Search Legislation

Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2007

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3379 (Cy.301)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2007

Gwnaed

27 Tachwedd 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

23 Rhagfyr 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bo'r Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 23 Rhagfyr 2007.

Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996

2.—(1Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(3) wedi'u diwygio (i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru) yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol), ar ôl paragraff (13) mewnosoder y canlynol —

(14) In any proceedings for an offence under regulation 44(1)(a), it is to be a defence to prove that —

(a)the food concerned was sold before 23 December 2008 or marked or labelled before that date; and

(b)the matters constituting the alleged offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulation 2(3) of the Food Labelling (Declaration of Allergens) (Wales) Regulations 2007(4) had not been in operation when the food was sold..

(3Yn Atodlen AA1 (cynhwysion alergenig) —

(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder “2(a). Molluscs and products thereof”;

(b)ar ôl paragraff (6) mewnosoder “6(a). Lupin and products thereof”.

G. Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Tachwedd 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (“y prif Reoliadau”) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae'r prif Reoliadau yn rhychwantu Prydain Fawr gyfan.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn Rhif 2006/142/EC (OJ Rhif L368, 23.12.2006, tt.110-111) sy'n diwygio Atodiad IIIa i Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n rhestru'r cynhwysion y mae'n rhaid iddynt ymddangos o dan bob amgylchiad ar labelu bwydydd. Mae dau gynhwysyn newydd wedi'u hychwanegu at y rhestr honno.

3.  Mae asesiad effaith reoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi'i baratoi a gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn ôl eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 ac Atodlen 11, paragraff 30, o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources