- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Gwnaed
22 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
23 Tachwedd 2007
Yn dod i rym
18 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1), ac a freiniwyd ynddynt(2) bellach;
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3) ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriadau yn y Gorchymyn canlynol at Benderfyniadau penodol i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro:
1967 p. 8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8.
Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honno yw'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 p.32 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
1972 p. 68. Mae Atodlen 2, paragraff 1A, a fewnosodwyd gan Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51), adran 28, yn darparu ar gyfer cynnwys mewn is-ddeddfwriaeth gyfeiriadau at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: