- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
22. Yn y Rhan hon o'r Rheoliadau—
ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r awdurdod gorfodi bwyd anifeiliaid neu'r awdurdod gorfodi bwyd;
ystyr “awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru” (“outside Wales enforcement authority”) yw'r corff sy'n gyfrifol am orfodi'r ddeddfwriaeth sydd mewn grym mewn perthynas â chynhyrchion a fewnforiwyd mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac eithrio Cymru;
nid yw “bwyd anifeiliaid” (“feed”) yn cynnwys ychwanegion o fath a grybwyllir yn Erthygl 6(1)(e) neu baragraff 4(d) o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion i'w defnyddio mewn maeth i anifeiliaid(1) neu unrhyw rag-gymysgedd sydd wedi'i ffurfio'n unig o gyfuniad o'r ychwanegion hynny;
ystyr “y Comisiynwyr” (“the Commissioners”) yw Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;
ystyr “cynnyrch” (“product”) yw bwyd anifeiliaid neu fwyd y mae ei fewnforio wedi'i reoleiddio gan Erthygl 15 o Reoliad 882/2004 (bwyd anifeiliaid a bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid ac nad ydynt wedi'u cynnwys o fewn cwmpas Cyfarwyddeb 97/78/EC) ac mae'n cynnwys y cynhyrchion bwyd cyfansawdd hynny a restrir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC sy'n gosod y rhestr o gynhyrchion sydd i'w harchwilio wrth safleoedd arolygu ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC(2), sy'n cynnwys rhestr gyfyngedig yn unig o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac sydd o'r herwydd wedi'u heithrio o ddarpariaethau Cyfarwyddeb 98/78/EC gan Erthygl 3(1) o'r Penderfyniad hwnnw;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Darpariaethau Mewnforio;
ystyr “y tiriogaethau perthnasol” (“the relevant territories”) yw'r tiriogaethau y cyfeirir atynt yn Atodiad I i Reoliad 882/2004.
OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.29.
OJ Rhif L121, 8.5.2002, t.6.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: