Enwi fformiwla ddilynol
16. Ni cheir gwerthu fformiwla ddilynol onis gwerthir o dan yr enw—
(a)yn achos cynnyrch nad yw wedi'i weithgynhyrchu yn gyfan gwbl o broteinau llaeth gwartheg, yr enw “follow-on formula”; neu
(b)yn achos cynnyrch sydd wedi'i weithgynhyrchu yn gyfan gwbl o broteinau llaeth gwartheg, yr enw “follow-on milk”.