Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

RHAN 2TALIADAU RHEOLAETHAU SWYDDOGOL AC EITHRIO TALIADAU AM FEWNFORION TRYDYDD GWLEDYDD

Talu tâl glanio o ran rhoi gyntaf ar y farchnad neu werthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol

10.—(1Mae pob un o'r canlynol yn drafodyn y codir tâl amdano at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 11—

(a)rhoi gyntaf ar y farchnad gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol;

(b)rhoi gyntaf ar y farchnad gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol;

(c)gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol; ac

(ch)gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (8), pan fydd yna drafodyn y codir tâl amdano at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 11, rhaid i'r gwerthwr dalu'r tâl y cyfeirir ato ym mharagraffau (3) i (7) (“y tâl glanio”) i'r awdurdod bwyd perthnasol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os rhoi gyntaf ar y farchnad gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yw'r trafodyn y codir tâl amdano, cyfraniad yw'r tâl glanio tuag at y costau a dynnir wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 a hwnnw'n dâl a gyfrifir yn ôl cyfradd o 1 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol a roddwyd gyntaf ar y farchnad mewn mis calendr.

(4Os gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol yw'r trafodyn y codir tâl amdano, cyfraniad yw'r tâl glanio tuag at y costau a dynnir wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 a hwnnw'n dâl a gyfrifir yn ôl cyfradd o 1 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a werthwyd gyntaf mewn marchnad bysgod mewn mis calendr.

(5Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), os gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yw'r trafodyn y codir tâl amdano, cyfraniad yw'r tâl glanio tuag at y costau a dynnir wrth after y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 a hwnnw'n dâl a gyfrifir yn ôl cyfradd o 0.5 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf a 0.25 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol a werthwyd gyntaf mewn mis calendr.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os—

(a)gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yw'r trafodyn y codir tâl amdano ; a

(b)nad yw'r cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yn cael eu graddio o ran ffresni a/neu faint yn unol â Rheoliad 2406/96 neu os nad ydynt yn cael eu graddio'n ddigonol felly,

cyfraniad yw'r tâl glanio tuag at y costau a dynnir wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 a hwnnw'n dâl a gyfrifir yn ôl cyfradd o 1 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a werthwyd gyntaf mewn mis calendr.

(7O ran unrhyw lwyth o bysgod eigionol penodedig sy'n gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol, rhaid i'r tâl glanio beidio â bod yn fwy na 50 Ewro.

(8Pan fo gwir gostau arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 yn llai na'r tâl glanio, rhaid i'r gwerthwr dalu swm hafal i'r costau hynny i'r awdurdod bwyd perthnasol, yn lle'r tâl glanio.

Datganiadau niferoedd a chofnodion sy'n ymwneud â chynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol

11.—(1Cyn pen 7 niwrnod ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifydda, rhaid i'r gwerthwr roi datganiad niferoedd ysgrifenedig i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae'r tâl glanio'n daladwy iddo o ran cyfanswm y trafodion y codir tâl amdanynt ac y mae'r gwerthwr wedi ymwneud â hwy yn ystod y cyfnod hwnnw.

(2Rhaid i'r datganiad niferoedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gynnwys yr wybodaeth ganlynol —

(a)y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;

(b)y lle a'r dyddiad y caiff y cynhyrchion pysgodfeydd y mae a wnelo'r datganiad â hwy eu glanio;

(c)y lle a'r dyddiad y caiff y cynhyrchion hynny eu rhoi gyntaf ar y farchnad neu eu gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod, yn ôl y digwydd; ac

(ch)ar gyfer glaniadau o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a glaniadau o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol ac eithrio pysgod eigionol penodedig —

(i)enw pob llestr a nifer y llwythi sy'n cael eu glanio ohono,

(ii)cyfanswm pwysau'r llwythi sy'n cael eu glanio gan bob llestr ac nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd â'r 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw; a

(iii)cyfanswm pwysau'r llwythi sy'n llai na'r pwysau a gyfrifir o dan baragraff (ii);

(d)ar gyfer glaniadau o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol ac sy'n bysgod eigionol penodedig —

(i)enw pob llestr a nifer y llwythi sy'n cael eu glanio ohono, a

(ii)cyfanswm pwysau'r llwythi sy'n cael eu glanio gan bob llestr ac nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd â'r 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw;

(dd)hysbysiad o unrhyw swm a dalwyd yn rhinwedd paragraff (4) o reoliad 10 ac a dalwyd mewn cysylltiad —

(i)â llwythi o bysgod nad ydynt ond yn bysgod heblaw pysgod eigionol penodedig, neu

(ii)â llwythi o bysgod eigionol penodedig yn unig,

gan nodi'r amgylchiadau a arweiniodd at dalu'r swm hwnnw;

(e)mewn perthynas â llwythi o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol —

(i)cyfanswm pwysau'r holl gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a gaiff eu glanio, a

(ii)cyfanswm swm y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 10 o ran y cynhyrchion hynny; ac

(f)swm y tâl glanio.

(3Yn ystod y cyfnod o 1 flwyddyn yn dechrau ar y diwrnod y mae gwerthwr yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn —

(a)caiff yr awdurdod bwyd perthnasol y rhoddwyd y datganiad iddo ei gwneud yn ofynnol i'r gwerthwr ddarparu gwybodaeth ar wahân o'r math sy'n ofynnol gan baragraff (2) o ran pob trafodyn a gynhwysir ynddo; a

(b)rhaid i'r gwerthwr gadw cofnodion sy'n ddigonol i alluogi'r gwerthwr i gyflenwi unrhyw wybodaeth o'r fath.

(4Bydd unrhyw werthwr a fydd heb esgus rhesymol —

(a)yn methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu (3)(b); neu

(b)yn methu â chydymffurfio â gofyniad a wneir o dan baragraff 3(a),

yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Tâl o ran sefydliadau prosesu

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berchennog neu weithredydd sefydliad prosesu dalu'r tâl y cyfeirir ato ym mharagraff (2) (“y tâl sefydliad prosesu”) i'r awdurdod bwyd perthnasol.

(2Cyfraniad o 0.5 Ewro y dunnell o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n dod i sefydliad at ddiben prosesu fydd y tâl sefydliad prosesu a hwnnw'n gyfraniad at y costau a dynnir gan yr awdurdod bwyd perthnasol pan fydd yn arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004.

(3Pan fo gwir gostau arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 yn llai na'r tâl sefydliad prosesu, rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd dalu swm sy'n hafal i'r costau hynny i'r awdurdod bwyd perthnasol, yn lle'r tâl sefydliad prosesu.

Datganiadau niferoedd a chofnodion sy'n ymwneud â sefydliadau prosesu

13.—(1Cyn pen 7 niwrnod ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifydda, rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd sy'n gyfrifol am dalu'r tâl sefydliad prosesu wneud datganiad niferoedd ysgrifenedig o ran y tâl hwnnw a'i roi i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae'r tâl hwnnw'n daladwy iddo o ran y cynhyrchion pysgodfeydd sydd wedi dod i'r sefydliad dan sylw yn ystod y cyfnod hwnnw.

(2Rhaid i ddatganiad niferoedd y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn —

(a)y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;

(b)pwysau'r cynhyrchion pysgodfeydd sy'n dod i'r sefydliad; ac

(c)swm y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 12.

(3Yn ystod y cyfnod o un flwyddyn yn dechrau ar y diwrnod y mae perchennog neu weithredydd yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn —

(a)caiff yr awdurdod bwyd perthnasol y rhoddwyd y datganiad niferoedd iddo ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog neu'r gweithredydd ddarparu gwybodaeth ar wahân o'r math sy'n ofynnol gan baragraff (2) o ran pob swp o gynhyrchion pysgodfeydd a gynhwysir ynddo; a

(b)rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd gadw cofnodion sy'n ddigonol i'w alluogi i gyflenwi unrhyw wybodaeth o'r fath.

(4Bydd unrhyw berchennog neu weithredydd sydd heb esgus rhesymol —

(a)yn methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu (3)(b); neu

(b)yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan baragraff (3)(a),

yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Dirymu

14.  Dirymir Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2006(1).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources