- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
17 Rhagfyr 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Rhagfyr 2007
Yn dod i rym
14 Ionawr 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(3), 408, 537, 537A(1) a (2) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt(2) ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 14 Ionawr 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004(3) yn unol â pharagraffau (2) i (6) isod.
(2) Yn rheoliad 2(3) dileer is-baragraff (b).
(3) Yn lle rheoliad 7 a'i bennawd rhodder y canlynol —
Ar neu cyn y dyddiad a bennir yn y canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd, rhaid i'r awdurdod ddarparu bob blwyddyn i Weinidogion Cymru yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r asesiadau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r holl ysgolion y mae'n eu cynnal ac y mae ganddynt ddisgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf sy'n gymwys i gael asesiadau statudol ym mlwyddyn adrodd yr ysgol.”.
(4) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 1, rhodder y paragraff canlynol —
“O ran pob disgybl o'r fath, canlyniadau ei asesiadau statudol ac, os nad yw rhai o'r canlyniadau hynny neu'r cyfan ohonynt ar gael, a oedd y disgybl wedi'i esemptio o'r asesiadau o dan adrannau 113 neu 114 o Ddeddf 2002 neu a yw'r ffaith nad yw canlyniadau ei asesiadau statudol ar gael oherwydd rhesymau gwahanol i'w esemptiad o dan adrannau 113 neu 114 o Ddeddf 2002.”.
(5) Ym mharagraff 1 yn Rhan 1 o Atodlen 3 dileer is-baragraff (d).
(6) Ym mharagraff 2 yn Rhan 2 o Atodlen 3 dileer is-baragraff (d).
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
17 Rhagfyr 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân newidiadau i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”).
Mae rheoliad 2(4) yn diwygio paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2004 gyda'r canlyniad na fydd yn bosibl mwyach i gorff llywodraethu gofnodi absenoldeb disgybl fel y rheswm dros beidio â darparu canlyniadau'r cyfan neu ran o'u hasesiadau statudol. Yn lle hynny, mae paragraff 2 diwygiedig Atodlen 1 i Reoliadau 2004 yn darparu y caiff corff llywodraethu gofnodi nad yw asesiadau statudol disgybl ar gael neu eu bod ar gael yn rhannol yn unig am resymau ac eithrio bod y disgybl wedi'i esemptio o dan adrannau 113 neu 114 o Ddeddf Addysg 2002.
1996 p.56. Cafodd adran 29(3) ei disodli gan baragraff 67 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30 o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), paragraffau 57 a 106 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 57 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21). Diwygiwyd adran 537 gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997, paragraffau 57 a 152 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 60 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. Cafodd Adran 537A ei disodli gan baragraff 153 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. I gael gweld ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru (p.32).
O.S.2004/1025 (Cy.122), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/2914 (Cy.253), O.S. 2005/1396 (Cy.110) ac O.S. 2005/3239 (Cy.244).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: