- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
5.—(1) At ddibenion adran 537A(4) o Ddeddf 1996, mae Gweinidogion Cymru yn rhagnodi'r canlynol yn berson y caniateir iddynt ddarparu ar ei gyfer wybodaeth am ddisgyblion unigol—
(a)unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2) isod; a
(b)unrhyw berson sy'n perthyn i'r categori y cyfeirir ato ym mharagraff (3) isod.
(2) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) uchod yw—
(a)yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi, neu, yn achos ysgol nas cynhelir felly, awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir ynddi'r ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi;
(b)person sy'n dal Swydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales;
(c)Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru; ac
(ch)y cwmnïau Gyrfa Cymru a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru o dan adrannau 2, 8 a 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(1).
(3) Y categori y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) uchod yw'r categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac y mae'n ofynnol iddynt gael gwybodaeth am ddisgyblion unigol i'r diben hwnnw.
(4) At ddibenion adran 537A(5)(b) o Ddeddf 1996, mae Gweinidogion Cymru yn rhagnodi'r canlynol yn berson y caniateir i gydlynydd gwybodaeth roi gwybodaeth iddo am ddisgyblion unigol fel a ganlyn—
(a)unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (6) isod; a
(b)unrhyw berson sy'n perthyn i'r categori y cyfeirir ato ym mharagraff (7) isod.
(5) Yr wybodaeth am ddisgyblion unigol y caniateir i gydlynydd gwybodaeth ei rhoi felly, ar yr adegau y byddo i Weinidogion Cymru benderfynu arnynt, yn unol ag adran 537A(5)(b) o Ddeddf 1996, yw unrhyw wybodaeth o'r fath sy'n ymwneud â chyflawniadau addysgol disgyblion yn y canlynol—
(a)unrhyw asesiad Cwricwlwm Cenedlaethol a wneir o ddisgyblion yng nghyfnod allweddol un, dau neu dri;
(b)unrhyw bynciau TGAU;
(c)unrhyw arholiadau TAG Safon Uwch;
(ch)unrhyw arholiadau TAG Uwch Gyfrannol;
(d)unrhyw bynciau GNVQ; ac
(dd)unrhyw gwrs astudio a ddarperir ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol yn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sy'n gwrs sy'n arwain at gymhwyster a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru neu gan gorff a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(2) (ac eithrio cymhwyster o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) neu (d) uchod).
(6) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(a) uchod yw—
(a)yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi, neu, yn achos ysgol nas cynhelir felly, awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir ynddi'r ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi; a
(b)person sy'n dal Swydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales.
(7) Y categori y cyfeirir ato ym mharagraff (4)(b) uchod yw'r categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac y mae'n ofynnol iddynt gael gwybodaeth am ddisgyblion unigol i'r diben hwnnw.
1973 p.50. Amnewidiwyd adran 2 gan adran 25(1) o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19). Diddymwyd adran 2(4) a (6) gan Ran 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p.38). Mewnosodwyd adran 2(3A) a (3B) gan adran 47(1) o Ddeddf Diwygio'r Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19). Amnewidiwyd adrannau 8 a 10 gan adran 45 o Ddeddf Diwygio'r Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993.
2000 p.21. Diddymwyd is-adrannau 6 a 7 gan erthygl 9(1), paragraff 30 o Atodlen 1 i Orchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005, O.S. 2005/3239 (Cy.244).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: