Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3306 (Cy.293)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007

Gwnaed

22 Tachwedd 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

18 Rhagfyr 2007

Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy (2):

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007 a deuant i rym—

(a)at ddibenion rheoliad 2(3), ar 1 Ionawr 2008; a

(b)at bob diben arall, ar 18 Rhagfyr 2007

Diwygiadau i Reoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru)(Rhif 2)

2.—(1Diwygir Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) (3) fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 3, rhodder—

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â llwythi—

(a)o blanhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn gyntaf Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb; a

(b)o hadau Solanaceae p'un ai a ydynt wedi'u rhestru yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb ai peidio,

sydd wedi'u glanio yng Nghymru o drydedd wlad neu sy'n ddarostyngedig i gytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(4)..

(3Yn lle Atodlen 2, rhodder—

Rheoliad 4

ATODLEN 2FFIOEDD AROLYGU MEWNFORIO (CYFRADDAU GOSTYNGOL)

GenwsNiferGwlad tarddiadFfiFfi (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd)
Blodau wedi'u torri
DianthusFesul llwyth
— hyd at 20,000 o ran niferColombia£0.40£0.60
Ecuador£1.98£2.97
Twrci£3.31£4.96
Israel£4.63£6.95
— am bob 1,000 o unedau ychwanegol neu ran o hynnyColombia£0.003£0.004
Ecuador£0.01£0.02
Twrci£0.02£0.03
Israel£0.03£0.05
— uchafbrisColombia£3.17£4.75
Ecuador£15.88£23.83
Twrci£26.48£39.72
Israel£37.07£55.60
RosaFesul llwyth
— hyd at 20,000 o ran niferEcuador£0.40£0.60
Colombia, Ethiopia, Kenya£0.66£0.99
Uganda, Zambia£1.32£1.98
Tanzania£1.98£2.97
India, Zimbabwe£6.62£9.93
— am bob 1,000 o unedau ychwanegol neu ran o hynnyEcuador£0.003£0.004
Colombia, Ethiopia, Kenya£0.005£0.007
Uganda, Zambia£0.01£0.015
Tanzania£0.01£0.02
India, Zimbabwe£0.05£0.07
— uchafbrisEcuador£3.17£4.75
Colombia, Ethiopia, Kenya£5.29£7.94
Uganda, Zambia£10.59£15.89
Tanzania£15.88£23.83
India, Zimbabwe£52.96£79.44
Ffrwythau
MalusFesul llwyth
Chile£0.93£1.39
— hyd at 25,000 kg o ran pwysauSeland Newydd, De Affrica£1.32£1.98
Yr Ariannin£1.98£2.97
Brasil, UDA£3.31£4.96
Tsieina£4.63£6.95
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyChile£0.03£0.05
Seland Newydd, De Affrica£0.05£0.07
Yr Ariannin£0.07£0.11
Brasil, UDA£0.13£0.19
Tsieina£0.18£0.27
MangiferaFesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o ran pwysauBrasil£0.66£0.99
Periw£6.62£9.93
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyBrasil£0.02£0.03
Periw£0.26£0.39
PrunusFesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o ran pwysauDe Affrica, Twrci£1.32£1.98
Chile£1.98£2.97
Yr Ariannin£3.31£4.96
UDA£6.62£9.93
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyDe Affrica, Twrci£0.05£0.07
Chile£0.07£0.11
Yr Ariannin£0.13£0.19
UDA£0.26£0.39
PyrusFesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o ran pwysauDe Affrica£1.98£2.97
Yr Ariannin£3.31£4.96
Chile£4.63£6.95
Tsieina£6.62£9.93
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyDe Affrica£0.07£0.11
Yr Ariannin£0.13£0.19
Chile£0.18£0.27
Tsieina£0.26£0.39
CitrusFesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o ran pwysauMoroco, Twrci£0.66£0.99
UDA£1.32£1.98
Uruguay£1.98£2.97
Yr Aifft, Israel, Mecsico, Periw£3.31£4.96
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyMoroco, Twrci£0.02£0.03
UDA£0.05£0.07
Uruguay£0.07£0.11
Yr Aifft, Israel, Mecsico, Periw£0.13£0.19
MomordicaFesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o ran pwysauSuriname£6.62£9.93
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnySuriname£0.26£0.39
PassifloraFesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o ran pwysauKenya£1.32£1.98
Colombia£1.98£2.97
Zimbabwe£4.63£6.95
De Affrica£6.62£9.93
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyKenya£0.05£0.07
Colombia£0.07£0.11
Zimbabwe£0.18£0.27
De Affrica£0.26£0.39
Llysiau
Solanum melongenaFesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o ran pwysauTwrci£3.31£4.96
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyTwrci£0.13£0.19

Pan fo cyfanswm unrhyw ffi yn swm sy'n llai na £0.01, mae'r swm hwnnw i'w hepgor..

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

22 Tachwedd 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006 (O.S. 2006/2832 (Cy.253)) (“y prif Reoliadau”). Mae'r prif Reoliadau yn rhoi ar waith Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L 169, 10.7.00, t. 1), sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd i dalu'r costau sy'n digwydd oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion ar fewnforion penodol o ran planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o drydydd gwledydd.

Mae'r Rheoliadau hyn: (a) yn ymestyn cymhwysiad y prif Reoliadau at lwythi sydd wedi'u ffurfio o nwyddau sy'n tramwy o fewn y Gymuned Ewropeaidd y cytunodd Gweinidogion Cymru gyda chorff swyddogol pwynt mynediad y nwyddau hyn yn unol â Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy.158)), y byddent hwy, Gweinidogion Cymru, yn gyfrifol am faterion penodol; a (b) yn gosod Atodlen 2 newydd yn lle'r un bresennol yn y prif Reoliadau, i roi eu heffaith i'r cyfraddau gostyngol diweddaraf y cytunwyd arnynt ar gyfer arolygiadau o ddeunydd penodol. (Mae Atodlen 2 i'r prif Reoliadau yn cynnwys darpariaeth am gyfraddau gostyngol ar gyfer planhigion penodol a chynhyrchion planhigion penodol a'r rheini'n gyfraddau y cytunwyd arnynt o dan y weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 13d(2) a 18(2) o'r Gyfarwyddeb.) Mae'r newidiadau i'r ffioedd a wneir gan y rheoliadau hyn, sydd wedi'u gosod ar gyfran o'r ffi safonol (a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau) sy'n cyfateb i gyfradd yr arolygiadau, yn seiliedig ar gyfraddau arolygu y cytunwyd arnynt ac a osodir isod:

Cafodd asesiad effaith rheoleiddiol ei baratoi mewn perthynas â rhagflaenydd y prif Reoliadau (O.S. 2006/171 (Cy.22)). Gellir cael copi ohono gan yr Adran dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

GenwsGwlad tarddiadCyfradd flaenorol yr arolygiadauFfi gychwynnol(1)Cyfradd newydd yr arolygiadauFfi gychwynnol, a bennir yn Atodlen 2
(1)

Y ffi gychwynnol fesul llwyth ar gyfer blodau wedi'u torri (hyd at 20,000 o ran nifer) a ffrwythau a llysiau (hyd at 25,000 kg o ran pwysau). Gosodir ffioedd cyfatebol yn y Rheoliadau ar gyfer niferoedd ychwanegol, yr uchafbris fesul llwyth ac ar gyfer oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd.

(2)

Mae llwythi sy'n ddarostyngedig i gyfradd arolygu o 100% wedi'u heithrio o'r cynllun cyfraddau arolygu gostyngol ac maent yn ddarostyngedig i'r ffioedd arolygu mewnforio a bennir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau.

Blodau wedi'u torri
AsterZimbabwe50%£6.62100%(2)
DianthusIsrael25%£3.3135%£4.63
DianthusMoroco50%£6.62100%
RosaEcuador5%£0.663%£0.40
RosaEthiopia25%£3.315%£0.66
RosaIsrael10%£1.32100%
RosaKenya1%£0.135%£0.66
RosaTanzania25%£3.3115%£1.98
RosaUganda5%£0.6610%£1.32
RosaZimbabwe25%£3.3150%£6.62
Ffrwythau
FortunellaIsrael50%£6.62100%
FortunellaDe Affrica75%£9.93100%
MalusUDA15%£1.9825%£3.31
MangiferaBrasil10%£1.325%£0.66
PassifloraDe Affrica75%£9.9350%£6.62
PrunusYr Ariannin15%£1.9825%£3.31
PrunusChile10%£1.3215%£1.98
PrunusTwrci15%£1.9810%£1.32
PrunusUDA35%£4.6350%£6.62
PyrusYr Ariannin15%£1.9825%£3.31
PyrusChile25%£3.3135%£4.63
PyrusDe Affrica10%£1.3215%£1.98
CitrusIsrael15%£1.9825%£3.31
CitrusPeriw75%£9.9325%£3.31
CitrusTwrci15%£1.985%£0.66
CitrusUDA15%£1.9810%£1.32
CitrusZimbabwe75%£9.93100%
Llysiau
Solanum melongenaTwrci75%£9.9325%£3.31
(2)

Adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)

O.S. 2006/1643 (Cy.158), y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources