnasol sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth ac sy'n ymwneud â'r cynnyrch, a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth ac sy'n ymwneud â'r cynnyrch, ac y mae'n rhesymol i'r milfeddyg swyddogol, yr arolygydd pysgod swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig ofyn amdani;

(b)archwilio unrhyw ddogfen berthnasol sy'n ymwneud â chynnyrch ac, os yw'n cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac aparatws neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r ddogfen berthnasol honno, a'u harolygu a gwirio ei weithrediad;

(c)gwneud unrhyw gopïau y gwêl yn dda o unrhyw ddogfen berthnasol sy'n ymwneud â chynnyrch a dal ei afael ar y copïau hynny; ac

(ch)cymryd i'w feddiant, a dal ei afael ar, unrhyw ddogfen berthnasol ynglŷn â chynnyrch y mae gan y milfeddyg swyddogol, yr arolygydd pysgod swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig le i gredu y gallai fod angen amdani fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn, a phan fo unrhyw ddogfen berthnasol o'r fath yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei chynhyrchu ar ffurf a fyddai'n caniatáu iddo fynd â hi oddi yno.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddog corfforaethol” (“corporate officer”) mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath.

Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll

10.—(1Ni fydd unrhyw swyddog awdurdodedig, milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol, neu gynorthwyydd a benodwyd o dan reoliad 6 yn atebol yn bersonol mewn perthynas ag unrhyw weithred a wnaed ganddo wrth gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol sydd o fewn cwmpas ei gyflogaeth, neu wrth honni ei fod yn eu cyflawni, os gwnaeth y weithred honno gan gredu'n onest ac yn rhesymol fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo ei wneud.

(2Ni fydd paragraff (1) yn rhyddhau'r Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol na'r Asiantaeth rhag unrhyw atebolrwydd ynglŷn â gweithredoedd ei swyddogion.

Gwarantau mynediad

11.—(1Os yw ynad heddwch wedi'i fodloni, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, fod sail resymol i filfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig fynd ar unrhyw dir neu i mewn i unrhyw fangre o dan reoliad 8 at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn rheoliad 7 a naill ai—

(a)bod mynediad wedi'i wrthod, neu ei bod yn rhesymol disgwyl iddo gael ei wrthod, a bod y milfeddyg swyddogol, yr arolygydd pysgod swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig wedi hysbysu'r meddiannydd o'i fwriad i wneud cais am warant mynediad; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i ddiben y mynediad, neu fod angen mynediad ar frys, neu fod y tir heb ei feddiannu neu'r fangre heb ei meddiannu, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y byddai'n mynd yn groes i ddiben y mynediad i aros nes iddo ddychwelyd,

caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo, a honno'n warant sy'n ddilys am fis, awdurdodi'r milfeddyg swyddogol, yr arolygydd pysgod swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig i fynd ar y tir neu i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

(2Rhaid i filfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig sy'n ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant, ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

Atebion awdurdodau lleol

12.—(1Ar gyfer pob safle arolygu ar y ffin yn ei ardal, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ateb sy'n cynnwys—

(a)cyfanswm y llwythi a wiriwyd, a'r rheini wedi'u dosbarthu yn ôl grwpiau cynhyrchion ac yn ôl y wlad y maent yn tarddu ohoni;

(b)rhestr o'r llwythi y cymerwyd samplau ohonynt a chanlyniadau unrhyw brawf ar bob sampl neu ddadansoddiad o bob sampl; ac

(c)rhestr o'r llwythi y mae'n ofynnol eu hanfon ymlaen neu eu gwaredu o dan reoliad 21 gan y milfeddyg swyddogol neu'r arolygydd pysgod swyddogol, a hynny, ym mhob achos, ynghyd â'r wlad y maent yn tarddu ohoni, sefydliad tarddiad (os yw'n hysbys), disgrifiad o'r cynnyrch o dan sylw a'r rheswm dros ei wrthod.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu pa mor aml y mae'r atebion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) i gael eu cyflwyno a pha gyfnod amser y maent i ymdrin ag ef.

Atal safleoedd arolygu ar y ffin a chanolfannau arolygu rhag gweithredu

13.—(1Bydd y rheoliad hwn yn gymwys os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni—

(a)y byddai parhau i weithredu safle arolygu ar y ffin yn peri risg difrifol i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; neu

(b)bod toriad difrifol wedi bod, wrth safle arolygu ar y ffin, o'r gofynion ar gyfer cymeradwyo safleoedd arolygu ar y ffin sydd wedi'u gosod yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 97/78/EC neu ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2001/812/EC (sy'n gosod gofynion ar gyfer cymeradwyo safleoedd arolygu ar y ffin sy'n gyfrifol am wiriadau milfeddygol ar gynhyrchion y deuir â hwy i'r Gymuned o drydydd gwledydd)(2).

(2At ddibenion y rheoliad hwn ac unrhyw hysbysiad a gyflwynir odano, ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”), mewn perthynas â safle arolygu ar y ffin neu ganolfan arolygu, yw'r gymeradwyaeth o'r safle arolygu ar y ffin neu'r ganolfan arolygu, yn ôl y digwydd, yn unol ag Erthygl 6(2) neu 6(4) o Gyfarwyddeb 97/78/EC.

(3Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol atal cymeradwyaeth y safle arolygu ar y ffin naill ai'n llawn neu'n rhannol yn unol â pharagraff (4), (5) neu (6).

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal cymeradwyaeth y safle arolygu ar y ffin yn llawn drwy gyflwyno—

(a)i weithredydd y safle arolygu ar y ffin; neu

(b)pan fo'r safle arolygu ar y ffin yn cynnwys mwy nag un ganolfan arolygu, i weithredydd pob canolfan arolygu (os ydynt yn wahanol),

hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan bod y gymeradwyaeth o'r fangre fel safle arolygu ar y ffin wedi'i hatal.

(5Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni mai dim ond mewn cysylltiad ag un neu ragor (ond nid pob un) o'r categorïau o gynhyrchion y mae'r safle arolygu ar y ffin wedi'i gymeradwyo ar eu cyfer (fel a bennir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2001/881/EC) y mae'r risg difrifol i iechyd y cyhoedd neu i iechyd anifeiliaid y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(a), neu'r toriad difrifol o'r gofynion y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 1(b), wedi codi, caiff atal y gymeradwyaeth o'r safle arolygu ar y ffin mewn perthynas â'r categori hwnnw neu'r categorïau hynny o gynhyrchion drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig—

(a)i weithredydd y safle arolygu ar y ffin; neu

(b)pan fo'r categori o gynhyrchion neu'r categorïau o gynhyrchion o dan sylw yn cael eu trafod gan wahanol ganolfannau arolygu yn y safle arolygu ar y ffin, i weithredydd pob un o'r canolfannau arolygu hynny (os ydynt yn wahanol),

yn datgan bod y gymeradwyaeth o'r fangre fel safle arolygu ar y ffin wedi'i hatal ar gyfer y categori hwnnw, neu'r categorïau hynny, o gynhyrchion.

(6Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni mai dim ond mewn cysylltiad ag un ganolfan arolygu yn y safle arolygu ar y ffin y mae'r risg difrifol i iechyd y cyhoedd neu i iechyd anifeiliaid y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(a), neu'r toriad difrifol o'r gofynion y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(b), wedi codi, caiff atal y gymeradwyaeth o'r ganolfan arolygu drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i weithredydd y ganolfan arolygu yn datgan bod y gymeradwyaeth o'r fangre fel canolfan arolygu wedi'i hatal.

(7Pan gyflwynir hysbysiad o dan—

(a)paragraff (4), bydd y fangre yn peidio â bod yn safle arolygu ar y ffin neu'n ganolfan arolygu mewn safle arolygu ar y ffin (yn ôl y digwydd) hyd nes y cânt eu cymeradwyo felly eto yn unol ag Erthygl 6(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC;

(b)paragraff (5), bydd y fangre'n peidio â bod yn safle arolygu ar y ffin neu'n ganolfan arolygu mewn safle arolygu ar y ffin (yn ôl y digwydd), a gymeradwywyd ar gyfer y categori hwnnw, neu'r categorïau hynny, o gynhyrchion, hyd nes iddi gael ei chymeradwyo felly unwaith eto yn unol ag Erthygl 6(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC; ac

(c)paragraff (6), bydd y fangre yn peidio â bod yn fangre sydd wedi'i chymeradwyo fel canolfan arolygu mewn safle arolygu ar y ffin, hyd nes y caiff ei chymeradwyo felly eto yn unol ag Erthygl 6(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC.

(8Mae darpariaethau paragraff (7) yn gymwys yn achos ataliad y rhoddir effaith iddo o dan y rheoliad hwn er gwaethaf y ffaith y gall yr Atodiad i Benderfyniad 2001/881/EC fod heb ei ddiweddaru i adlewyrchu'r ataliad hwnnw.

(9Yn y rheoliad hwn, ystyr “canolfan arolygu” (“inspection centre”) yw cyfleuster sy'n rhan o safle arolygu ar y ffin ac a restrir ynghyd ag enw'r safle arolygu ar y ffin ei hun yn yr Atodiad i Benderfyniad 2001/881/EC.

Swyddogaethau rheoliadol arolygwyr pysgod swyddogol

14.  Yn Rhannau 3 i 8, a Rhan 12, pan fo cynnyrch pysgodfeydd o dan sylw, rhaid dehongli'r ymadrodd “milfeddyg swyddogol” fel un sy'n golygu arolygydd pysgod swyddogol.

(2)

OJ Rhif L306, 23.11.2001, t. 28.