- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
BWYD, CYMRU
Gwnaed
24 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Tachwedd 2007
Yn dod i rym
19 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), 17(2) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 19 Rhagfyr 2007.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2007(3) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn” rhodder_
““ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd(4) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1126/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd o ran tocsinau Fusarium mewn indrawn a chynhyrchion indrawn(5).”.
G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Tachwedd 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/840 Cy. 73) (“Rheoliadau 2007”). Maent yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1126/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod y lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd o ran tocsinau Fusarium mewn indrawn a chynhyrchion indrawn (OJ Rhif L255,29.9.2007, t.14).
2. Mae'r Rheoliadau'n diwygio'r diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn” yn Rheoliadau 2007 er mwyn cynnwys y diwygiadau y rhoddwyd effaith iddynt gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1126/2007 (rheoliad 2).
3. Nid oes asesiad rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.
1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990.
Trosglwyddwyd swyddogaethau i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).
OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.5.
OJ Rhif L255, 29.9.2007, t.14.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: