- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
6.—(1) Fel canllawiau i awdurdodau bwyd anifeiliaid ac awdurdodau bwyd, caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi codau arferion a argymhellir ynghylch—
(a)swyddogaethau a roddwyd i'r awdurdodau hynny yn rhinwedd eu swyddogaeth fel awdurdodau cymwys gan neu o dan Reoliad 882/2004; neu
(b)gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio;
a rhaid gosod y cyfryw godau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi iddynt gael eu dyroddi.
(2) Caiff yr Asiantaeth, ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru, roi cyfarwyddyd i awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â chod a ddyroddir o dan y rheoliad hwn.
(3) Wrth arfer y swyddogaethau a roddwyd iddynt fel awdurdodau cymwys gan neu o dan Reoliad 882/2004, rhaid i bob awdurdod bwyd anifeiliaid ac awdurdod bwyd—
(a)rhoi sylw i unrhyw ddarpariaeth berthnasol mewn unrhyw god o'r fath; a
(b)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn ac sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â'r cod hwnnw.
(4) Bydd unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (2), ar gais yr Asiantaeth, yn gyfarwyddyd y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol.
(5) Rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud cais o dan baragraff (4).
(6) Cyn dyroddi unrhyw god o dan y rheoliad hwn, bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: