- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
17 Rhagfyr 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Rhagfyr 2007
Yn dod i rym
14 Ionawr 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408, 563 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2) ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 14 Ionawr 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004(3) yn unol â pharagraffau (2) i (11) isod.
(2) Diwygir y diffiniad o “cymwysterau allanol a gymeradwywyd” yn rheoliad 2(1) fel a ganlyn—
(aa)yn lle'r geiriau “adran 96(5)” rhodder y geiriau “adrannau 96(5) a 97(5)”; a
(bb)yn lle'r geiriau “adran 96” rhodder y geiriau “adrannau 96 a 97”;
(3) Yn rheoliad 2(1) mewnosoder y canlynol yn y man priodol —
“mae i “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” gan adran 579(1) o Ddeddf 1996;”; ac
ystyr “canllawiau Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd” (“Statutory Assessment and Reporting Arrangements guidance”) yw'r canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru bob blwyddyn ysgol ar weinyddu asesiadau statudol;”;
“ystyr “y Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig” (“the National Database of Accredited Qualifications”) yw'r gronfa ddata a gynhelir ac a gyhoeddir ar y cyd gan Weinidogion Cymru, yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm a'r Cyngor dros Gwricwlwm, Arholiadau ac Asesu yng Ngogledd Iwerddon;”(4).
(4) Yn rheoliad 6(2) dileer paragraff (b).
(5) Yn rheoliad 6(3) ar ôl y geiriau “i bennaeth yr ysgol newydd” mewnosoder dileer “cyn” a mewnosoder “cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad pan ddaeth pennaeth yr hen ysgol i wybod gyntaf fod y disgybl wedi cofrestru yn yr ysgol newydd a beth bynnag dim hwyrach na chyn”
(6) Ym mharagraff 1(g) o Atodlen 1 dileer y geiriau “ac, os felly, gyda phwy”.
(7) Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 dileer is-baragraff (i).
(8) Yn lle paragraff 4 yn Rhan 1 o Atodlen 2 rhodder—
“4.—(1) Enw unrhyw bwnc y rhoddwyd enw'r disgybl ar ei gyfer o ran cymhwyster allanol a'r radd (os oes un) a gafwyd.
(2) Cyfartaledd y pwyntiau a sgoriodd y disgybl mewn arholiadau pwnc o'r fath y rhoddwyd enw'r disgybl ar eu cyfer.
(3) At ddibenion y paragraff hwn rhaid penderfynu unrhyw gwestiwn ynghylch dyraniad y pwyntiau i bob cymhwyster allanol a gymeradwywyd yn unol â'r Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig.”.
(9) Yn lle paragraff 6 yn Rhan 3 o Atodlen 2 a'i bennawd rhodder—
6.—(1) Enw unrhyw bwnc y rhoddwyd enw'r disgybl ar ei gyfer o ran cymhwyster allanol a gymeradwywyd a'r radd (os oes un) a gafwyd.
(2) Cyfartaledd y pwyntiau a sgoriodd y disgybl mewn arholiadau pwnc o'r fath y rhoddwyd enw'r disgybl ar eu cyfer.
(3) At ddibenion y paragraff hwn rhaid penderfynu unrhyw gwestiwn ynghylch dyraniad y pwyntiau i bob cymhwyster allanol a gymeradwywyd yn unol â'r Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig.”
(10) Yn Rhan 3 o Atodlen 2 dileer paragraff 7.
(11) Ym mharagraff 1(1), 2(1) a 3(1) o Atodlen 3 yn lle'r geiriau “sydd bythefnos o flaen diwrnod ysgol olaf tymor yr haf ” rhodder “a bennir yn y canllawiau Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
17 Rhagfyr 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân newidiadau i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”).
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio'r diffiniad o “cymwysterau allanol a gymeradwywyd”. Mae rheoliad 2(4) yn dileu rheoliad 6(2) o Reoliadau 2004 fel nad yw disg hyblyg mwyach yn cael ei ystyried yn fodd derbyniol i drosglwyddo'r wybodaeth sy'n ofynnol gan Reoliadau 2004.
Mae rheoliad 2(5) yn diwygio'r amser y mae'n rhaid i bennaeth hen ysgol disgybl anfon y ffeil drosglwyddo gyffredin at bennaeth ysgol newydd y disgybl o'i fewn. Yn yr amgylchiad hwn rhaid anfon y ffeil cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad y daeth y pennaeth i wybod gyntaf fod y disgybl wedi cofrestru yn yr ysgol newydd a beth bynnag, o fewn 15 niwrnod ysgol o gofrestriad y disgybl yn yr ysgol honno.
Mae rheoliad 2(8) yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiad y pennaeth i ddisgyblion sy'n oedolion ac i rieni gynnwys cyfartaledd y pwyntiau a sgoriwyd gan ddisgybl yn y pedwerydd cyfnod allweddol o ran unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd. Penderfynir ar unrhyw gwestiwn ynghylch y nifer o bwyntiau a ddyrennir i bob pwnc yn unol â'r Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.
Mae rheoliad 2(9) yn ei gwneud yn ofynnol i'r cofnod cwricwlaidd a gedwir gan y pennaeth gofnodi cyfartaledd y pwyntiau a sgoriwyd gan ddisgybl yn unrhyw gyfnod allweddol o ran unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd. Penderfynir ar unrhyw gwestiwn ynghylch y nifer o bwyntiau a ddyrennir i bob pwnc yn ôl y Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.
1996 p.56. Diwygiwyd adran 408 gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), Atodlen 7, paragraff 30, gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraffau 57 a 106, gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21) Atodlen 9, paragraff 57 a chan Deddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 21, paragraff 46. Am y diffiniad o “prescribed” ac o “regulations” gweler adran 579 o Ddeddf 1996.
Cafodd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, (O.S.1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru (p.32).
O.S. 2004/1026 (Cy.123) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/2914 (Cy.253), O.S. 2005/1396 (Cy.110) ac O.S. 2005/3239 (Cy.244).
Y wefan ar gyfer y Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig yw www.accreditedqualifications.org.uk. Mae'r wefan hon yn cynnwys manylion cymwysterau a achredir gan Weinidogion Cymru, yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm a'r Cyngor dros Gwricwlwm, Arholiadau ac Asesu yng Ngogledd Iwerddon.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: