Search Legislation

Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Rhif 2) 2007

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Rheoliad 2

ATODLEN 2CYFRIFO'R FFI RHEOLAETHAU SWYDDOGOL

Y ffi rheolaethau swyddogol

1.  Yn ddarostyngedig i baragraff 2, y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd unrhyw fangre am unrhyw gyfnod cyfrifyddu yw'r lleiaf o—

(a)y swm o —

(i)y ffi safonol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw, a

(ii)unrhyw ffi ychwanegol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw yn rhinwedd paragraff 6; a

(b)y costau amser a gynhyrchir gan y fangre honno am y cyfnod hwnnw.

2.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r ffi rheolaethau swyddogol a gyfrifir o dan baragraff 1 am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (swm A), pan ychwanegir hi at y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy o ran pob cyfnod cyfrifyddu blaenorol sy'n dod o fewn yr un cyfnod ariannol (swm B), yn cynhyrchu cyfanswm (swm C) sy'n fwy na swm y ffi rheolaethau swyddogol a fyddai'n daladwy o dan baragraff 1 pe bai'r cyfnodau cyfrifyddu hynny yn un cyfnod cyfrifyddu (swm D).

(2Os yw'r paragraff hwn yn gymwys, y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd am gyfnod cyfrifyddu yw'r swm y mae swm D yn fwy na swm B.

(3Yn y paragraff hwn ystyr “cyfnod ariannol” (“financial period”) yw—

(a)y cyfnod sy'n dechrau ar 26 Mawrth 2007 ac sy'n dod i ben ar 30 Mawrth 2008; a

(b)ar ôl hynny, y cyfnod sy'n dechrau ar y dydd Llun sy'n union ar ôl y dydd Sul olaf ym mis Mawrth yn unrhyw flwyddyn ac sy'n dod i ben ar y dydd Sul olaf ym mis Mawrth yn y flwyddyn ganlynol.

Y ffi safonol

3.  Caiff y ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, sy'n daladwy gan weithredydd lladd-dy, ei gyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu cigydda a/neu eu trin yno yn y cyfnod.

4.  Caiff y ffi safonol am gyfnod cyfrifyddu sy'n daladwy gan weithredydd sefydliad trin anifeiliaid hela o ran anifeiliaid hela gwyllt a gafodd eu trin yno yn ystod y cyfnod hwnnw ei chyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol sydd yn cael eu categoreiddio fel anifeiliaid hela gwyllt â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu trin yno yn y cyfnod.

Math o anifailCyfradd fesul math o anifail mewn Punnoedd Sterling
Anifeiliaid buchol
— yn llai na 8 wythnos oed pan gigyddir hwy1.7670
— 8 wythnos oed neu fwy pan gigyddir hwy3.3788
Uncarnolion ac equidae3.1099
Moch
— pwysau carcas llai na 25 kg0.3534
— pwysau carcas sy'n gytbwys â neu'n fwy na 25 kg0.9189
Defaid a geifr
— pwysau carcas llai na 12 kg0.1237
— pwysau carcas rhwng 12 a 18 kg yn gynhwysol0.2474
— pwysau carcas mwy na 18 kg0.3534
Dofednod
— pob brwyliad; pob iâr gast; dofednod eraill sy'n pwyso llai na 2 kg0.0071
— dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast) sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg)0.0142
— dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast) sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg0.0282
Hwyaid a gwyddau
— sy'n pwyso llai na 2 kg0.0071
— sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg)0.0142
— oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5kg0.0282
Tyrcwn
— unrhyw bwysau (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg)0.0169
— oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5kg0.0282
Cwningod a ffermir
— sy'n pwyso llai na 2 kg0.0071
— sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg)0.0142
— oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5kg0.0282
Adar hela bach
— sy'n pwyso llai na 2 kg0.0071
— sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg)0.0142
— oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5kg0.0282
Helfiold daear bach
— sy'n pwyso o llai na 2 kg0.0071
— sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg)0.0142
— oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5kg0.0282
Adar di-gêl0.9189
Mamaliaid tir
— baeddod1.0136
— anifeiliaid cnoi cil o bwysau carcas sy ddim mwy na 18 kg0.3379
— anifeiliaid cnoi cil o bwysau carcas mwy na 18 kg0.3534

5.  Mae'r ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, sy'n daladwy gan weithredydd safle torri neu sefydliad trin anifeiliaid hela o ran cig y daethpwyd ag ef i'r safle neu'r sefydliad yn y cyfnod hwnnw i'w dorri neu i dynnu'r esgyrn yno, i'w chyfrifo drwy luosi â £2.1204 y nifer o dunelli o gig o'r fath.

Y ffi ychwanegol

6.—(1Os bydd yr Asiantaeth o ran cyfnod cyfrifyddu yn tynnu costau uwch oherwydd aneffeithlonrwydd yng ngweithrediad y fangre, caiff, yn unol â'r paragraff hwn, ychwanegu ffi ychwanegol at y ffi safonol a dynnwyd mewn cysylltiad â'r fangre am y cyfnod hwnnw.

(2Bydd y ffi ychwanegol yn swm sy'n hafal i'r costau amser a gynhyrchir gan yr aneffeithlonrwydd am y cyfnod cyfrifyddu o dan sylw.

(3Ni chaiff yr Asiantaeth godi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn onid yw wedi hysbysu'r gweithredydd o'i bwriad i wneud hynny.

(4Rhaid rhoi'r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r Asiantaeth benderfynu ei bod yn dymuno codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn.

(5At ddibenion y paragraff hwn ystyr “aneffeithlonrwydd” (“inefficiency”) yw aneffeithlonrwydd ar ran y gweithredydd ac mae'n cynnwys yn benodol—

(a)oedi cyn dechrau cigydda y gellir ei briodoli i'r gweithredydd;

(b)torri i lawr mecanyddol oherwydd diffyg cynnal a chadw;

(c)camau gorfodi a gymerir gan yr Asiantaeth neu gan swyddog;

(ch)tangyflogaeth arolygwyr a achosir oherwydd methiant y gweithredydd i lynu wrth yr oriau gwaith neu'r arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6);

(d)darpariaeth annigonol o staff cigydda a achosir gan fethiant y gweithredydd i lynu at oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6);

(dd)oedi a achosir gan risgiau i iechyd neu ddiogelwch arolygwyr y gellir eu priodoli i'r gweithredydd; ac

(e)unrhyw newid i oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6) y gellir eu priodoli i'r gweithredydd.

(6At ddibenion is-baragraffau (5)(ch), (d) ac (e), rhaid i'r Asiantaeth a'r gweithredydd gytuno ar oriau gwaith ac arferion gwaith a pharhau i adolygu'r oriau gwaith a'r arferion gwaith a gytunwyd.

(7Os yw'n ymddangos i'r Asiantaeth a'r gweithredydd, ar ôl unrhyw adolygiad o'r fath, ei bod yn briodol i wneud hynny, caniateir iddynt drwy gytundeb pellach amrywio unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).

(8Os bydd unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith wedi cael eu hamrywio yn unol ag is-baragraff (7), rhaid eu trin fel pe baent wedi cael eu cytuno yn unol ag is-baragraff (6).

(9Ni chaniateir codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn o ran unrhyw gostau uwch a dynnwyd oherwydd unrhyw amrywiad mewn oriau gwaith neu arferion gwaith nad yw'n newid oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).

7.—(1Caiff gweithredydd nad yw'n cytuno y gellir cyfiawnhau ffi ychwanegol o dan baragraff 6 ofyn am benderfyniad ar y cwestiwn gan berson a enwebwyd at y diben yn unol ag is-baragraff (3)(a).

(2Rhaid gwneud cais o dan is-baragraff (1) o fewn wythnos ar ôl i'r Asiantaeth roi hysbysiad i'r gweithredydd o dan baragraff 6(3).

(3Os bydd gweithredydd yn gwneud cais o dan is-baragraff (1)—

(a)rhaid i'r Asiantaeth enwebu person o'r rhestr a sefydlwyd o dan is-baragraff (4) i benderfynu'r mater;

(b)rhaid i'r person a enwebir felly roi cyfle i'r gweithredydd a'r Asiantaeth wneud sylwadau ar y mater sydd i'w benderfynu; ac

(c)rhaid i'r person a enwebir felly, o fewn 1 mis o'i enwebiad, benderfynu a oes ffi ychwanegol yn daladwy a hysbysu'r gweithredydd a'r Asiantaeth o'i benderfyniad.

(4Rhaid i'r Asiantaeth sefydlu a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwebu at ddibenion y paragraff hwn a rhaid iddi ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddi eu bod yn cynrychioli gweithredwyr cyn cynnwys unrhyw berson ar y rhestr.

Costau amser

8.  Cyfrifir y costau amser a gynhyrchir gan unrhyw fangre yn unrhyw gyfnod cyfrifyddu (yn ddarostyngedig i baragraffau 9 a 10) drwy—

(a)lluosi'r amser (a fynegir mewn oriau a ffracsiynau o awr) a dreulir gan bob arolygydd sy'n arfer rheolaethau swyddogol yn y fangre honno yn y cyfnod gan y tâl wrth yr awr sy'n gymwys i'r arolygydd hwnnw a benderfynir neu a amrywir yn unol â pharagraffau 11 i 13;

(b)ychwanegu'r canlyniadau at ei gilydd; ac

(c)ychwanegu unrhyw gostau staff lladd-dy a gytunwyd am y cyfnod hwnnw.

9.  Mae'r costau amser o ran unrhyw reolaethau swyddogol yn cynnwys unrhyw daliadau goramser neu lwfansau eraill tebyg a delir i'r arolygydd dan sylw o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau am arfer y rheolaethau swyddogol hynny.

10.  Wrth benderfynu cyfanswm yr amser a dreuliwyd yn arfer rheolaethau swyddogol, mae unrhyw amser a dreuliwyd gan arolygydd—

(a)yn teithio i fangre neu o fangre lle mae'r arolygydd yn arfer rheolaethau swyddogol ac y caiff ei dalu amdano o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau;

(b)yn unrhyw fangre yr aeth yr arolygydd iddi at ddibenion arfer rheolaethau swyddogol ac y caiff ei dalu amdano o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau (ni waeth a fydd yr arolygydd yn gallu arfer rheolaethau swyddogol yno ai peidio); ac

(c)yn unrhyw le arall—

(i)pan fo'r arolygydd ar gael i arfer rheolaethau swyddogol ond nad yw mewn gwirionedd yn eu harfer, a

(ii)pan gaiff yr arolygydd ei dalu amdano o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau,

i'w gyfrifo fel pe bai'n amser yr oedd yr arolygydd yn arfer rheolaethau swyddogol.

11.  Rhaid i'r Asiantaeth benderfynu tâl yr awr sy'n gymwys i arolygwyr, a chaiff benderfynu graddau gwahanol i arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd, gan ystyried am lefel cymwysterau a phrofiad arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau o arolygydd ac ystyried y gost o arfer rheolaethau swyddogol o ran arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd.

12.  Rhaid cyfrifo'r tâl yr awr i unrhyw arolygydd neu ddosbarth o arolygydd fel ei fod yn adlewyrchu y cyfryw gyfrannedd o gostau'r eitemau a restrir yn Atodiad VI i Reoliad 882/2004 a dynnwyd gan yr arolygydd hwnnw neu'r dosbarth hwnnw o arolygydd wrth arfer rheolaethau swyddogol (ond heb gynnwys unrhyw gostau ychwanegol a gymerwyd i ystyriaeth yn unol â pharagraff 9) ag y bydd yr Asiantaeth yn credu ei fod yn briodol ei ddosrannu i'r tâl hwnnw yr awr;

13.  Caiff yr Asiantaeth amrywio unrhyw gyfradd a benderfynir yn unol â pharagraff 11 os yw'n ymddangos iddi, o ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 12, ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny.

14.  Cyn penderfynu neu amrywio'r tâl yn ôl yr awr yn unol â pharagraffau 11 i 13, rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â'r gweithredwyr hynny y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y tâl hwnnw yn ôl yr awr.

Diffiniadau

15.  Yn yr Atodlen hon —

(a)mae i “cynorthwyydd swyddogol” a “milfeddyg swyddogol” yr ystyr a roddir i “official auxiliary” a “official veterinarian” yn eu trefn yn Erthygl 2.1(h) ac (f) o Reoliad 854/2004;

(b)ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw milfeddyg swyddogol neu gynorthwyydd swyddogol;

(c)ystyr “y ffi safonol” (“the standard charge”), yw ffi am unrhyw gyfnod cyfrifyddu a dynnir mewn perthynas â lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri, ac a gyfrifir yn unol â pharagraff 3, 4 neu 5, yn ôl y digwydd;

(ch)ystyr “costau amser” (“time costs”), o ran unrhyw sefydliad am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, yw'r costau a gyfrifir yn unol â pharagraffau 8 i 10; a

(d)mae i unrhyw ymadroddion eraill a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac yn Rheoliad 882/2004 yr ystyr a roddir iddynt yn Rheoliad 882/2004.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources