- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Rheoliad 2(1)
ystyr “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yw —
cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwyd, ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â —
rheoli gweddillion meddyginiaethau milfeddygol a sylweddau eraill o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997(1),
rheoli gweddillion plaleiddiaid o dan Reoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf Gweddillion mewn Cnydau, Bwyd a Bwydydd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 2005(2),
cymhwyso rheolau y caniateir cydnabod arbenigedd traddodiadol a warentir odanynt ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd penodol osodir yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 509/2006 ar gynhyrchion amaethyddol a bwydydd fel arbenigeddau traddodiadol a warentir(3),
cymhwyso rheolau a osodir ar gyfer gwarchod dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol cynhyrchion amaethyddol a bwydydd penodol a osodir yn Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 510/2006 ar warchod dynodiadau daearyddol a dynodiadau tarddiad cynhyrchion amaethyddol a bwydydd(4),
rheoli cynhyrchion organig o dan Reoliadau Cynhyrchion Organig (Mewnforio o Drydydd Gwledydd) 2003(5) a Rheoliadau Cynhyrchion Organig 2004(6),
rheoli labelu cig eidion o dan Reoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001(7), a
rheoli mewnforio a masnachu o ran cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid —
o dan Reoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(8), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 3 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth, a
o dan Reoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005(9), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 5 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth;
y materion a reolir o dan Atodlen 2 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006(10) i'r graddau y mae'r Atodlen honno yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir er mwyn i bobl eu bwyta, ynghyd â'r materion a gwmpesir gan bwynt 2 o Ran II o Bennod A o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau er mwyn atal, rheoli a difa enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol(11)
cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran deunyddiau a gwrthrychau mewn cysylltiad â bwyd; ac
cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mharagraff 1 o Ran AI o Atodlen I i Reoliadau 852/2004 o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.
O.S. 1997/1729, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/3590, O.S. 2004/147, O.S. 2005/3254 (W.247) ac O.S. 2006/755.
O.S. 2005/3286, a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/985, O.S. 2006/1742, O.S. 2006/2922, O.S. 2007/971 ac O.S. 2007/2083.
OJ Rhif L93, 31.3.2006, t.1
OJ Rhif L93, 31.3. 2006, t.12.
O.S. 2004/1604, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/2003 ac O.S. 2006/2075.
O.S. 1996/3124, diwygiwyd gan O.S. 1997/3023, O.S. 1998/994, O.S. 1999/683, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (Cy.131), O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/1660 (Cy.119), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2001/2219 (Cy.159), O.S. 2002/47 (Cy.6), O.S 2002/129 (Cy.17), O.S. 2003/3229 (Cy.309) ac O.S. 2004/1430 (Cy.144) O.S. 2005/1310 (Cy.92) ac O.S. 2006/2407.
OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf wrth wneud yr offeryn hwn gan Reoliad (EC) Rhif 1923/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 sy'n gosod rheolau er mwyn atal, rheoli a difa enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L404, 30.12.2006, t.1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: